Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Saesnes yn Syrthio mewn Cariad Gan Dorothy Ashwell GADAWSOM Lundain ar brynhawn Uwydaidd ym Mehefin. Buasai'r tywydd yn ddigalon ers wythnosau. ond nid felly ny-ni onid oeddym yn cychwyn ar wyth niwrnod o wyliau ? 'Doedd gennym ni ddim syniad ymh'le y byddem ni'n cysgu'r nos—ein cynllun oedd gyrru yn ein blaenau nes methu mynd dim pellach. Arosasom gyntaf yn Rhydychen i gael te yna fe aethom ymlaen i fynyddoedd Cotswold, hyd i Northleach, lIe bu raid aros dros nos. Ymlaen wedyn drannoeth ar y briffordd i Gaerloyw, o fewn ychydig filltir- oedd i Ros a throi yno at Gasgwent. Castell ac Abaty. Yr oedd pob milltir o'r tir coediog yn dyfod yn fwyfwy hardd, y coed ar eu gorau, a lliwiau eu dail ieuanc bron mor ddisglair ag yn yr hydref. Cymerai'r ffordd droadau anferth yma gan ddatguddio, mewn fflach- iadau diddisgwyl, afonydd Hafren a Gŵy, oedd wedi eu chwyddo'n fawr gan y glaw- ogydd diweddar. Yr oedd yn rhaid inni fynd i weld adfeilion prydferth Castell Casgwent, un o gestyll diddorol y gororau. Gollyngwyd ni i mewn drwy borth drydedd ganrif-ar-ddeg anferth, a arweiniai i gwrt glaswelltog. Yr oedd dail ieuanc yr hen goeden gnau ffrengig-y fwyaf o'i bath yn y wlad, meddir, ­yn troi i liw efydd yn erbyn y ffurfafen ddisglair anhygoel brydferth. Aethom â'r car i fyny lôn serth i gael te. Agorai golygfa ryfeddol o'n blaen, wedi ei thorri o'r coed, ar draws naw o siroedd. Wedi bwyta, ymweld ag Abaty Tintern. O bob mis, rhowch i mi Fehefin i weld lleoedd enwog mewn tawelwch. Y mae'r ffordd yn codi'n serth o Tintern i'n agos i Fynwy, ac yn amlygu swyn cyfar- eddol ar afonydd a broydd. Bro bryniau coediog. Codi'n gynnar eto drannoeth, wedi aros dros nos mewn gwesty cysurus yn Rhos. Yr oedd Pont Wilton ar ein ffordd, gyda'i chwe bwa adnabyddus yn pontio Gwy, ac uwch ei phen furddyn o gastell, wedi ei ail-adeilio i bobl fyw ynddo. Ond yr oedd castell arall yn denu mwy arnom ni-Castell Goodrich-oherwydd dar- llenasem hanesion diddorol amdano. Ond nid oedd wedi agor pan gyrhaeddsom Dywedodd y gofalwr wrthym y gallem gerdded ato,.a'i edrych oddi allan. Dyma adael y car, a cherdded drwy fro lawn bryniau coediog nes dyfod at glwyd fach haearn. Yr oedd wedi'i chloi. â Chymru Y rhain oedd yr adfeilion gwychaf a welsem, ar wahân i Tintern. Ond trueni na allem fynd yn nes atynt. A ninnau'n syllu'n brudd ar y muriau, daeth llais o'r tu draw i'r canllawiau Mi ddringais i'r glwyd acw a rholio 0 dan y glwyd fawr arall." Y^fanlfirain. Diolch," meddem ninnau, a dechrau gwneuthur yr un modd, er bod mynd dan y glwyd fwyaf yn dipyn o dasg i'r tewaf ohonom. Unwaith yr aethom drwodd, gwelsom mor firain yw'r fan, lle bu'r Norddmyn yn gyntaf a'r Saeson wedi hynny dan Iorwerth I, yn ceisio gwrthsefyll ymgyrchoedd y Cymry. Y mae'r castell o bwys arbennig Harddwch Afon Wy yng ngororau Mynwy (uchod). Isod, ynysig ar Lyn Crogenen, Arthog, Meirion. mewn pensaernïaeth filwrol fe'i hamgylch- ■mnir ar un ochr â chlogwyn ac â ffos y tair achr arall. Yr oeddym yn gadael y castell yr un ffordd ag y daethem pan ddaeth y gofalwr yno. Ond bu'n gweld ni'n rholio yn y llwch yn drech hyd yn oed na'r cerydd a fynasai îi roi inni, ac fe'n gollyngodd gyda rhybudd. Dringo'r mynydd. Yr oedd un castell eto ar ein ffordd, sef Rhaglan er nad yw cyn hardded â Good- rich, y mae'n werth ei weld, oherwydd iddurnwaith ei furiau. Y mae'n anodd cael ffordd dlysach ar ei hyd na'r un a ddilynasom y prynhawn hwnnw (1 dudalen 198.)