Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TEYRNGED CRYTHOR I'R EISTEDDFOD CAN O GLOD I FERCH PENDEFIG MAE'N debyg mai un o'r artistiaid gorau a glywyd yn yr Eistedd- fod Genedlaethol yn Wrecsam eleni oedd Mr. Henry Holst, a ganai'r crwth (violin) mor odidog yn y cyngerdd cymysg ar y noson olaf. Daniad yw Mr. Holst, ac athro'r crwth ym mhrifysgol Manceinion. Y mae'n un o'r prif feistri ar yr offeryn hwn. Cefais air oddi wrtho yn ddiweddar, yn rhoddi gair o'i brofiad am yr Eis- teddfod. Dyma'r eisteddfod gyntaf erioed i mi fod ynddi." meddai. ac yr oedd yr argraff a gafodd arnaf yn llethol. Rhy- feddol oedd gweled mor rhwydd a di- gymell yr atebai'r bobl i'r gerddoriaeth a glywent. o'r canu gwerin hyd at uchaf- bwynt y gelfyddyd hon,-celfyddyd y credai Beethoven ei bod yn ddatguddiad uwch nag athroniaeth na gwyddoniaeth. Nid wyf yn credu imi gyfarfod erioed â chynulleidfa y cefais fwy o bleser wrth chwarae iddi na'r un a gyfarfûm yn Wrecsam. Mwynheais wrando Harlech.' Tôn ryfeddol yw. Yr wyf yn llawer cyfoethocach fy mhrofiad ar ôl yr Eisteddfod, a mawr yw fy niolch i Gymru am hyn." Rhyw berffeithrwydd UN o'r cantorion yn yr un cyngerdd oedd Miss Ceinwen Rowlands, a hyfrydwch oedd gwrando'i chanu melodaidd, naturiol. Yr oedd rhyw berffeithrwydd yng nghanu Miss Rowlands,­perffeithrwydd oedd yn peri-mai amhosibl, bron, oedd pasio barn arni. 'Rwy'n sicr nad oes neb a all ganu caneuon gwerin mor swynol â hi. Disgyblu'r llais YNG Nghaergybi, Sir Fôn, y ganed Miss Rowlands. Yr oedd ei mam (Mrs. Kate Rowlands) hefyd yn ad- nabyddus fel cantores pan oedd yn ieuanc. Pan oedd yn bymtheg oed, aeth i ddis- gyblu ei llais at y diweddar Mr. Wilfred Jones, Wrecsam, a thra oedd gydag ef enillodd brif wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug, 1923- yr unawd Soprano a'r gân werin. Enillodd hefyd ym Mhwllheli yn 1925 yr unawd Soprano a'r gân werin. Yn Nulyn-zs gwaith AETH i Lundain yn 1930, a bu dan ddisgyblaeth Mr. Plunkett Greene, ac wedi hynny gyda Miss Mabel Kelly. Y mae wedi canu yng nghyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol droeon, ac wedi bod ym mhob 1han o Gymru a llawer o Loegr erbyn hyn. Bu'n canu ar y radio lawer gwaith. Y mae wedi canu ar y radio yn Nulun (Dublin) 25 o weithiau. Mr. Henry Holst. Pennill o fawl 'RWY'N credu imi sôn o'r blaen yn y nodiadau hyn am Miss Elizabeth Scott-EUis, merch Arglwydd Howard de Walden, yn cyflwyno'r aberthged i'r Archdderwydd (Gwili) yng Ngorsedd y Beirdd yn Wrecsam. Cefais oddi wrth Mr. Tom Owen, Cerrig-y- Drudion, bennill o fawl iddi,-pennill ar gynghanedd, ar fesur go anghyffredin. Dyma fe Gyflawn Scot-Ellis gyflwynes ged heulog O rinoedd yr awen er nawdd i rywiog, Yn ei harddwisg eiliw o harddwisg Olwen A ddygai yn wylaidd, a gwenai heulwen. Ba hoff yw o ddrama, bwy a hydd rymus A wylia hen Walia, a wêl yn hwylus Ei hoff urdd yn rhodio ar ffyrdd anrhydedd, Mor hyddysg y'i moria i ddysg a mawredd A mwyn yw ei thraethiad mewn iaith hiraethog Y ffynna cariad yng nghyffiniau Ceiriog. Cymro yn Jerusalem DRWG gennyf oedd clywed am waeledd Mr. John Gibbs, y Cymro sy'n byw yn Haifa, Palestina. Cefais lythyr oddi wrtho o Ysbyty'r Llywodraeth yn Jerusalem. Dydd Sadwrn daeth ein morwyn i fyny o Haifa," meddai, gydag amryw bethau i mi, ac yn eu mysg Y Cymro. Mewn ychydig amser wedi hynny, dyma Mr. Hughes, Jerusalem, yn dyfod i mewn i'r Ward gyda chopi arall o'r Cymro. Rhy hwyr, Hughes,' meddwn wrtho, gan ddangos y copi arall. Ond yr oeddwn yn falch iawn o weld Mr. Hughes. Brodor yw ef o Fetws-y-coed, ac wedi bod yn byw yn Jerusalem ers 40 mlynedd. Lluniau tlws GWLEDD i mi, ar wastad fy nghefn," ebe M. Gibbs, oedd Y Cymro (rhifyn yr Eisteddfod). Yr oedd llun y gadair yn dwyn i'm cof gadair Eisteddfod Abertawe yn 1926, cadair arall o China a ddanfonwyd gan Mr. Levi Rees, brawd y diweddar Dr. Hopcyn Rees, cefndryd i Mrs. Gibbs. Hon oedd y gadair a enillwyd gan D. J. Jones (Gwenallt) o'r Alltwen, mab i'r diweddar Thomas Jones, oedd yn athro i'm gwraig yn ysgol Sul Capel Soar, Pontardawe. Prydferth hefyd oedd lluniau y dawnsiwr bach Rory O'Connor a'r parti dawnsio, ond y llun y cefais foddhad mwyaf oedd llun yr orymdaith yn cyrraedd y pafiliwn. Aeth fy meddwl ar unwaith i Eisteddfod Bangor pan welais blant yr Urdd am y tro cyntaf yn gorymdeithio i'r llwyfan. Nid oedd teulu bach Palestina yn yr Eisteddfod eleni. Yr ydym mewn gwir- ionedd ar wasgar. Mae Mrs. Gibbs a'r ferch yn Abertawe, y bachgen yn station accountant' yn un o orsafoedd yr Iraq Petroleum Coy. yn yr anialwch, rhyw 30 milltir o'r afon Euffrates a rhyw 500 milltir o Haifa." Y Mynd Celtaidd MI fûm am dro yn Nulyn ychydig ddyddiau'n ôl— LIe llawen, heinyf, hyfryd, Lle daw beirdd a lle da byd. Yr oedd y tywydd yn braf; ac awel fwyn yn chwythu o fynwes y môr. Yr oedd gwyrddni'r llawntiau a lliw y blodau yn y Phcenix Park (llygriad o'r Wyddeleg, Fionn Uisge, dŵr teg) yn gwneud