Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

C^aniadaur Archdderwydd Gwaith Meddyliwr, Ysgolor, Bqrdd Y maen dda iawn gennyf gael y llyfr cyntaf huodl hwn. Brysied ei frawd iau i lefaru wrthym" YMAE glas tywyll yn awgrymu myfyrdod trwm i mi bob amser, ac ni ellid addasach lliw clawr i Oaniudau Gioili, Llyfr I. Rhaid canmol yn fawr waith y wasg ar y llyfr hwn. Y mae'r papur a'r print yn rhagorol a'r clawr glas a'r pennawd mewn llythrennau euraid arno. Rhaid yw ystyried nad â Gwili yr Arch- dderwydd yr ymwnawn yn y llyfr hwn, ag eithrio'r rhagair, ond â meddyliwr, ysgolor, a bardd ifanc a sgrifennai o 1894 i 1906,- cyn fy ngeni, ac yn ystod fy mabandod i. Gorfod arnom yw aros (gyda phob hyder hefyd, gobeithio), nes cael y gyfrol nesaf a led-addewir inni, os ym am wybod beth ydyw cyfraniad Gwili'r 28 mlynedd diwethaf i farddoniaeth Gymraeg. Wedi 1902 Cydnabyddir dyfod newid mawr ar safonau barddoniaeth Gymraeg o 1902 ymlaen, ac olrheinir hynny yn bennaf, ac yn hollol gywir, mi gredaf, i waith beirniadol ac adeiladol y llanc o Fôn gynt, Syr John Morris-Jones, a barhaodd hefyd i sgrifennu a darlithio a beirniadu, er budd mawr i'n barddoniaeth a'n beirdd, am ryw 25 mlynedd wedyn, ac i waith ei gymdeithion a'i ddis- gyblion yn y brifysgol. Eto, dengys y gyfrol hon, fel y dengys gweithiau Elfed, Berw, ac Elis Wyn o Wyrfai hefyd, mi gredaf, fod yna ymwybod artistig wedi deffro yng nghanol aflerwch mawr llenyddol y ganrif ddiwethaf, rai blynyddoedd cyn 1902. Yr oedd yna feirdd a fedrai ganu'n fwy barddonol, ac mewn cywirach iaith na mwyafrif eu cyfoeswyr. Canu heb bregethu hefyd. Meddyliwr, ysgolor, bardd Uchod dywedais, yn fwriadol, mai â meddyliwr, ysgolor, a bardd y mae â wnelom yn y gyfrol hon, canys yr oedd Gwili 1894- 1906 yn fwy o feddyliwr ac ysgolor nag ydoedd o fardd, er ei fod yn fwy o fardd hefyd na mwyafrif ei gyfoeswyr. Y meddyliau a oedd ganddo i'w mynegi yn hytrach na'r modd o'u mynegi oedd ymlaenaf yn ei ymwybod, ac o ran ei werth barddonol, nid yw'r pennill a ganlyn, er enghraifft, yr un gronyn yn well na chynnyrch arall Islwynaidd ei gyfnod O ganol nwyfreoedd mor ddisglair eu gwyn Holaf fy hunan yn llawen a syn Mae enaid dy gyfnewidioldeb yn awr Oni suddodd i'r Digyfnewid mawr ? Rhyw Ysgol Iacob yw'r byd i gyd I'm codi i ganol ysbrydol fyd. Tu hwnt i'r llen nid oes imi mwy Gyfnewidioldeb dihengais drwy Dwyll-ymddangosiad, a'r ysbryd di-lyth Sydd mwy imi'n Un dinewid dros byth. Adolygiad gan W. Roger Hughes DR. J. GWHJ JENKINS. Athronyddu sydd yma, a hynny mewn termau haniaethol nad oes iddynt gyfran yng nghelfyddyd y bardd. Mewn ysgol- heictod, athroniaeth, a hunan-ymchwil yr oedd Gwili, bardd 1894-1906, yn byw fwyaf. Yr oedd y meddyliwr a'r bardd ynddo'n cyd-dyfu, bid sicr, fel dau frawd, ond nid efeilliaid oeddynt y meddyliwr oedd y brawd hynaf. Eto, yr oedd digon o droeon y mynnai'r brawd iau gael ei glywed yn eglur iawn i ddangos ei brifiant, megis yn y llinellau a ganlyn a thry'r blodau byw Yn llygaid ynghorff Prydferthwch Duw. A gwn fod dyfnder diwaelod i'r nant Liw nos, pan gwyno dan ganu drwy'r cwm. Corff y mae'i feddwl fel gwaedlif byw. "Trystan ac Esyllt" Da ydyw cael Trystan ac Esyllt mewn argraff am y tro cyntaf, ac yn y bryddest hon, fel y gellid disgwyl, oherwydd ei deínyddiau, y gwelir y bardd orau, ac y gellir ei feirniadu decaf. Yr wyf i'n ddiolchgar i'r Archdderwydd am adael y gair Sanctaidd heb ei newid yn y gyfrol. Y mae santaidd yn ddifai fel y gair sy'n gyfystyr â saintly Saesneg, eithr credaf y dylid cadw'r ffurf sanctaidd pan olygir holy," beth bynnag am gywirdeb tarddol. Yn y rhagair, dywaid yr Archdderwydd nad oes gan Gymru hyd yn hyn gerdd y gellir ei gosod gyd â cherddi mawr dyn." Efallai mai Gwili sy'n iawn, ond i mi y mae gwir enaid cerddi mawr dyn yn Yr Haf," "Eryri," Yr Arwr' "Madog," Anatiomaros," Mam (Tom Parry), ac yn ychydig o'r pryddestau Cymraeg gorau. Fuodl Credaf hefyd y deil ein telynegion Cymraeg gorau eu cymharu â goreuon cenhedloedd eraill. Gwerthfawr yn ddiau ydyw pob beirniadaeth deg, ond, er nad oes eisiau moli ffôl, y mae dichon bychanu gormod ar farddoniaeth Gymraeg. Sylwaiu ar ddau beth sy'n ymddangos yn wallau iaith i mi, sef nas gwêl y byd," tud. 55 (ni wêl ?) nes gweled gyfodi," tud. 61 (ai cywir treiglo cytsain ar ôl berf bresennol ?). Y mae'n dda iawn gennyf gael y llyfr cyntaf huodl hwn. Brysied ei frawd iau i lefaru wrthym. RHAID mynnu enwau'r Cownsil Y teulu oll i'r nawfed ach, Er mwyn eu denu gyda'r Uu A chanmol synnwyr llawer un Cael bod yn un o dri sydd fraint, A chyngor llawer cownsler tynn Ond wedi mynd yn ôl i'r ffordd Apwyntiwyd arall, am ei fod ] Canfasio A marcio gyda phensil 0 bobol bach mae'n helbul. Ac wedyn nodi'r ffrindiau Sy' ag urddas ar eu swyddau, I dynnu yn y gwifrau. Sgrifennu ac interfiwio, A dweud yn deg a chapio, Sy' a'i gorun wedi cracio. Ac yna chwysu a 'maelyd Am restr fer am ennyd Fe ŵyr y saint­mae'n hyfryd. Os llwyddiant a ddymuni Rhaid gwrando ar sen a choegni, A wyddit cyn ei eni. Brolio ei ddysg a'i ddoniau, A chofio ei rinweddau, Rhoi'r ordd ar ei wendidau. Ond dyma ddydd annedwydd, Ar ôl y chwys a'r aflwydd, Yn 'nabod y Cadeirydd. Gan ERFYL FYCHAN.