Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llan I 1,000 o Wyryfon SAIF pentref Llangwyryfon yng nghanol gwlad amaethyddol, bellter o tuag wyth milltir o Aberystwyth. Tipyn yn wasgarog yw'r tai, a'r pres- wylwyr yn siopwyr a chrefftwyr. Rhed afon Wyre drwy'r pentref, ac ym- droelli trwy'r dolydd nes cyrraedd y môr yn Llanrhystyd. Ein hyfrydwch ni'r plant oedd pysgota yn yr afon, ac fe demtiai'r brithyllod bach croen-loyw ni i fynd ymhell tu hwnt i sŵm oloch yr ysgol. Parai hyn lawer o ofid inni pan fyddem yn ddiweddar yn mynd i'r ysgol. Un diwrnod fe wnaethom ddarganfyddiad. Pan fyddai'r dŵr yn brin yn yr haf, fe fyddai hen felinydd y pentref yn cronni'r dŵr dros yr awr ginio, a phan ddechreuai'r rhod ddŵr droi eilwaith, fe ddeuai llanw yn yr afon. Yr oedd hyn yn arwydd inni ei bod yn bryd gadael y pysgod a mynd am yr ysgol. Disgyblaeth lem Y mae yma dri lle addoliad Eglwys blwyf, capel Presbyteraidd a chapel Annib- ynwyr. Yn gafael yn dynn yn llaw fy nhad yr euthum am y tro cyntaf i gapel Tabor, Llangwyryfon. Fe fyddai'r ddisgyblaeth yn llym yr adeg honno ni wnâi'r tro i edrych o gwmpas y capel, byddai'n rhaid syllu ar y pregethwr, a chryn gamp oedd hyn i hogiau direidus. Un nos Sul aeafol, goleuid y capel gan lampau olew ac yr oedd y pregethwr wedi mynd i dipyn o hwyl, a'i freichiau ar led yn ceisio gyrru'r gwirionedd adref. Ond wele'i law yn cyffwrdd â'r lamp oedd ar y pulpud, a'r gwydr yn disgyn yn deilchion wrth draed gwyr parchus y sêt fawr. Ceisiwn ddirnad beth fyddai gair cyntaf y pregethwr ar ôl y trychineb, ond ar ôl ysbaid o dawelwch, fe ddywedodd yn hollol hamddenol Wn i ddim a ellwch chi wrando ar ôl hyn." Wel, yr oeddwn i'n ddigon siwr nad oedd yno neb yn cysgu Ieuan Gwyllt yn gwylltio Un tro yr oedd Ieuan Gwyllt yno'n ein dysgu ar gyfer cymanfa ganu. Yn an- PENTREFI CYMRU, XXIV Gan John REES, Nant-y-Moel, Morgannwg ffodus nid oedd safon y canu'n gymeradwy ganddo, ac fe gredai, pe bai'r cantorion ar y llawr yr âi pethau'n well. Gan ei fod i arwain eto ymhen mis, fe roes orchymyn fod yr holl gantorion i fod ar y llawr ond pan ddaeth yr adeg, er ei syndod yr oedd pawb ar yr oriel. Gwylltiodd Ieuan GwyIlt-taniai ei lygaid yn ei ben, a'i wallt modrwyog ar wrych rhuai'n awdurdodol Dewch iawT ar unwaith, oni ddwedais i wrthych y tro o'r blaen fod pawb i fod ar y llawr heno ? Ac wele'r cantorion yn ufuddhau. Yr oedd trwst yr esgidiau hoelion yn dyfod i lawr dros y grisiau fel curo tabyrddau. Er syndod i bawb, yr oedd un wedi aros ar yr oriel fel pe bai'n herio Ieuan. `' Be sydd y mater arnoch chwi," meddai'r arweinydd, dewch 'lawr i ganu ar unwaith Na," meddai'r dyn, oedd yn gerddor adnabyddus, awdur y dôn boblogaidd Islwyn: Dyfod yma i wrando tipyn 'wnes i." "Peidiwch â siarad lol," meddai Ieuan, mae'r Brenin Mawr yn ddigon i wrando yma." Genethod Ursula Y mae i eglwys y plwyf ramant sydd i ni yn yr oes hon fel ffug-chwedl. Bernir fod y pentref wedi derbyn ei enw oddi wrth yr eglwys, Llan y gwyryfon. Y mae'r traddodiadau a berthyn i'r eglwys yn mynd yn ôl rywle i 850 o.c., heibio i'r ddeuddegfed ganrif. Fe gysegrwyd yr eglwys i'r Santes Ursula a'i hun-mil-ar- ddeg o enethod. Fe ddywedir mai hi yw'r unig eglwys ym Mhrydain sydd wedi ei chysegru i'r Santes hon, ac y mae'n syndod fod y fath enwog- rwydd wedi dyfod i bentref bach mor anghysbell. Llangwyryfon, Ceredigion. Y mae diwrnod Santes Ursula yn disgyn ar y 21 o Hydref, ac fe fydd y dydd yn cael anrhydedd arbennig yn Colonge, yr Almaen, Ue y dywedir iddi gael ei merth- jtu. Merch ydoedd Ursula i frenin o Gernj-w. Pan geisiwyd am ei llaw mewn priodas gan fab i dywysog paganaidd fe wrthododd gydsynio, ond ar delerau arbennig. Yr oedd yn rhaid i fab y tywysog ddyfod yn Gristion, ac yr oedd hi a'i genethod i gael gwneud pererindod i wledydd tramor am dair blynedd. Yr hanes diwethaf a geir amdanynt yw Uofruddio'r holl enethod gan fintai o Ger- maniaid (Huns) ac i Ursula, wedi gweld y gyflafan, hithau fynnu'r un dynged â hwy. Saethu cipar yn farw Flynyddoedd yn ôl, fe aeth nifer o fechgyn i botsia i dir gwaharddedig, a dyfod i olwg y cipar. Rywfodd, o fwriad neu heb, fe saethodd un o'r bechgyn y cipar yn farw. Drannoeth yr oedd yr heddgeidwaid ar feirch ac ar draed yn chwilio am y tros- eddwr. Methai pobl yr ardal yn lân syl- weddoli bod eu hen gyfaill yn llofrudd, ac fe gododd pawb fel un gŵr i'w achub o afael y gyfraith, a hwyrach y grocbren. Cuddio'r saethwr Yr oedd yr heddgeidwaid ddydd a nos yn gwylio'r tai a symudiadau'r preswylwyr. Cynigient swm dda o arian i unrhyw un a allai roi ei hanes iddynt, a bygythient gosb lem ar unrhyw un oedd yn ei lochesu. Fe aeth wythnosau lawer heibio, ond methent yn lân gael gafael arno, er nad oedd wedi gadael yr ardal. Yr oedd cywrein- rwydd y bobl wrth ei guddio bron y tu hwnt i ddychymyg. Fe fu'r heddgeidwaid yn yr un ystafell ag ef droeon, eto heb ei weld. Yn y diwedd fe benderfynwyd ei fod i adael y wlad. Un noson, wele gwmni bychan yn cychwyn ar draed. Wedi cerdded dros lawer bryn a phant nes cyrraedd un o'n porthladdoedd ni, fe gafwyd yno long yn barod i hwylio am yr Amerig. Fe laniodd yn y wlad bell yn ddiogel, Ue y bu fyw am lawer o flynyddoedd. Ni fyddai hyn yn bosibl oni bai nad oedd yr un Judas yn yr ardal.