Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhamant Gwaith y Chwarelwr Yma y mae un fun chwarelwr profiadol yn disgrifio gwaith gwneuthur llechi ac yn cymharu amodau gweithw mewn chwarel heddiw rhagor yr hyn oeddynt ugain mlynedd yn ol. Gan W. R. Williams YR wyf yn sicr na fydd hanes diwyd- iannol Cymru, na Phrydain chwaith, yn gyflawn heb bennod i chwarel- wyr Cymru. Fel eu cymheiriaid y glowyr, buont ar flaen y fyddin ym mhoethter brwydrau llafur y gorffennol. Dyma, y mae'n debyg, yr esboniad ar y gyfathrach gyfrin, y cydymdeimlad greddfol sydd rhwng y chwarelwr a'r glowr. Pwy fu mor garedig wrth y chwarelwyr yn eu cyni â'r glowyr a phwy fu mor barod i gynorth- wyo'r glowyr yn nydd y ddrycin â'r chwarel- wyr ? Yng nghload allan 1926, fe gyfran- nodd y chwarelwyr dros £ 5,000 i'r gronfa honno. Y mae'r chwarelwyr ymysg dosbarthiadau mwyaf diwylliedig ein gwlad a'r byd. Ac er pob darogan ynghylch yr oes wamal hon," y mae'n ffaith wybyddus fod dosbarthiadau allan y Brifysgol yn ffynnu ac yn flodeuog iawn yn eu plith. Sychedant am wybod- aeth a cheisiant bob cyfle i'w hennill. Awyrgylch gynnes. Os ydych am fwynhau yn iawn ddrama neu gyngerdd, pregeth neu ganu mawl rhaid i chwi fynd i awyrgylch gynnes, groesawgar a syml a chymdeithas ddiwyll- iedig gwerin y cymoedd glo ac ardaloedd y chwareli. Gellir yn briodol iawn ddweud am y chwarelwr Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg Rhoes ei galon drom i Wr y Groes. Gan y defnyddir yr enw chwarelwyr am y rhai sy'n gweithio yn y chwarelau Galch ac ithfaen, purion dweud mai am chwarelwyr llechi y soniwn yma. Ceir y chwarelau llechi gan mwyaf yng ngogledd-orllewin Cymru,­yn Ffestiniog, Nantlle, Llanberis a Bethesda. Dyma brif ganolfannau'r diwydiant. Y mae chwarelau eraill yma ac aew,-Glyneeiriog, yn Sir Ddinbych Glyndyfrdwy a Chorris yn Sir Feirionnydd, a Llangynog, yn Sir Drefald- wyn. Uwchben Chwarel y Penrhyn, Bethesda, Arfoa-ua o'r chwarelau mwyaf yn y byd. Yr hyn yw'r diwydiant glo i gymoedd Morgannwg a Mynwy, dyna yw'r diwydiant llechi i ardaloedd Arfon a Meirion. Rhennir y chwarelau yn ddau brif ddosbarth,-rhai Ue gweithir y faen dan y ddaear, a rhai agored. Perthyn chwarelau Ffestiniog, Glynceiriog, Glyndyfrdwy a Llangynog i'r dosbarth cyntaf. Ceir y chwarelau agored yn Nantlle, Llanberis a Bethesda. Y mae gwahaniaeth drachefn rhwng chwarelau Nantlle a'r Penrhyn a Dinorwig. Yn Nyffryn Nantlle, tyllau anferth a dwfn ydynt, tra gweithir chwarelau'r Penrhyn a Dinorwig gan mwyaf yn bonciau ar ochr y mynydd. Agor Boni." Y mae yn chwarel y Penrhyn 19 o'r ponciau hyn, y naill uwchben y llall, ac y mae'r olygfa yn un nas anghofir yn fuan. Diddorol ar lawer cyfrif yw'r enwau sydd ar rai o'r ponciau hyn dyddiant o'r adeg pan oedd yr enwau hynny'n brif bwnc y dydd. Dyma rai ar antur,—Matakoff, Fitzroy, Sebastopol, Agor Boni yn y Penrhyn Awstralia, New York, Hafod Owen a Twll Mwg yn Ninorwig. A dyna'r enwau sydd ar y llechau: dutchis (dutchesses), cowntis (count- esses), ladis," cerrig dwbl a sengals." A'r dull o'u cyfrif Tair llechan yn gwneud mwrw,' ac Un mwrw ar hugain a charreg yn gwneud hanner cant." Felly y mae cant i chwarelwr yn golygu gwneud 128 0 lechi. Y mae'r pethau hynyn bod ers cenedlaethau, ac y mae'n debyg mai felly y parhant hyd ddiwedd amser. Ond er bod y pethau hyn yn aros, y mae newid mawr wedi bod ym myd y chwarelwr yn ystod yr ugain mlynedd a mwy diwethaf. Yn lle'r hen ddull o dyllu'r graig â nerth braich, gwneir y gwaith blinderus hwn yn llawer cynt â pheiriant tyllu. Ac yn lle gwthio slêd neu wagen am bellter ffordd, bachir hi wrth gadwyn heb fod nepell o'r fargen a chodir y llwyth i fyny i'r tan ar hyd gwifrau yn yr awyr. Flynyddoedd yn ôl, gweithid mewn gwal oedd yn un o res hir o waliau cyffelyb, a thorrid y cerrig (" clytiau yw enw'r chwarelwyr arnynt) i'r hyd angen- rheidiol gyda gordd bren fawr a elwid rhys." Torrid bwlch yn ochr y clwt," yna'i droi fel y byddai'r ochr arall i fyny, a tharo uwch- ben y bwlch gyda'r rhys." Dan ddylanwad peiriant. Mawr fyddai'r hwyl pan glywid s\vn un yn dyrnu'n galed ar y clwt ac yn methu cael toriad ar ei draws. Erbyn heddiw, nid oes ond ychydig yn gweithio yn ôl yr hen ddull. Y mae'r hen waliau wedi eu chwalu, a'r chwarelwyr yn gweithio mewn siediau mawr, hwylus, a byrddau i lifio'r cerrig gyda thrydan. Daeth y chwarelau, fel pob diwydiant arall, dan ddylanwad y peiriant. Pa effaith a gaiff hyn ar ysbryd crefft y chwarelwr tybed ? Ond er cymaint y chwyldro fu yn y dull o weithio, bu'r cyfnewidiad yn amodau gwaith