Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NID rhyfedd fuasai iddo fyw a marw heb wybod ystyr caredigrwydd; ond unwaith fe gafodd gyfaill, a chan iwnnw hefyd y cafodd ei enw. 0 ba le y daeth ? Ni wyddai ef ei hun, ac ni chrafferthodd neb arall i wybod, ond yn licr, bu unwaith yn un o dorllwyth cybiau chyw fam. Yr atgof cyntaf a feddai oedd ohono'i hun yn crwydro i chwilio am fwyd, gan ofnus asgoi cWn eraill, a chreaduriaid eraill, trwy ;trydoedd yr hen farchnatref. Yn anwydog a newynllyd, un gyda'r nos aeth i fyny stryd gul, ddistaw. Yno gwelai fachgen bach unig yn bwyta bara a chaws; rhaid oedd i'r bachgen hwn wrth faglau i gerdded. Ymddangosai'r stryd gul yn dangnefeddus ddiryfedd i'r ci bach, wedi rhuthr a thwrw'r strydoedd mawr, ac yr oedd rhywbeth yn yr awyrgylch wedi rhoddi mwy o wroldeb iddo nag oedd ganddo ef yn gyffredin, canys cropiodd yn ddistaw at y bachgen cloff, a llyfu ei draed noeth. Rhuthrodd y bachgen ar y creadur bach a grymai wrth ei draed, am ennyd, ond yna dywedodd mewn rhyw sibrwd cryg, "Hylô, Mêt a rhwbio'i gefn blewog, budr, yn dyner, gyda'i droed noeth. Ni fedrai ŵyro i'w gyrraedd â'i law. Eisio bwyd ? meddai'r bachgen dra- chefn, a thaflu iddo ddarn o fara. Llyncodd Mêt y tamaid, ei lygaid yn tanio gan ddisgwyl. Yn damaid ar ôl tamaid, aeth y rhan fwyaf o fara a chaws y bachgen i stumog y ci bach. WEDI hyn, am wythnosau cyfarfu'r ffrindiau hyn yn gyson yn nhangnef yr hwyr, yn y stryd gul, a mwynhâi Mêt y gyfran fwyaf o swper y bachgen efrydd bob tro, a thalai yntau'n ôl trwy lyfu'r traed noeth. Tvfodd Mêt yn gyflym, ac mewn cyfnod byr i ryfeddu daeth yn gi mawr, a'r pryd hwnnw, wrth gwrs, medrai hel porthiant iddo'i hun yn well, o gistiau gweddillion y dref. Er hynny, parhâi'r swper bach yn y stryd gul, hyd nes methodd y bachgen, un noson, a Mêt wedi dyfod ar lam nwyfus i'r fan, am ryw reswm, gadw'r oed. Arhosodd Mêt yno drwy'r nos, yn swnian crïo, ond ni ddaeth ei gyfaill, ac o'r diwedd, o dan orfod ei awydd am fwyd, aeth Mêt i'w hynt arferol heibio i'r cistiau. Yn ffyddlon, dychwelodd y noson yn dilyn, ond cafodd ei siomi eilwaith ni ddaethai'i bachgen efrydd, ac ymhen dyddiau, wedi cael ei siomi bob hwyr, gorfu i Mêt, druan, ymgynefino â bod unwaith eto heb yr ur ffrind. MWNGREL oedd Mêt, ond yr oedd mwj o ddaeargi ynddo nag o un hil arall Yr oedd beUach yn rhyw ddeunaw mis oed ac nid oedd mor ofnus o gyfarfod cŵn eraill ai tharfai hyd yn oed stŵr y strydoedd mawl rhyw lawer arno. HY-LO, MET BACH! STORI FER GAN Y PARCH. W. ROGER HUGHES Ond yn ddiweddar, rywsut, aethai'n fwy anodd cael rhywbeth i leddfu ei ddolur- eisiau-bwyd parhaus nid oedd mor bawdd cael at y cistiau, a gyrrid ef oddi wrthynt yn amlach. Ac felly, un diwrnod prysur yn y dref, wedi bod yn fwy anlwcus nag arfer ar ei hynt yn chwilio am fwyd, mentrodd i'r stryd fawr. Tuthiai'nofalus, gan gadw'n glos at ochr agosaf i'r adeiladau o'r palmant. Yn sydyn, llethwyd ef gan arog- lau da cig cwningen. Troes ei ben, a deaU- odd mai o fasged ar lawr siop v deuai. Nid oedd y siop yn fawr, ac yr oedd rhai cws- meriaid ynddi. Xid oedd y fasged ychwaith ymhell 1 mewn. Yn crynu gan ryfyg, ymblannodd Mêt amdani. Ni chymerth ond amrantiad iddo gydio yn un o'r cwningod stiff, a rhuthro allan drachefn, ond gwelsid ef. Clywai leisiau dynol milain o'i ôl teimlai boen sydyn yn ei feingefn, ond daliodd ei afael yn yr ysbail, a rhedeg â'i holl egni nes cyrroedd llecyn tawel ym mhen pellaf ystryd gul, ddi-annedd. Yno. yn ei encil, buan yr anghofiodd bopeth onid bod ganddo o'i flaen y saig orau a fedrodd ei chael erioed. Cnoai, a Uyncai'n awchus. Ni wyddai Mêt, er hynny, ei weld a'i ddilyn gan ddau fwngrel arall, mwy nag ef ei hun, ond bellach daeth y rhain o hyd iddo safasant o'i flaen gan chwyrnu'n hyll. Am ychydig eiliadau, chwyrnai'r tri'n ddychryn- llyd, ac yna gorfu i Mêt ymladd am ei fywyd. Brathai, rhuthrai, brathai drachefn, yii felltennol gyflym, a chydag ystwythder a nerth diryfedd. ond cyn pen munud neu ddau, fe'i cafodd ei hun wrtho'i hun eU- waith. Yr oedd ei saig wedi mynd. Yn y pellter clywai sŵn ymgyrch cŵn eraill, a gwyddai fod yr ymosodwyr, bellach, yn ymladd â i gilydd am y cig. WEDI hyn. a phrofiadau annymunol eraill, parodd greddf i Mêt ddyheu am fynd ymaith o'i awyrgylch afiach ac un hwyr aeth ar grwydr pell ar ei ben ei hun, a'r sêr uwch ei ben. Tros gaeau, trwy goed- ydd, gan orfoleddu yn ei ryddid, yn nir- gelwch natur a'r nos. Ond wedi mynd ymhell, dechreuai roddi mwy o sylw i'w amgylchoedd nag iddo'i hun. Yn awr ac yn y man, clywai ysgythru rhyfedd yn y coed a'r glaswellt. Yn sydyn, safodd a ffroenio crynodd dipyn, a ffroen- iodd drachefn. Ond nid oedd amheuaeth bellach, synhwyrai—gwningen Ar unwaith deffroes ei holl reddfau hela deallsai ei hun a'i amgylchedd. I ffwrdd ag ef ar ruthr hyfryd, yn herwr aeddfed. Gwnâi gwanc ef yn fedrus hefyd, ac nid hir v b cyn setlo i lawr o dan dwmpath clyd, yn hedd y nos, i fwynhau pryd o gig cynnes, amheuthun, a'r tro hwn heb ofn ymyrraeth neb. Yna, â'i wanc wedi ei lawn ddigoni, am y tro eyntaf yn ei fywyd, nythodd yn gyff- orddus yn isdwf y twmpath i gysgu. Weith- iai câi freuddwyd hapus am yr unig fod hwnnw gynt fu'n ffrind iddo. Drannoeth, deffroes yn Uawn hoen, a buan yr oedd eto'n cael mwynhad mawr yn rhedeg o gwmpas, ac yn hela. Gyda'r nos cafodd helfa arall chwiliodd nes canfod twmpath clyd i orwedd a bwyta, ac wedyn i orffwys, mewn llwyr anwybod ei weld, ar ei hynt olau dydd, gan lygaid dynol dreng. Pan gyfododd yr haul yr eildro, deffroes Mèt yn sŵn brawychus lleisiau dynion yn nesáu. Teimlai ryw arswyd oer yn ei gerdded.—arswyd o fath nis gwybu erioed cyn hynny. Yna, yn rhyfedd o sydyn a distaw, daeth helgi mawr â graen da arno, i'w wyneb, a sefyll yno'n fygythiol lonydd. Am tiliad neu ddwy. — dim ond hynny wedyn rhoes Mêt ysbonc fawr, a rhedeg am ei fywyd. Clywai leisian cynhyrfus o'i gwmpas, ac jna taran fyddarol. Daeth rhyw hunllef ofnadwy dros Mêt gwrthodai ei goesau ôl weithio. Criodd, a chropiodd ymlaen dipyn ar ei draed blaen. Ergyd arall Rholiodd Mêt bach drosodd ar ei ochr, a gorwedd yn llonydd. Rhwyg- wvd yr awvr a'r coed gan chwerthin croch dynion, ond y peth a glywodd y mwngrel bach oedd cyfarchiad llais a adnabyddai gynt "Hylô, Mêt bach Dim eisio bwyd rŵan ?"