Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DOWY FFROO BRYNHAWN i wraig y tŷ. un yn wlanen las-ganol-nos, gyda llewys, melfed ag ediu arian yn rhedeg drwyddo, a'r llall yn satin du a phatrwm bsige a phinc yma ac acw arno, gyda llewys hirton o laes ddu. fwslin a rhuban ambr vn ei haddurno. Fe welir y syniad pa fodd i'w gwneud yn y darlun. Syniad arall yw, rhwyd sidan 0 liw briallu a modrwyau o ruban gwyrdd gwan a phinc rhosyn wedi eu gosod bob yn ail ar yr hem. Y mae'r modrwyau wedi eu gwneud â darn o ruban naw modfedd o hyd. Gwelir yn y darlun hefyd ffroc i eneth fach i fynd i barti, o sidan golau gyda rhuban pinc gwan yn ei thrimio, a bonet fach i weddu. Taclau hwylus i drydan. Y mae lamp drydan newydd i'w chael sy'n hwylus iawn. Gellir diffodd un ochr iddi a gadael y llall yn olau. Mewn ystafell wely lle mae dau'n cysgu y mae hon yn arbed llawer o anghysur i'r un sydd eisiau cysgu tra yw'r llall yn darllen. Fe welir ei gwerth hefyd mewn ystafell wely plentyn, ac yn enwedig lle bo claf. Teclyn sy'n arbed llawer o drafferth yw hwnnw sy'n goleuo neu diffodd y trydan ond pwyso bys arno, heb symud o'r gwely. Swllt yweibris. SEBON DI-WASTRAFF. Fe wyr pawb peth mor gas yw gorfodi pob aelod o'r teulu, a phobl ddieithr o ran hynny, i ddefnyddio'r un darn o sebon wrth ymolchi. Y mae'n bosibl cael sebon gwlyb mewn llestr fel nad oes eisiau ond ei godi ar un ochr ac fe dywallt ddigon o sebon ar y dwylo. i ymolchi heb wastraffu dim. Y mae'n ddefnyddiol lle mae plant eisiau golchi eu dwylo lawer gwaith yn y dydd, a gwyddom i gyd am y duedd i adael y sebon vn y dwr. eu gwlychu ychydig â dwr. Rhoi'r cwbl mewn lliain wedi ei ysgaldio, gyda thipyn o flawd wedi ei ysgwyd arno. Rhwymo'r lliain yn dynn, a'i stemio am ddwy awr. Poethi'r syrup; ei felysu gydag ychydig o siwgr, a'i roi ar y bwrdd gyda'r pwdin. Am Gwsg. Fedd angosodd hediadau diweddar mewn awyrennau fod rhai pobl â chanddynt y gallu rhyfedd i fynd heb gwsg am amryw ddyddiau. I'r rhan fwyaf ohonynt, fodd bynnag, y mae cwsg cyson a chyflawn mor anhepgor ag awyr a bwyd a diod. Fe fydd colli cwsg yn fuan iawn yn dadwreiddio'r corff cryfaf, ac yn effeithio'n gyflym ar allu y meddwl a'r corff. Fe roddir rheolau cwsg cynghorion i'r di- gwsg, a llu o ffeithiau diddorol eraill yn y Uyfryn bychan diddorol About Sleep," sy newydd ei gyhoeddi gan wneuthurwyr Ovaltine," y diodfwyd adnabyddus. Fe anfonir copi'n rhadd i bwy bynnag a anfono at A. Wander, Ltd., The Ovaltine Factory, King's Langley, Hertfordshire. BWRDD GWISGO a LLENNI wedi eu haddurno ó rhuban. Hefyd, gwisg barti i eneth fach wedi e.i haddurno yn yr un modd. Roli-poli Mefus. DEFNYDDIAU Tun o fefus #ILL E# pwys o siwed #ILL E# pwys o flawd llond llwy dê o bowdr codi Hond llwy fwrdd o siwgr; dwr oer mymryn o halen. DULL Agor y tun a hidlo'r syrup oddi ar y mefus. Rhoi'r blawd, y siwed, y powdr codi, y siwgr a'r halen mewn dysgl. Ei gmysgu'n does heb fod yn rhy feddal, gyda'r dŵr. Ei rolio ar y bwrdd pobi, wedi taenu blawd arno vn gyntaf, a thaenu'r mefus drosto, gyda mymryn o siwgr arnynt. Gwneud rholyn ohono, a chau'r ddau ben yn ofalus, gan Meddu gwallt hardd ydyw un o gaffaeliadau mwyaf ein hoes, ac y mae modd peri i unrhyw wallt edrych yn hardd. Ychydig ddiferynnau o Rowland's Macassar Oil a'i rwbio'n dda i groen y pen bob dydd-fe sicrha hyn fod y maeth angenrheidiol yno, y maeth sy mor fynych yng ngholl oherwydd golchi neu oherwydd cyflwr drwg. Ar gael gan bob cemist neu siop neu dorwyr gwallt, pria 3s. 6d., 7s., a 10s. 6d. Coch at wallt tywyll, aur at wallt golau neu wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 22, Laystall St., Rosebery Avenue, London, E.C.l. J. H. & co.