Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFASIYNAU. Gwisgoedd Llachar a Phlu Gan MEGAN ELLIS LLIWIAU! Lliwiau! Lliwiau! Y mae'r cynllunwyr ffasiwn eleni fel pe baent wedi mynd i blith ffenestri lliw hen eglwysi ac at waith edau a nodwydd merched lawer oes yn ôl, i chwilio am liw i'r gwisgoedd. Wn i ddim pwy sydd wedi enwi'r lliwiau, ond dyma rai ohonynt brown Nos Galan- gaeaf melyn llewpard melyn-ddu Zulu glas bryniau yn y pellter wedimachiud haul; sudd grawnwin glas morwr. Fe welir oddi wrth y lluniau mor syml yw dullwedd y gwisgoedd yn y lliwiau y mae'r gyfrinach. YN IACH I'R HETIAU UN-OCHROG. Llawenydd yw clywed bod yr hetiau un- SIWT BUM-DARN, twid lliw blodau'r fagwyr, yn cynnwys sgert, cardigan, côt uchaf, cadach gwddf, a beret. ochrog an-olygus wedi mynd allan o'r ffasiwn o'r diwedd. Yn eu lle fe wisgir hetiau bach o felfed, ac fe lonnir calon llawer merch wrth glywed fod plu'n debyg o fod yn addurno'r het- iau felfed. Gwelir rhai hetiau wedi eu gwneud o blu i gyd, ac eraill gydag esgyll a phlu ospreys arnynt. Lliwiau gemau fel "amethyst," rhuddem, jade," a lapis blue a welir yn yr hetiau melfed hyn. Teganau o Gysgod. Yn ddiweddar, yr oeddwn yn ystyried pa fodd y gallwn addurno ystafell geneth fach deirblwydd oed i roi pleser iddi pan ddigwyddodd, un noson, i'w chysgod ymdaflu ar y mur gwyn, ac ar unwaith fe ddaeth y syniad am addum cysgod — 8ilhouette — i'm meddwl. Dyma brynu papur gydag un ochr yn wyn a'r llall yn ddu am ychydig geiniogau. Rhoddwyd dalen ar y mur gyda'r ochr wen tuag allan, a gofyn i'r fechan sefyll fel y caem ei chysgod i orffwys ar y papur. Yna, nodi ymy] y cysgod â phensal a'i dorri aUan. Wedi gweld mor brydferth ydoedd, fe aethom ati i gael amryw o luniau ohoni mewn gwahanol agweddau un yn chwaiae gyda'i phêl, un arall a'i pharasôl, ac un hoff iawn gennym yw un Ue gwelir hi'n dysgu ei theddy bear y modd i ymddwyn wrth y bwrdd tê. DEL A DIGRIF." Wrth gwrs, yr oedd yr ystafell wedi ei thywyllu, a dim ond lamp yn olau i daflui cysgodion. Cyn gynted ag y gwelem lun del neu ddigrif, fe wnaem aigraff ohono ar y papur gwyn gyda phensal, a thorri'r llun yn ofalus a'i bastio ar y mur â'r ochr ddu tuag allan. Nid wyf yn meddwl y gallaf byth ddinistr- io'r Uuniau. Teimlaf fy mod wedi dal rhywfaint o hoen ac ysbryd nwyfus y plentyn a erys gyda mi tra fyddaf byw. Y mae ei boddhad hithau'n fawr o allu chwarae gyda'i chysgodion liw dydd a'u cael yn gwmni cysurlawn y nos. DWY GOT HYDREF. Y mae un yn dri-chwarter hyd, o blad beige a brown, i'w gwisgo gyda ffroc wlanen frown a beret yr un lliw. Y mae'r gôt arall yn dwid lliw blawd ceirch, a botymau lliw ceirios, gyda ffroc wlân o'r un lliw, a beret o liw blawd ceirch i weddu i'r gôt. Rhuban i ardduno. Fe ddefnyddir rhuban i addurno bron bob peth eleni. Gwelir hyd yn oed fwrdd gwisgo wedi ei drimio â rhuban. Mwslin gwyn, a rhuban fioled wedi ei bwytho arno, a ddefnyddir at orchudd y bwrdd, y llenni a chwrlid i'r gweiy, ac fe fydd y cwbl yn cyd-weddu â chynllun lliw'r ystafell. Y mae llenni hirion o sidan-gwneud lliw ambr yn brydferth iawn, gyda llenni byr o DARLUNIAU CYSGOD i blant bach.