Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TUDALEN O FARDDONIAETH HEN WR O'R COED. (Orang Utang, yn y Zoo, Llundain.) HEN ŵr o'r coed Buost gynt mewn fforest ddwys yn deyrn; Ond heddiw yn lle'r gwiail glas. Y barrau heyrn. Hen ŵr o'r coed Mor sarrug ar dy sypyn gwellt, 'Does ryfedd fod dy lygaid du Yn poeri mellt." Hen ŵr o'r coed Mae'r dorf yn gwenu o gylch dy gell, Heb gofio am dy gaethgiud oer A'th gartref pell. Hen ŵr o'r coed Nid chwerthin sy'n fy nghalon i. Ond syndod clwyfus, dicter mud A dagrau'n lli. Hen ŵr o'r coed Oes hiraeth arnat am dy fro, Am heulwen gynnes ar y dail Yn Borneo ? Hen ŵr o'r coed Dywedant dy fod dithau'n un O'r teulu, er dy fod mor swrth A gwael dy lun. Hen ŵr o'r coed Paham y ffoist i'r allt mor ffòl Gan lechu ar y llwybrau du Mor bell ar ôl ? Hen ŵr o'r coed 'Rwyt bellach wedi colli'n hiaith, Mae haearn rhyngom ni ein dau A muriau maith. Hen ŵr o'r coed Fu gynt mewn fforest ddwys yn deyrn- Tybed a ddryllia Duw, ryw ddydd, Y barrau heyrn ? WIL IFAN (Dros y Nyth). CLYCHAU CANTRE'R GWAELOD. ODAN y mor a'i donnau Mae llawer dinas dlos Fu'n gwrando ar y clychau Yn canu gyda'r nos Trwy ofer esgeulustod Y gwyliwr ar y tŵr Aeth clychau Cantre'r Gwaelod O'r golwg dan y dŵr. Pan fyddo'r mor yn berwi, A'r corwynt ar y don, A'r wylan wen yn methu Cael disgyn ar ei bron Pan dyr y don ar dywod A tharan yn ei stwr, Mae clychau Cantre'r Gwaelod Yn ddistaw dan y dẁr. Ond pan fo'r môr heb awel A'r don heb ewyn gwyn, A'r dydd yn marw'n dawel Ar ysgwydd bell y bryn, Mae nodau pêr yn dyfod, A gwn yn eithaf siwr Fod clychau Cantre'r Gwaelod I'w clywed dan y dŵr. 0 cenwch, glych fy mebyd, Ar waelod llaith y lli Daw oriau bore bywyd Yn sŵn y gân i mi. Hyd fedd mi goda'r tywod Ar lawer nos ddi-stwr, A chlychau Canfre'r Gwaelod Yn canu dan y dwr. J. J. WILLIAMS. Y CEILIOG FFESANT. OHERWYDD fod d'amryliw blu Fel hydref ar dy fynwes lefn, A phob goludog Liw a fu Yn mynd a dyfod hyd dy gefn, Cadwed y gyfraith di rhag cam; Ni fynnwn innau iti nam. Oherwydd clochdar balch dy big, A'th drem drahaus ar dir y lord, Mi fynnwn heno gael dy gig Yn rhost amheuthun ar fy mord; A byw yn fras am hynny o dro Ar un a besgodd braster bro. R. WILLIAMS PARRY. (Yr Haf a Cherddi Eraill.) ATGO. DIM ond lleuad borffor Ar fin y mynydd llwm; A sŵn hen afon Prysor Yn canu yn y cwm. ä (Cerddi'r BugaÜ). HEDD WYN. Y FERCH O DY'N Y COED. (Y pennill cyntaf yn draddodiadol.) MI fûm yn gweini tymor Yn ymyl Ty'n y Coed, A dyna'r lle difyrra Yr adar bach yn tiwnio Fy nghalon fach a dorrodd Mi 'listia'n ffair g'langaea Mi gymra'r swllt a hwylio Mi ffeiria diwnio'r adar Mi ffeiria'r coed a'u suon A phan ga' i fy saethu Yn goch uwch clwyf fy nghalon. 0 ewch â hi at Gwen. A dwedwch wrth ei rhoddi "Gan Wil fu'n gweini tymor DYFOD pan ddêl y gwcw, Y gwyllt atgofus bersawr Cyrraedd ac yn ffarwelio Dan goed y goriwaered Ar ddôl a chlawdd a llechwedd Y tyf y blodau gleision Mwynach na hwyrolgarol Yn rhwyfo yn yr awel Yn Uenwi'r cof â'u cufiu; Och! na bai'n ddi-drai. Cans pan ddêl rhin y gwyddfld A mynych glych yr eos Ni bydd y gog na'i chlychau Y bûm i ynddo 'rioed: A'r coed yn suo 'nghyd, Er gwaetha'r rhain i gyd. Os na ddaw pethau'n well, Am lannau'r India bell. Am sŵn y bib a'r drwm. Am su'r pelennau plwm. Bydd hancas sidan wen Yn llaw'r greulona 'rioed:—­ Yn ymyl Ty'n y Coed." CYNAN. (Cerddi.) BLODAU'R GOG. Myned pan êl y maent, Yr hen lesmeiriol baent; Ffarwelio, — Och na pharhaent. Yn nwfn ystlysau'r glog, Ond llechwedd lom yr og A dyf yn sŵn y gog. O glochty Llandygai Yw mudion glychau Mai, I'r hafnos ar ei hynt I'r glaswellt megis cynt, Yn gyffro yn y gwynt. R* WILLIAMS PARRY.