Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDD PEN BLWYDD Y WLADFA GYMREIG. YN 61 arfer y gwladfawyr, meddai'r Drafod, fe gadwyd gŵyl ar ddydd pen blwydd y Wladfa, Gorffennaf 28. Fe ddaeth tyrfa ynghyd i'r Bryn Crwn y prynhawn i wledda ar de a theisen. Mwynhawyd hefyd chwaraeon i blant a phobl ifaine. Barn amryw oedd y cawsant fwy o ddifyrrwch yn yr ŵyl eleni a gellir priodoli hynny i'r ffaith ei bod yn ddiwrnod hyfryd ac nad oedd ganiatâd i redeg ceffylau. Felly yr oedd mwy o unoliaeth yn ein cyfarfyddiad eleni nag arfer. Rhoddwyd gwobrau i amryw am ennill campau. I ddiweddu'r diwrnod cafwyd cyngerdd. Ym Moriah. Dathlwyd yr ŵyl ym Moriah yn deilwng. Yn ystod y prynhawn cafwyd te a danteithion, a deuddeg o foneddigesau hawddgaraf yr ardal yn gweini wrthynt nes cafodd pawb eu digoni. Cafwyd hefyd amryw chwaraeon a mabolgampau i'r ieuenctid. Wedi clirio'r byrddau a chael trefn, dechreuwyd ar brif waith y dydd, sef cyngerdd am saith o'r gloch. Erthygl Y Ford Gron." Yn Y FoRD GRON am fis Gor- ffennaf diwethaf, ceir ysgrif ddi- ddorol o dan y pennawd, Meddyg o Gymro yn Ne Amerig a'i serch at y Wladfa," a darlun da o'r meddyg hynaws. Ystyriwn y disgrifiad o berson- oliaeth a chysylltiadau'r Doctor gyda'r Wladfa yn rhesymol a chywir, ag eithrio un camgymeriad, sef mai ewythr iddo oedd y peir- iannydd Llwyd ap Iwan. Ar gyfrif y darlun a'r ysgrif hon yn arbennig, heb anwybyddu dim ar ysgrifau campus eraill yn y rhifyn, haedda hwn gongl ar- bennig yn ein llyfrgell. LLUNDAIN 0 golofn 3. Trefna'r Undeb a'r Cymry Ieuainc ddwy ddarlith, un gan y Parch. Herbert Morgan, a'r llall gan Mr. Walter Jones. Bwriada llywydd yr Undeb (yr Athro D. Hughes Parry) ymwêld â'r Cymdeithasau, a diau y ceir tymor llwyddiannus dan ei ofal. Fe fu Cymanfa lewyrchus gan Annibynwyr Llundain a siarad effeithiol yn y gyfeillach yn y Tabernacl, King's Cross, gan y Parchn. Samuel Williams, Glandŵr, T. Cenech Davies, Solfach, ac R. Gwylfa Roberts, Llanelli, gyda'r Parch. Ben Davies yn llywyddu. Pregethwyd yng ngwahanol gapeli'r enwad gan y Parchn. T. Ogwen Griffith, Rhyl; W. J. Nicholson, Porthmadog John Phillips, Aberpennar; R. E. Leyshon, Garnant a'r brodyr a enwyd uchod. CYMRY LLUNDAIN YN EHEDEG I GEREDIGION Gan LLUDD. GWR brwdfrydig ydyw Mr. Evan Evans, Russell Square. Er mwyn rhoi hwb i'r Sioe Amaeth ym mhentref ei eni fe aeth ag amryw o Gymry Llundain mewn awyren i Langeitho. Y mae Mr. Evans yn flaenor yn Jewin ac yn aelod o Gyngor Sir Llundain. Dychwelodd y dinasyddion o'u gwyliau a phawb yn canmol y tywydd a'r hwyl. Gwelwyd tyrfa ohonynt yn Eisteddfod Wrecsam, ac aeth tua deg ar hugain ohonom gyda llong yr Urdd i Lychlyn. Uundain a'r Eisteddfod. Diddordeb pennaf yr Eisteddfod i Gymry'r brifddinas oedd yr anrhydedd a roddwyd ar ein Pen- dragon, Syr Vincent Evans, gan Orsedd y Beirdd, a bu hwyl ar y gwledda a'r areithiau. Ni bu Côr y Borough yn llwydd- iannus, ond curwn eu cefnau am gystadlu ac am roi datganiad gwych. Yng nghyfarfod y Cymrodorion bu gwrthdystiad effeithiol gan J.W. Llundain (nid oes eisiau dweud pwy ydyw), yn erbyn an- wybyddu'r Gymraeg yng nghyfar- fodydd y Gymdeithas. Diau bydd gair i gall yn ddigon. Bu un Cymro 0 leiaf yn annerch Cymdeithas Prydain yn Leicester, sef Mr. Ben Davies, un o wyr mawr y fasnach laeth. Fe gy- hoeddodd ef yn ddiweddar lyfryn pwysig yn ymwneud â chynhyrchu a gwerthu llaeth glân. A mi'n sôn am laeth fe ŵyr darllenwyr Y FORD GRoN yn ddiau gynifer o Gymry sydd yn y fasnach yn Llundain ac yn gefn i bob achos Cymreig. Hyderwn na bydd i weithred- iadau'r Bwrdd Canol newydd les- teirio dim arnynt, ond y bydd cytundeb perffaith rhwng y cyn- hyrchwyr a'r gwerthwyr a phawb yn fodlon. Prifathro Aberyrtwyth ? Mi glywais bod awdurdodau Coleg Aberystwyth yn troi i gyfeiriad y brifddinas i chwilio am olynydd i'r Dr. Stuart Jones yn brifathro. Ar wahân i'w gysylltiadau teulu ni ellir meddwl am neb mwy cymwys na'r gŵr a enwir, a buasai ei benodi i Aberystwyth yn ddeff- road i'r ysbryd Cymreig yn y coleg ac yn ddwfn ei ddylanwad ar Gymru gyfan. Symud i'r wlad. Cyn yr ymddengys y nodion hyn bydd y Parch. David Griffiths, Ficer Eglwys St. Mair, Camberwell, wedi symud oddi yma ac ymsefydlu yn y wlad. G-wr annwyl ydyw'r ficer ac fe wnaeth waith mawr yn ystod ei arhosiad yn Llundain. Ei olynydd fydd y Parch. H. D. Lewis, Senghenydd, Morgannwg. Llawen iawn oedd gan bawb ohonom ddeall am lwyddiant Madame Laura Evans Williams yn ei datganiad o Gân y Cadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Tymor y gaeaf. Fe ddaeth tymor y gaeaf ar ein gwarthaf a cheir yn Y Ddolen restr faith o gyfarfodydd a drefn- wj-d yn barod. Fe fydd Dr. Elvet Lewis yn cadw dosbarthiadau mewn Llenyddiaeth Gymreig ynglYn â Chymdeithas y Cymry Ieuainc, ac mi welais hefyd y cedwir dosbarthiadau yn y Oymraeg yn y Morlejr College. I waelod colofn 1. Y mae eleni yn Ganmlwyddiant Mynyddog, CANEUON MYNYDDOG TRYDYDD CYNNIG MYNYDDOG (Cyfres y Fil, Rhif 2) Clawr lliain, 2!- HUGHES A'I FAB. TRI CHYFARFOD MAWR YM MANCEINION. Gan HENRY ARTHUR JONES. MR. MAURICE JONES, prif- athro Coleg Dewi Sant, Llan- bedr, sydd i draddodi darlith gyntaf tymor gaeaf y Gymdeithas Genedlaethol, ar Hydref 6. Cymru Heddiw fydd ei destun. Brodor o Drawsfynydd ydyw'r Dr. Jones, ac y mae'n ŵr disglair ei ddysg a gwlatgar ei ysbryd. Fe'i hadnabyddir mewn cylchoedd eisteddfodol wrth yr enw Meurig Prysor. Y mae'n dra ehymwys i draethu ar y testun hwn-Cymru heddiw- oherwydd yn ogystal â bod yn enwog fel ysgolhaig, y mae'n ŵr sy wedi gweld llawer ar y byd. Fe fu'n gwasnaethu'n gaplan yn rhyfel De Affrig, ac wedyn yn Aldershot, Golchester Curragh Camp, Malta a Jamaica. Y mae'n awdur amryw esboniadau ar Epistolau Paul a'r Pedair Efengyl. Fe draddodir darlith nesaf y Gymdeithas, Hydref 20, gan y Parchedig D. Tecwyn Evans. Ei destun fydd Puleston "-y di- weddar Ddr. J. Puleston Jones. Deheulaw Cymdeithas. Fe fu cyfarfod cynnes yng nghapel Moss Side, Medi 9, i groesawu'r Parchedig D. L. Rees ar ei ddyfod i'r ddinas yn fugail ar yr eglwys. Fe ddaeth dirprwy- aeth o'r de i'w gyflwyno, ac fe siaradwyd yn uchel amdano yn ddyn, pregethwr ac ysgolhaig. Cymanfa Ganu. Fe fydd Cymanfa Ganu flynyddol eglwysi Presbyteraidd y cylch, ym Moss Side, ddydd Sadwrn, Hydref 7, o dan arweiniad Mr. Tom Carrington. Y mae'r Gymanfa hon yn hen sefydliad Uewychus, wedi'i ehynnal vn ddi-fwlch ers 40 mljmedd. Fe fydd cwrdd pregethu Moss Side y drannoeth wedi'r Gymanfa (Hvdref 8), pryd y gwasnaethir gan y Parch. W. J. Jones, Llundain. AIL GYNNIG Clawr papur, gc.