Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL IV. RHIF 9. Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WRECSAM. Tileffôn: Wrecsam 622. Lcndon Ageney: Thanet House, 231-2 Strand. Y Rhai Dedwydd GWYN eu byd bawb sy'n cael eu difyrrwch a'u digonedd yn eu bywyd bach eu hunain y dyddiau hyn. Dedwydd yw y rhai hynny y llenwir eu bryd gan helyntion y fferm neu'r tyddyn. yr achos," y canu neu'r prydyddu. ynghyd â llwydd neu aflwydd hwn-a-hwn c'r teulu neu'r gymdogaeth. tra fo popeth o'r tu allan. yn debyg i ymadroddion mewn iaith ddieithr. yn syrthio ar y glust, heb gyfleu dim i'r meddwl nac i'r teimlad. Fe ddarllenir neu fe glywir ganddynt am gynnydd Ffasgaeth am arbrofion chwyldroadol Rwsia a'r America mewn gwlad-lywiaeth am yr anfodlonrwydd yn y wlad hon ar gynlluniau neu ddiffyg cynlluniau'r Weinyddiaeth bresennol yn- glyn ag iawn-drefniant gwaith ac elw. Ond y mae'r pethau hyn oll y tu allan i gylch eu profiad y maent mor haniaethol a di-sylwedd â damcaniaeth Einstein, ac nid yw eu diddordeb ynddynt ond ffug. Halen y ddaear GWYN eu byd. Efallai mai hwynt-hwy yw halen y ddaear, a'u bod mewn gwirionedd wedi cyrraedd y safon o ddedwyddyd ac o gyd-wasanaeth, ynghyd â'r diwylliant hefyd, y bu gweledyddion ac athronwyr yr oesau yn eu dal o flaen dynol- ryw. Gellir dywedyd hyn Y mae'n ddi- ddadl fod cystal safonau moes a chymdogaeth dda (ac efallai fwy o foneddigeiddrwydd naturiol, mwy o dynerwch ysbryd) i'w cael yn y cylchoedd cyfyng hyn nag mewn cym- deithas ehangach ei bryd, fwy effro, fwy gwâr yn yr ystyr gyffredin i'r gair. "In arn Nid yn y cylch cyfyng, er enghraifft, y ceir defnyddiau rhyfel neu chwyldro. Ac y mae'r un mor ddiamau fod i'r bywyd distaw, cyfyng, ei binaclau ei hun o ddoeth- ineb gloyw, o farn aeddfed, ac o werthfawr- ogiad o gelfyddyd a phrydferthwch. Esgus "Perygl Rhyfel" Y MAE un hawlfraint gan bawb, boed eu cylch yn gyfyng neu yn eang, sef yr hawl i ddewis eu penaethiaid, ai henaduriaid yr eglwys y bônt, ai aelodau cyngor tref neu sir, ai cynrychiolwyr Sen- eddol. Fe all llais un gweithiwr distadl droi'r fantol fe all pleidleisiau llu o gyffelyb wŷr wedd-newid wyneb sir, newid cwrs deddfwriaeth, a dymchwel ymerodraethau. Hawl y dyn a'r ferch unigol i weithredu barn ac i ddewis eu blaenoriaid o bob math yw hanfod a sylfaen y drefn lywodraethol sydd gennym yn y wlad hon. Y mae'n werth atgofio'r ffaith y dyddiau hyn pan yw'r hawl hon trwy drais neu dwyll, yn cael ei dwyn oddi ar bobl Ewrob. Y mae tueddiadau cryfion yn dyfod i'r golwg i'r un perwyl ym Mhrydain hefyd. Nid yng nghynllwynion Ffasgiaid ar un tu, a'r blaid Gomunaidd ar y tu arall y mae'r perygl i gyd. Fe fyddai'n gyfieus iawn i benaethiaid unrhyw blaid wleidyddol mewn anhawster fedru diddymu grym y Senedd a ffurfio unbennaeth i weithredu yn ôl ei mympwy ei hun, fel y gwneir eisoes yn amryw o wledydd Eicrob. Y mae'r perygl yn nes nag a sylweddolir gan y lliaws. Awyrgylch ffafriol iawn i dwf syniadau unbenaethol yw'r stad o ofn a diffyg ymddiried a sôn am ryfel yr ym yn byw ynddi ar hyn o bryd. Esgus campus a fyddai perygl rhyfel dros sefydlu ffurf newydd o lywodraeth, seiliedig ar ewyllys a mympwy un glymblaid feiddgar. Rhaid amddiffyn ac ennyn gwerthfawr- ogiad o'r newydd yn hawlfraint y werin bobl i ddewis. Ac y mae'n rhaid i'r dyn cyffredin wrth faen prawf newydd-os newydd hefyd-yn newisiad ei arweinwyr, sef cymeriad. Cawsom ar y mwyaf o glyfrwch ers rhai blynyddoedd bellach. Cymru a'r B.B.C. ERS mwy na blwyddyn bellach bu apelio dwys drwy amryw sianelau dylanwadol at y B.B.C. i wneud cyfiawnder â Chymru ynglŷn â gwasanaeth y radio. Efallai yr argyhoeddir pawb bellach, wedi cael atebiad peiriannydd y B.B.C. i Gyngor Machynlleth, nad oes gan reolwyr y sefydliad Seisnig hwn y gronyn lleiaf o ddealltwriaeth (heb sôn am gydymdeimlad) o safle ac ewyllys Cymru Gymraeg ynglŷn â'r cwestiwn. Fel y dywedwyd yn Y Ford Gron dros flwyddyn yn ôl, fel tiriogaeth debyg i Swydd Efrog neu Ddyfneint, heb ddim gwahaniaeth rhyngddi a'r gweddill o'r deyrnas oddieithr ei safle ddaearyddol, yr edrychir ar Gymru gan bobl y B.B.C. Yr un broblem yn eu golwg hwy sydd ganddynt i'w hwynebu yn holl barthau'r deyrnas fel ei gilydd, sef i lunio (1) rhaglen genedlaethol i foddhau'r mwyafrif (2) rhaglenni rhanbarthol i foddhau chwaeth neu chwiw pobl y rhanbarthau hynny yn y lIe cyntaf, ac yn yr ail Ie i alluogi gwran- dawyr ym mhobman i newid eu rhaglen oni bydd y National" yn rhoi pleser iddynt. 0 fewn terfynau'r dehongliad hwn o'u swydd, rhaid cydnabod bod y B.B.C. wedi llwyddo'n rhyfeddol i roddi boddhad a gwneud nid ychydig o les addysgiadol. Rhaid cydnabod ymhellach eu bod wedi ceisio cyfarfod y galw am rywbeth yn Gymraeg weithiau megis y cyfarfyddant ddymuniadau pobl Lancashire am ambell ddrama yn llediaith y sir honno. Nid yw'r cwbl ond taflu tameidiau i geisio distewi lleisiau'r lleiafrif anfodlon, wrth gwrs, ond a barnu yn ôl amgyffrediad y B.B.C. o'u swydd, sef boddhau mwyafrif gwrandawyr Prydain, gellir yn hawdd addef eu bod yn gwneud eu gorau. Un o ddau beth YR aflwydd yw nid yn unig na wna gorau'r B.B.C. mo'r tro i Gymru ond eu bod hwy'n methu deall hynny. Ofnwn na allant byth ddeall ond fe ddylid rhoddi'r cyfle clir iddynt wneud hynny. Y tro nesaf y danfonir dirprwyaeth swydd- ogol ynglŷn â'r cwestiwn, awgrymwn iddynt ofyn i Syr John Reith pa gyfnewidiad a wnâi ef yn ei raglenni pe gelwid ar y B.B.C. i ddarlledu i bobl Ffrainc neu Ffinland. 0 bosibl y teimlai y byddai rhoddi hanes manwl yn y Saesneg am bethau fel rasus Ascot a'r Test Match, ynghyd ag oriau o gerddoriaeth a digrifwch a drama wedi eu trefnu at chwaeth naturiol pobl Lloegr, yn annerbyniol mewn gwledydd lle mae'r tradd- odiad Seisnig yn beth dieithr. 0 bosibl y gwelai fod dichon i amgyffrediad Llundain o'r hyn sy'n ddiddorol a phwysig daro'n chwithig ar glustiau gwlad a gwar- eiddiad arall. Cael gan y B.B.C. i weled bod Cymru mor wahanol i Loegr ag ydyw Ffrainc a Ffinland ydyw'r gamp. Os llwyddir yn hynny fe gilia'r anawsterau peiriannol a thiriogaethol fel tarth Mehefin. Oni lwyddir, rhaid i Gymru ymorol am ei gwasanaeth radio ei hun.