Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ar Farddoniaeth a Daear Cymru DEUDDEG GWERS AR FARDDONIAETH DYMA fraslun o'r deuddeg gwers ar Farddoniaeth Cymru sy'n cael eu dar- lledu i'r ysgolion o orsafoedd radio Cymru a'r Gorllewin a'r Gogleddbarth. Ymdrinir yn bennaf â'r delyneg, a rhoddir enghrefftiau gan mwyaf o weithiau beirdd yr oes hon. Medi 25. RHAGARWEINIOL Barddoniaeth a rhyddiaith y gwahaniaeth rhyngddynt, yn syml. Mesur, pennill, odl cân neu delyneg eu nodweddion cyffredinol. Elfennau mesur rhydd a mesur caeth. Y ffordd i'w darllen i gael yr effaith briodol. HYDREF 2. Gwahanol fathau neu batrymau o ganeuon rhydd byr, neu delynegion dangos fel y maent yn naturiol, syml, cynnil. UN PENNILL Gellir cymryd penillion telyn neu hen benillion yn enghreifftiau. Er eu bod yn fyr, eto gwelir cyd-bwysedd a chymesuredd ynddynt. Enghraifft neu ddwy o fysg telynegion diweddar, megis Dim ond lleuad borffor (Hedd Wyn). HYDREF 9. TELYNEG DAU BENNILL NEU DRI Gwrth- gyferbyniad a chyd-bwysedd (elfennau personol ac amhersonol). Enghroifftiau Y Ceiliog Ffesant, R. W. Parry. (a). Nos a Bore, Hen benillion. (a). Melin Trefîn, Crwys. (6). Cwyn y Gwynt, J. Morris-Jones. (b). a = Caneuon yr ymdrin yr Athro Parry- Williams â hwynt. b = Caneuon eraill y gall athro'r dosbarth yn yr Ysgol eu trafod er mwyn dilyn y wers ymlaen. Dangos pa le y mae gogoniant a rhagoriaethau cyffredinol y caneuon hyn, drwy geisio'u dadan- soddi'n syml a'u darllen i'w hegluro. HYDREF 16. TELYNEG GADWYNOG Cân yn esgyn o bennill i bennill. Trafod hwn ar yr un llinellau â'r wers o'r blaen. Hen Wr o'r Coed, Wil Ifan (Dail Iorwg, t. 34). (a). Olychau Cantre'r Gwaelod, J. J. Williams. (a). Ar Ben y Lôn, Sarnicol. (b). Gan yr Athro T. H. PARRY- WILLIAMS HYDREF 23. TELYNEG FALEDOL Stori fach yn dal y gân wrth ei gilydd. Llongau Madog, Ceiriog. (a). Gadael Cartref, Wil Ifan. (a). Y Ferch o Dŷ'n y Coed Cynan. (a). Llyfrau Beirdd y Gwersi. MANION, T. Gwynn Jones. CANIADAU, T. Gwynn Jones. TELYNEGION MAES A MoR, Eifion Wyn. YR HAF A CHERDDI ERAILL, R. Williams Parry. YNYs YR HUD A CHANIADAU ERAILL, W. J. Gruffydd CERDDI'R Bugail, Hedd Wyn. CERDDI Crwys. CERDDI NEwYDD Crwys. CANIADAU Cynan. DAIL IORWG, Wil Ifan. DROS Y NYTH, Wil Ifan. CERDDI OFFEIRIAD, W. Roger Hughes. PLU'R GWEUNYDD, Iorwerth C. Peate. HYDREF 30. CANEUON DISGRIFIADOL, eto'n delynegol oherwydd y modd y disgrifir ynddynt. Blodau'r Gog, R. W. Parry. (a). Y Border Bach, Crwys. (a). Mab y Mynydd, Eifion Wyn. (b). Y Murddyn, Wil Ifan. (b). Y Ffordd Fawr, W. Roger Hughes (C'erddi Offeiriad). (Ь). Tachwedd 6. TELYNEG DDRAMATIG Y bardd yn canu profiad rhywun arall. Caethglud yr Ebol, Crwys. (a). Cán y Fam i'w Phlentyn, Glan Padarn (a). Cloch y Llan, Crwys (b). Tachwedd 13. TELYNEG yn arwain i uchafbwynt tebyg i'r Cadwynog uchod. Tylluanod, R. W. Parry. (a). Gwenoliaid, T. Gwynn Jones. (a). Aberdaron, Cynan. (b). Yn Well na Brawd, Wil Ifan. (b). TACHWEDD 20. Y SONED fel math o delyneg. Egluro ffurf allanol a mewnol dau deip o soned. Y Teip cyntaf Cymryd yr enghreifftiau symlaf a chliriaf o fysg rhai diweddar, megis eiddo W. J. Gruffydd, R. W. Parry, ac eraill. Y Llwynog, R. W. Parry. Mae Hiraeth yn y Môr, R. W. Parry. Tut-Ankh-Amen, Crwys. Blwyddyn Newydd, Iorwerth C. Peate. Tachwedd 27. Y SONED, eto math arall. Y Bedd, T. Gwynn Jones. Cysur Atgof, R. Silyn Roberts. RHAGFYR 4. HEN BENILLION Tipyn o'u hanes. Enghreifftiau o wahanol fathau ohonynt. Eu natur delynegol. Penillion Telyn (Y Flodcugerdd Gymraeg). Penillion Telyn (Cyfres Y Ford GRON, Wreosam). RHAGFYR 11. ENGLYNION (ac ychydig ar y Gynghanedd) Eu neilltuolion. Gwlad a Iaith y Cymro, Caledfryn Cymru, Taliesin o Eifion; Heddwch, Emrys Blodau'r Grug, Eifion Wyn; Y Rhosyn a'r Grug, Pedrog Y Llong, Glan Llyfnwy Y Nos, Gwallter Mechain Y Gwely, Alafon Henaint, J. Morris-Jones Hedd Wyn, R. W. Parry. (Oll o Blodeuglwm o Englynion, W. J. Gruffydd.)