Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gan FEDDYG CREDAl'R hen bobl. a chredem ninnau pan oeddym blant, fod bodau bychain a elwid yn Dylwyth Teg, oedd â'r gallu ganddynt i helpio neu rwystro dyn. Credai'r hen bobl hefyd os clafychai un o wartheg hwn a hwn, neu os surai ei laeth, mai gwaith y Tylwyth Teg ydoedd. Yn yr oes olau hon, diystyrrir syniadau'r hen bobl, ond nid oeddynt ymhell o'r gwir. Yr oedd y llaeth yn suro a'r gwartheg yn clafychu oherwydd bod bodau bychain anwel yn dylanwadu arnynt ond yr enw a roddir arnynt heddiw yw Trychfilod. Y mae'r trychfilod hyn yn fychain—yn anweledig i'r llygad noeth. Rhaid cael offeryn arbennig, chwyddwydr nerthol, i'w gweld. Y maent yn fyw fel chwi a minnau, yn anadlu, yn tyfu, ac yn lluosogi. Lluosogant yn gyflyni iawn,dyblant eu nifer bob ugain munud. Y maent yn lluosog dros ben, a bron na ellir dweud eu bod ym mhobman. Y maent yn yr awyr a anadlwn, ac ar y bwyd a fwytawn y mae taenen ohonynt ar ein croen, ond drwy drugaredd nid ŷnt oll yn niweidiol. Y mae'r mwyafrif mawr ohonynt yn llesol i ddyn,—er enghraifft, y rhai sy'n effeithio ar wrtaith i ollwng y nitrates sy'n hanfodol i lysiau fyw. Y mae tri dosbarth mawr o'r hedynnau sy'n niweidio dyn. Fel y dywedais, y mae'r trychfilod hyn yn oll-bresennol, ac y mae tair ffordd y gallant fynd i'r gwaed. (1) Trwy'r ffroenau, — dyma'r ffordd y caiff amryw y ddarfodedigaeth, an- adlu awyr sy'n llawn o'r trychfilod. (2) Trwy'r genau,—yn enwedig os yw'r genau'n ddolurus a'r dannedd yn fudr neu'n ddrwg. (3) Drwy doriad o'r croen. Pan â'r bodau hyn i'r corff, fe geisia'r corff ei amddiffyn ei hun rhagddynt fe gy- hoeddir rhyfel, a chawn yr hyn a elwir yn llid neu enyniad. Od oes undyn wedi cael casgliad ar fys, fe ŵyr yn dda arwyddion llid, dyma hwynt chwydd, poen, cochni a gwres. Y mae'r cwbl i'w priodoli i'r rhyfel cartref hwn. Y mae yn y gwaed fodau bach-Corffilod Gwyn y Gwaed, neu filwyr bach. Eu gwaith hwy yw amddiffyn y corff rhag ymosod- iadau gan drychfilod a'r cyffelyb. Fel arfer y mae saith mil ohonynt ym mhob diferyn o waed, ond pan fo llid yn rhywle fe gynhydda'u nifer hyd at ddeng mil. Gallant ladd yr hedynnau, ac yna eu bwyta,­a phed edrychid drwy'r chwydd- Yn Ystafell Uawfeddyg (trwy ganiatad St. Bartholomew's Hospital, Llundain). Tri PHRY Bach Sy'n wydr ar gasgl fe welid amryw o'r milwyr hyn, â germs marw o'u mewn. Nid yw'n ddigon, fodd bynnag, lladd y trychfilod er gwella, oherwydd y maent yn taflu allan wenwyn a elwir vn Toxin. Er i'r gelyn gael ei ladd, y mae'r toxin yn effeithio ar y corff. I wrthsefyll hwn, y mae'r corff yn taflu'r hyn a elwir yn anti-toxin, sy'n dirymu'r toxin megis y gwna surni ddirymu alkali. Weithiau bydd y corff yn taflu mwy o anti-toxin nag sy'n rhaid wrtho i wrth- weithio'r toxin,­a bydd felly stôr ohono yn y gwaed i wrthsefyll y salwch wedyn. Un o'r afiechydon sy'n achosi mwy o anti-toxin nag sydd eisiau ydyw'r Frech Wen,­a dyna'r syniad sydd y tu ôl i Frech y Fuwch,­y Cowpox. Rhoi dosfa fechan o'r afiechyd i'r plentyn fel y bydd ganddo ddigon o anti-toxin i wrthsefyll yr afiechyd eilwaith. Bydd effaith y cowpox yn gwisgo ymaith ymhen rhyw saith mlynedd, felly y mae'n bwysig cael ail vaccination. Dro arall cawn y corff yn methu troi digon o anti-toxin i wrth-weithio effaith y toxin,—a'r unig beth i'w wneud yw hau chwaneg o anti-toxin yn y corff. Dyna a wneir mewn diphtheria a chlo gên. Pan ddarganfuwyd gan Pasteur mai trych- filod oedd yn gyfrifol am afiechydon, a phan ddaeth Lister a'i ddamcaniaeth y gellid lladd pob trychfil gyda chyffur digon cryf Difrodi Dyn mawr oedd disgwyliad y wlad am oes iach. Fe welwyd yn fuan, fodd bynnag, na ellid lladd y trychfil gyda chyffur heb i hwnnw hefyd dueddu i ladd, os nad lladd, y corff. Y dyddiau hyn yr ym yn troi i geisio gorch- fygu'r trychfil drwy ei gwneud yn anodd iddo fyw. Y mae pob offeryn a ddefnyddir mewn operasiwn yn cael ei ferwi; y mae'r croen yn cael ei olchi a'i ddiheintio cyn gwneud toriad â chyllell, ac y mae hyd yn oed yr (1 dttdalen 288.)