Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oofim Brif Lenor y Cymry BYDD llygaid a chalon llawer yn troi tua'r Las Ynys ac Eglwys Llanfair Meirionnydd, ar y 17 o'r mis hwn. Y pryd hwn byddwn yn dathlu dau- canmlwyddiant un 0 lenorion ein cenedl, y gŵr a gladdwyd yn Eglwys Llanfair. Gwaith mawr, ond gwaith salw a chwith, yw adrodd helynt y Cymry," meddai Theophilus Evans. Gwaith anodd yw ceisio gwneuthur rhyw fath ar chwarae teg â choffa gŵr mor fawr ag Elis Wynn. Ychydig iawn a wyddys am ei hanes bore a'i addysg. Nid yw dydd ei eni yn hysbys, ond y mae gennym sicrwydd iddo dderbyn addysg dda. Yn nechrau Gweled- igaeth Uffern cyfeiria at afon Hafren Ar foreu têg o Ebrill rywiog a'r Ddaiar yn lâs feichiog a Phrydain baradwysedd yn gwisco lifrai gwychion, arwyddion Heulwen Hâ rhodio'r oeddwn ynglann Hafren. Pa reswm oedd gan Elis Wynn dros enwi afon Hafren mwy na rhyw afon arall- Mawddach, dyweder, oedd yn nes iddo 0 lawer ? Tybed a fu ef mewn gwirionedd yn rhodio glannau Hafren ? A oedd yr ysgol y bu ynddi ar lan Hafren ? Ai ysgol Amwythig oedd honno ? Hyd yn hyn nid oes a wyr. Lowri Wynn a Lowri Llwyd. Gwyddom iddo fynd i Rydychen, ond nid oes sôn iddo dderbyn gradd yno. Pan oedd tua 34 oed, penderfynodd gymryd urddau, ac ordeiniwyd ef yn 1705. Yn ôl Syr John Morris-Jones, bywioliaeth Llan- danwg oedd ei fywioliaeth gyntaf, yna Llanfair chwe blynedd yn ddiweddarach. Bu'n briod ddwywaith,-y tro cyntaf â Lowri Wynne o Foel y Glo, Llanfihangel y Traethau, a'r ail dro â Lowri Llwyd o'r Hafod Lwyfog, Beddgelert. Ysgwn i ba un o'r ddwy Lowri oedd yn gyfrifol am gyflwr ei grys yn y cwpled hwnnw Elis Wynn o'r Las Ynys, A'i groen yn wynnach na'i grys. Dywedir iddo gael ei gladdu dan yr allor yn Eglwys Llanfair. Clywais fy hen gyfaill Iago Erfyl yn dywedyd mewn darlith fod sedd y Las Ynys wrth ochr yr allor, ac i Elis Wynn gael ei gladdu o dan lawr y sedd. Yn ddiweddarach helaethwyd yr allor nes ymestyn ohoni dros sedd y Las Ynys a gwneuthur i fedd Elis Wynn fod o dan yr allor yn llythrennol. Beth bynnag am gywir- deb hynny, dyna'r hanes fel y cefais i ef. Ffair a Gwylmabsant. Ganwyd ef yn 1671, a bu farw yn 1734, felly gwelodd fywyd Cymru mewn rhan o ddwy ganrif. Yr oedd yn gynefin â'r Twmpath Chwarae, ymladd ceiliogod, chwarae anterliwdiau, chwarae pêl, ac yr oedd y ffair a'r Wylmabsant yn eu bri. Yn wir ni chododd neb ei lais yn erbyn yr Wyl- mabsant hyd tua 1754, ac yr oedd hynny tuag ugain mlynedd wedi claddu Elis Wynn. Gwelodd fywyd syml a chaled ei blwyfolion, eu tai gwael, a'u hymborth sâl. Yr oedd Dethlir ar y 17 o'r mis hwn íìdau canmlwydd- iant Elis Wynn, awdur y Bardd Cicsg." Gun Erfy/ Fychan newid o'i amgylch ym mhobman, yr hen fywyd yn dechrau diflannu, a dylanwad estron yn dechrau cael ei deimlo yn y wiad. Cefnai'r Sgwieriaid ar eu hiaith a'r traddodiad o noddi beirdd a rhoddent stiwardiaid trahaus i edrych ar ôl eu tiroedd. Onid darlun o'r hyn a welsai bob dydd a roes Elis Wynn inni yn ei Weledigaethau ? Onid oedd pleser, elw, balchder, rhagrith, a phethau cyffelyb yn bod bryd hynny fel heddiw ? Yn wir, darlun o lawer plas yng Nghymru yn ei gyfnod ef yw ei Blasdy penegored mawr, wedi i'r Cẁn a'r Brain dynnu ei Lygaid, a'i berchenogion wedi mynd i Loegr, neu F[f]rahic, i chwilio yno am beth a fasei can haws ei gael gartre, felly yn lle'r hên Dylwyth lusengar daionus gwladaidd gynt, nid oes rwan yn cadw meddiant ond y modryb Dylluan hurt, neu Frain rheibus, neu Biod brithfeilchion, neu'r cyffelyb i ddatean campeu y perchenogion. Yr oedd yno fyrdd o'r fath blasau gwrthodedig, a allasei oni bai Falchder, fod fel cynt yn gyrchfa goreugwyr, yn Noddfa i'r gweiniaid. yn Yscol Heddwch a phob Daioni, ac yn fendith i fil o Dai bâeh o'u hamgylch. Meistr ar iaith. Rhydd inni enwau llawer o grefftwyr ei gyfnod, a pheintia ei ddarlun heb arbed neb. Fflangella hyd yn oed yr ofîeiriad O'r dynion p'ler adwaenych Ar ddaiar faith saith mor sych, A'r goreu o'r rhain am gwrw rhudd Offeiriedyn a Phrydydd. Llithra ymlaen gyda'i ddisgrifiadau byw. mewn iaith goeth a grymus. Yn wir yr oedd yn feistr ar iaith, a'r gelfyddyd o fedru rhoddi disgrifiadau byw a gloyw. Tybed a oes darn a rydd well disgrifiad o drueni'r eneidiau colledig na'r un isod o Weledigaeth Uffern ? Gwelwn y Diawliaid â phigffyrch yn eu taflu i ddescyn ar eu penneu ar hislanod gwenwynig o bicellau geirwon gwrth fachog, i wingo gerfydd eu meuyddiau, ymhen ennyd lluchient hwy ar eu gilydd yn hunfeydd i ben un o'r Creigieu llôse i rostio fel poethfel. Oddiyno cippid hwy "mhell i ben un o fylcheu y rhew a'r Eira tragwyddol yna'n ôl i anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i'w trochi mewn lloscfeydd, a myijfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaelef oddiyno i Siglen y pryfed i gofleidio ymlusciaid uffernol, llawer gwaeth na Seirph a Gwiberod yna cymerei'r Cythreul- iaid wiail clymog o ddur tanllyd o'r ffwrnes. ac ai cureint oni udent dros yr holl Fagddu fawr. Gall yr iaith a'r arddull siarad drostynt eu hunain. Y mae'n wir mai disgrifiad o Uffern yr Oesau Canol sydd ganddo, ond onid lle o boen i gosbi pechod" yw Uffern y Rhodd Mam hyd heddiw ? Onid yw ei ddychmyg yn rhyfeddol ? Gwaith gwreiddiol. Yr oedd Syr Roger L'Estrange wedi cyfieithu gwaith Sbaenwr o'r enw Francesco de Quevedo Villegas, ac y mae lIe i dybio ddarfod i Elis Wynn weled y llyfr hwnnw, a chael rhai syniadau ohono. Erbyn heddiw derbynnir hynny fel ffaith, ond y mae gwaith Elis Wynn er hynny yn wreiddiol. Bu rhai yn ei feio am hynny, ond gwnaeth Shakespeare a Milton yr un peth, ac ni feiodd neb hwy. Dywedir iddo ysgrifennu Gweledigaeth y Nefoedd a'i ddangos i rywun, ac i hwnnw ei gyhuddo 0 lên-ladrad. Canlyniad hynny ydoedd i'r `' Weledigaeth honno gael ei bwrw i'r tân, ac i lenyddiaeth Cymru golli un o'i thrysorau pennaf efallai. Heblaw bod yn llenor yr oedd Elis Wynn hefyd yn fardd. ac yn awdur y pennill adnabyddus Myfi yw'r Adgj'fodiad mawr, Myfi yw gwawr y bywyd Caiff pawb a'm cred. medd f'Arglwydd Dduw, Er trengu. fyw mewn eilfyd. Yn Almanac Siôn Prys am 1747, ceir CaroL Plygain yw ganu ar Crimson Velved o waith y Mr. Ellis Wynne or Lâs ynys." Dyjanwad mawr. Yn 1701 cyhoeddodd gyfieithiad dan yrenw Rheol Buchedd Sanctaidd. Ar gais Esgobion Cymru a Henffordd ymgymerodd â golygu'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a chyhoeddwyd hwn yn 1710. Ei brif waith ydoedd y Bardd Cicsc, a dyma yn ddiddadl un o ddau lyfr mwyaf poblogaidd y ddeunawfed ganrif. Dau lyfr Twm o'r Nant ydoedd y Beibl a'r Bardd Cwsc, a dyna ond odid ddau lyfr llawer un arall. Y mae'r ffaith ddarfod i o leiaf 23 argraffiad ddyfod o'r wasg yn braw pendant o boblogrwydd y llyfr. Rhaid ei fod wedi cael dylanwad mawr ar y wlad, ac wedi llwyddo i gryn fesur i gyrraedd yr amcan oedd gan ei awdur galluog mewn golwg. Proffwyd ydoedd Elis Wynn a diwygiwr, a thrwy dynnu darluniau mor fyw ac effeithiol o ddrygau, ac arferion ei gyfnod, gwnaeth ei Weledigaethau eu hôl ar y wlad. Gw\ti fyd y sawl a gaiff y fraint a'r anrhydedd o fyned i'r gwasanaeth coffa. Nid oes raid sôn rhagor am brif lenor y Cymry, da ydyw meddwl ein bod o'r diwedd yn deffro i'r gwaith o gofio ein cymwynaswyr a'n gwŷr mawrion, ac ymysg y rhai blaenaf Elis Wynn o'r Las Ynys.