Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron P'LE I FYND I BYSGOTA At Olygydd Y Ford Ghox. YN ateb i lythyr Coch-y-bonddu yn Y Ford Gron ddiwethaf, buaswn yn galw'i sylw at y manylion a geir ynghylch pysgota yn y llyfryn tlws The Lure of the Cambrian Coast, sef cyhoeddiad swyddogol Cymdeithas Cyrchfannau Cymru. Fe wêl fod tudalennau 10, 95 a 96 yn heigio gan bysgod a'u bod yn ysboncio, fwy na heb, drwy gydol y dalennau. Ni wn i ddim am y gelfyddyd fy hun, ond byddaf wrth fy modd yn darllen am rai yn ymroi iddi ac ni fyddaf byth yn eu cyfwrdd ar heolydd brysiog ein dinasoedd nac yn edrych arnynt o'r trên ar lan afonydd, yng nghanol y wlad dawel, heb deimlo mai hwynthwy yw'r ychydig bobl gall sy wedi eu gadael yn y byd Gwyn fyd dynion fel Coch-y-bonddu," sydd â'u bryd ar fod yn llonydd ac yn holi am fannau gorffwys mewn dyddiau trystiog, di-aros fel y rhain. Gyda llaw, cyfeiria Washington Irving yn ei Slcetch Book at lannau Alyn a dyffryn prydferth Gresford, a seilia un o'i frasluniau The Angler ar ei ymgom â hen bysgotwr y cyfarfu ag ef yno. Y mae yn Holiday Haunts y G.W.R. hefyd lawer o gyfeiriadau at bysgod, ym mhob lle tebyg i'w dal sydd yng nghyrraedd y ffordd haearn honno. M. PARRY. 37, Yictoria Road, Caer. Beth yw Briar leaves" At Olygydd Y Ford Grox. MEWN atebiad i Mr. William Evans, Pentraeth, Môn, a ymhola pa un o'r mieri a olygir wrth y briar leaves" a ddefnyddid i wneud medd gynt, credwn mai'r fieren a adweinir yn y de, fel y fieren felys, ydyw,­‘ Sweet Briar," ein brodyr yr ochr arall i Glawdd Offa. Nid ydyw'n gyffredin ar hyd y perthi. Blaendardda ym Mai a gwneid defnydd o'r blaendardd hwn i amcanion eraill heblaw gwneud medd. Adwaenwn amaethwraig o'r hen stamp yng Ngwent flynyddoedd yn ôl, a'i defnyddiai at roi blas hynod archwaethus ar y caws a wnâi, Caws Caerffili, nad oedd ei debyg yn y wlad. Ganol mis Mai âi o gwmpas y tyddyn á basged a siswrn a thorrai ymaith y blaen- dardd ieuanc. Yna be1 wai ef mewn cymaint o ddwfr ag a fyddai ei eisiau at ei phwrpas, ei ddyhidlo, a rhoi'r sudd yng nghod y llo, at wneud y cweirdeb i dorri'r llaeth, a syndod y blas peraidd fyddai ar gaws yr amaethwraig hon. Wyres i hen chwaer ddiddorol hon sy'n brif arolyges gweithfa gaws fawr yng ngor- llewin Lloegr, ac y mae'r caws a droir allan oddi yno heb ei well ac yn wybyddus dros y wlad. Efallai y rhed y ddawn at bethau fel hyn irwy waed teuluoedd o oes i oes. AMAETHON 0 WENT. Ysgol Haf Gymraeg At Olygydd Y Ford GRON. CANIATEWCH imi alw sylw Athrawon Cymru a chenedlgarwyr eraill drachefn at drefniadau Ysgol Haf Cymdeithas yr laith Gymraeg, a gynhelir yn Aberystwyth yn ystod y pythefnos Awst 13-25, 1934. Bydd y cwrs cyffredinol, sef darlithiau ar yr Iaith Gymraeg, Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru, yng ngofal Mr. W. I. Jones, Caerdydd, Mr. Myrddin Lloyd, Dulyn, a Mr. R. T. Jenkins, Bangor, a rhoddir sylw arbennig hefyd i'r dulliau diweddaraf o ddysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion dan gyfar- wyddyd Miss Margaret Rosser, Penarth, a Mr. D. 0. Roberts, Aberdâr, gyda chyfres o gynllun-wersi i ddosbarthiadau o blant i egluro'r egwyddorion. Y mae'r gyfres cyn- llun-wersi o werth i bob athro sydd yn dysgu Cymraeg yn ysgolion Cymru. Darlun Meistraidd, meddai'r Athro W. J. Gruffydd CYMRU'R OESAU CANOL ROBERT RICHARDS I5/- Llyfr heb ei gyffelyb yn y Gymraeg. Trefnir cwrs elfennol yn y Gymraeg gan Miss Huldah Bassett, y Barri, a gwahoddir pawb a garai ddysgu'r iaith i ymuno â'r dosbarth hwn. Amcan pennaf yr Ysgol Haf yw cryfhau'r adnoddau Cymreig yn ysgolion Cymru, ac apeliwn yn daer am gefnogaeth a fydd yn deilwng o'r ddarpariaeth helaeth a wnaed gan y Gymdeithas eleni. Danfoner ceisiadau am bob manylion at y Trefnydd. J. ELLIS WILLIAMS 14, Machintosh Road, (Trefnydd). Pont-y-pridd. Berf Amharchus' arall At Olygydd Y FORD GRON. T)ARTHED llythyr Mr. Tom Davies yn Y Ford GRON am fis Mai ar bwnc berfau amharchus y Sais, y mae lle i amau ai o amarch at genedl y tarddodd y ddwy ferf to welsh a to scotch." A chaniatáu hyn, nid yw'r Sais ei hun wedi dianc rhag amarch cyffelyb a hynny oddi ar law ei gefnder Americanaidd. Defn- yddir y gair english," mewn chwaraeon er enghraifft, i ddisgrifio'r tro a roir ar bêl. Clywir y gair yn fynych ar wefusau Americaniaid yn chwarae tennis neu filiard. To put some english on the ball "-taro'r bêl yn y fath fodd ag i beri iddi wyro. Y mae'r defnydd hwn o'r gair yn ad- lewyrchu'r argraff a adawodd y Sr s ar yr Americanwr o'i hymwneud â'i ^ilydd yn y dyddiau gynt. T.I.R. Hamna, India'r Goriiewin. Y Llenor" am