Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y ddau "Gwm" yn Llangernyw, Sir Ddinbych. Bydd gofalwr yr Amgueddfa Cwrddwch a Cheraint Syr Henry Jones. Y mae ardalwyr Llangernyw, Sir Ddinbych, dan arweiniad Mr. Manod Rees y Postfeistr, a thrwy gynhorthwy caredigion o bell ac agos, wedi troi'r tý lle magwyd yr athronydd Syr Henry Jones, sef Y Cwm," yn amgueddfa. Felly y cofir mab y bwthyn, fu yma'n gweithio crefft y crydd, ac a ddringodd i fainc athro yn Glasgow. Agorir yr amgueddfa ar y 13 o'r mis gan Mr. D. Lloyd George. MEWN llythyr a ysgrifennodd ataf, a welir yn y Cofiant a ysgrifen- nwyd gan y Prifathro H. J. W. Hetherington, cyfeiria Syr Henry Jones at ei daid, sef W. Williams, fel dyn gwir ddiwylliedig, er bod ei wybodaeth yn gyfyngedig i'r Beibl. Gweithiai W. Williams yn Hafodunos, fel y gwnâi lliaws o'r plwyfolion y dyddiau hynny. Nid oedd ei gyflog ond ychydig sylltau yr wythnos. Isel oedd safon cyflogau ar y pryd ym mhobman. Ond yr oedd mwy yn byw ar y tir y pryd hynny nag a geir yn awr, a cheid ym mhob ardal y saer coed, a'r saer maen, y teiliwr, y crydd, y melinydd, y pannwr, y towr, a'r gof. Er gwaethaf pob cyfyngiad yr oedd pobl yn ymddangos yn ddedwydd iawn. Ei dad a'i fam. Yr oedd tad Henry Jones yn frodor o Lannefydd, Sir Ddinbych, yn ddigon rhadlon ac yn llawn direidi. Defnyddiai ei chwaeth ddireidus gyda chymeriadau fel Joseph, Gwyddel o Babydd oedd wedi dysgu rhyw fath ar Gymraeg, ac a âi oddi amgylch gyda basged o fân nwyddau. yn byw yn y ty ar y dde. Gyda'r Dr. H. Cernyw Williams Ond yr oedd ei fam, Elizabeth Jones, neu Betsi Jones fel y gelwitLhi gennym oll, yn wraig o ryw athrylith ac yn gymeriad. Meddai ar y syniad o'r dechrau fod rhyw fawredd yn aros ei bachgen Harri. Yr oedd Robert Roberts, yr ysgolor mawr, yn gefnder iddi, ac felly yn ewythr i'n gwrthrych. Ei ewythr. Dyn rhyfedd oedd R. Roberts. Yn ei atgofion, fe noda'r Prifathro J. H. Davies iddo gael ei gladdu mewn bedd dienw, ond yn fuan wedi hynny, penderfynodd dau edmygwr o Flaenau Ffestiniog osod carreg ar ei fedd, a cherfiwyd ar y garreg y geiriau hyn o gyfansoddiad yr Athro T. Gwynn Jones: Byr fu ysblander y bore. Diweddwyd y dydd mewn cymylau, Hyn gan estron galonnau. Er cof am y gwynfyd a'r cur. Y mae hanes bywyd y dyn hwn, yn ei gyraeddiadau llenyddol, ei symud i Awstralia, ei ddygn dlodi a'i ddiwydrwydd diflino, yn bennod ryfedd. Cofiaf y sôn am ei athrylith pan oeddwn yn blentyn, ond unwaith y gwelais ef. Naturiol sôn amdano fel perth- ynas agos i Syr Henry Jones. Yr oedd gwraig wedi dyfod gyda'i theulu o'r Alban i Gae'r Llo, Llangernyw- Mrs. Rossburgh,-gwraig o ddiwylliant uchel, yn wir garedig ei hysbryd. Cymerodd at Henry yn fuan, a chyffrôdd ryw duedd ddyrchafol yn ei feddwl yn fflam. Gwahodd- odd ef i'w thv, a galwodd ei sylw at bynciau mawr bywyd. Merch iddi hi 'rwy'n credu a ddaeth yn wraig wedi hynny i'w gyfaill Hugh Walker, yr awdur fu'n athro yn Llanbedr, ac a oedd yn frawd i Lady Jones. Ei athro. Cafodd gryn lawer o ysbrydiaeth hefyd gan ei athro yn yr ysgol Sul, sef R. Hughes (Glan Collen). Cydnebydd ef ei hun ei ddyled i'r gŵr hwn, a gwelodd trwy e. arweiniad ef fawredd llyfr Job. Daeth llanc ieuanc o Sir Fflint o'r enw Thomas Redfern i Langernyw yn athro cynorthwyol yn yr ysgol genedlaethol, ac aeth y ddau yn gyfeillion mynwesol, a gwnaethant fath ar gyfamod y mynnent, os gallent fodd yn y byd, gyrraedd safle rag- orach, gan raddio yn rhai o'r prifysgolion. Mynd i'r plas. Ni chollasant olwg ar hyn nes llwyddo aeth Henry mewn amser i Fangor a graddio ym Mhrifysgol Cymru, aeth Redfern i Gaer, yna i Gaergrawnt. Aeth yr olaf i weinidog- aeth yr Eglwys Esgobol, ac adnabyddid ef ymhen hir encyd fel Canon Redfern, Periglor Dinbych. Adroddodd y Canon wrthyf ryw dro i Mrs. Sandbach fynd ati rywbryd i ddatgan ei llawenydd bod y ddau lanc yn dringo ar ysgol dysg, a dywedai y buasai un o'r meibion oedd adref ar eu gwyliau o Rydychen yn fodlon iawn i'w helpu i egluro rhyw broblem. Aeth y ddau i'r plas, a gwelsant y meibion, ond bu'r canlyniad fel y disgwyl- ient ni wyddai'r naill na'r llall o'r Oxford Scholars nemor ddim o'r hyn a wyddent hwy. Cwrs yn Glasgow. Mewn amser apeliodd Henry Jones am fynd i Brifysgol Glasgow. I'r perwyl hwn safodd arholiad yn Llyfrgell Dr. Williams yn Llundain. Pan aeth at y Llyfrgellydd i roi ei gyfeiriad fel y gellsid anfon y can- lyniad iddo, dywedodd y llyfrgellydd fod y canlyniad eisoes yn wybyddus, ac mai ef oedd wedi ennill. Effeithiodd hyn arno i'r fath raddau, fel na allai gael y ffordd allan heb arweinydd. Annibynnol ei ysbryd. Bu'n ddigon caled arno lawer gwaith. Ryw dro pan oedd ar ei wyliau o Glasgow, cyrhaeddodd orsaf Abergele yn hwyr nos Sadwrn, heb feddu arian i dalu am ei gludo i Langernyw neu i letya yn y dref. Gallasai'n rhwydd gael benthyg y swm oedd eisiau, ond yr oedd yn rhy annibynnol ei ysbryd i gael ymwared o'r fath (nodweddid ef gan annibyniaeth fel hyn ar hyd ei oes). Cerddodd adref i Langernyw ar hyd y nos Credaf fod Mr. J. C. Davies, bargyf- reithiwr a Rheolwr Addysg Sir Ddinbych, fu am dymor yn A.S. dros Orllewin Dinbych, a chyda llaw sydd wedi ei eni yn y t5 agosaf i rieni Syr Henry Jones wedi iddynt symud o'r Cwm, ei fod yn ei Ie pan ddywaid Bydd ei esiampl yn ymgodymu ag an- awsterau yn cael ei gofio yn hytrach na'i gyfraniad i athroniaeth y cyfnod, er bod honno'n bennod ddigon disglair."