Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Eisteddfod Digwyddiad BOB blwyddyn tua'r un adeg fe ddaw cnwd o erthyglau yn sôn am ddi- wygio'r Eisteddfod, a phethau go debyg a ddywedir ym mhob un. Y mae dadleuon Mr. T. O. Phillips, Maesteg, yn Y FoRD GRON ddiwethaf, wedi eu dadlau o'r blaen, lawer gwaith, ac nid ydynt yn dyfod â ni ronyn nes i'r lan. Anodd deall beth y mae'r diwygwyr hyn yn ei ddisgwyl gan yr Eisteddfod. Cwyna Mr. Philhps am dlodi llenyddol cynhyrchion yr Eisteddfod, ond dywed hefyd yn yr un anadl bron Ni fedr unrhyw sefydliad gynysgaeddu neb â'r ymwybod sydd yn gwneuthur llenor." Oni osodid testunau. Yn wir, y mae llith Mr. T. O. Phillips yn bur llawn o groes-ddywediadau. Sonia am wreng a bonedd fel ei gilydd yn beirn- iadu'r Eisteddfod yn llym," fel pe bai'r pwnc ar dafod pawb. A'r funud nesaf y mae'n cyfaddef mai'r Eisteddfod rhagor pob sefydliad arall, a gaiff y gefnogaeth orau ym mhob ystyr," a theimla y bydd yr wyl eleni eto a'i thy yn llawn, a chalon pawb ar dân." Ceisia Mr. Phillips roi'r bai am dlodi llenyddol yr Eisteddfod ar y ffaith bod y rhaglen yn ddifenter, ac nad yw'r beirniaid yn ddigon da. Awgryma nad oes rhaid wrth destunau o gwbl. Ond pa arholiad ysgol a fyddai'.n debyg i lwyddiant pe na osodid testunau? Sawl gwr a luniai bregeth ? Sawl newyddiadurwr a ysgrif- ennai erthygl ? Hawdd beimiadu. Ac am y beirniaid-pe gosodid Mr. W. J. Gruffydd a Mr. Saunders Lewis, a hwy yn unig, fe fyddai Mr. Philhps yn fodlon. A yw Mr. W. J. Gruffydd a Mr. Saunders Lewis yn feirniaid da ? Mater o farn yw hyn eto. P'run bynnag, y mae Mr. Gruffydd wedi bod yn feirniad lawer gwaith, ac nid yw cynhyrchion yr eisteddfod yn well na gwaeth. Y mae'n haws beirniadu llenyddiaeth, a siarad yn awdurdodol, na chynhyrchu llen- yddiaeth. Dyna paham y mae cynifer o'n pobl ieuainc yn troi at feirniadu a sôn am feirniadaeth-y mae cynhyrchu llenyddiaeth yn gofyn gormod o hunan-ddisgyblaeth a gostyngeiddrwydd. Gwneuthur llenorion. Ond fe atebodd Mr. Philhps ei gwyn ei hun yn gampus pan ddywedodd na all unrhyw sefydliad gynysgaeddu neb â'r ym- wybod sydd yn gwneuthur llenor. Naill y mae gan wlad lenorion, neu nid oes. Y mae gan Gymru lenorion ddigon. Y mae'r FoRD GRON yn ystod ei thair blynedd a hanner wedi profi hyn. Ni ddylai neb ddisgwyl llenyddiaeth wych o'r Eisteddfod, ddim mwy nag y disgwylia Mr. T. 0. Phillips lenyddiaeth wych ym mhapurau arholiadau'r ysgolion canol neu'r brifysgol. Cyfle cystadlu. Cyfle i bobl fwrw llinyn mesur arnynt eu hunain yw arholiadau a chystadleuon, ac nid ydynt o fawr bwys ynddynt eu hunain. Nid yw ennill gwobr mewn eisteddfod yn profi bod dyn yn llenor,-ddim mwy nag y mae ennill B.A. mewn prifysgol yn profi bod dyn yn ddiwylliedig. Yr hyn a wna dyn ar ôl hynny sy'n bwysig. Fel y dywedodd Mr. R. Williams Parry, y mae'r bardd yn wahanol i'r sant. Fe â'r sant o'i waith at ei wobr, a'r bardd o'i wobr at ei waith. A'i waith yw'r unig beth sy'n cyfri. Am hynny, cryn wastraff ar egni y gellid ei droi at bethau gwell yw beirniadu'r Eis- teddfod fel pe bai hi yn geidwad egnïon llenyddol Cymru. Dìddoro/ Ydyw m Ni ddylai neb ddisgwyl llen- yddiaeth wych o'r Eisteddfod 'BJhydd gyfle i lenorion a cherdd- orion ddyfod i'r golwg am funud a thrio'u Iwc — dyna i gyd," meddir yma, mewn ateb i erthygl Mr. T. O. Phillips yn Y Ford Gron am Fehefin Gan Eisteddfodwr Digwyddiad diddorol yw'r eisteddfod, a rhydd gyfle i lenorion a cherddorion ddod i'r golwg am funud, os mynnant, a thrio'u lwc. Dyna i gyd. Os yw Mr. Phillips am godi llenorion, y mae'r cyfle yn ei ddwylo. Y mae ef yn ysgolfeistr. Rhodded i'w ddisgyblion gymaint o'r anfarwol nwyd ac o wybodaeth am grefft ysgrifennuagaall. Parhad Rhamant Gwaith y Chwarelwr Trwy ymdrechion diflin Mr. R. T. Jones, ar ddiwedd y rhyfel fe sicrhawyd gwelliannau i'r chwarelwyr y buont am flynyddoedd yn disgwyl amdanynt. Erbyn heddiw y mae iddynt sicrwydd cyflog a thâl wythnosol. Byrhawyd eu horiau gwaith, ac y mae iddynt lais ym mhenderfynu amodau eu cyflogiad. Sicrhawyd trefn brentisiaeth fel y caiff pob bachgen yr un chwarae teg. Gofelir am ŵr cymwys i'w ddysgu ac am gerrig cyfaddas iddo at hynny, a thelir cyflog yn ôl graddfa sy'n codi am bob blwyddyn. Ac er na lwyddwyd eto i gael gwared yn llwyr â'r gyfundrefn osod, fe wnawd ymdrech arbennig mewn un chwarel bwysig i dynnu ei cholyn, a rhoi'r un chwarae teg i bawb. P'le mae Caernarfon arni ? Cerddodd y chwarelwyr ymhell yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, a diddorol fyddai dilyn eu hynt o'r dyddiau pell hynny pan sefydlwyd yr Undeb gyntaf, a chyn hynny, hyd yr awron. Tybed nad oes gennym wyr cyfarwydd a wna'r gwaith ? Fe wnawd y gymwynas hon â glowyr gogledd Cymru a pham na wneir yr un gymwynas â hanes y chwarelwyr ? P'le mae pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Caer- narfon arni ynglŷn â hyn ? Ai gormod disgwyl iddynt fod wedi meddwl am y pwnc wrth drefnu a pharatoi eu Rhestr Testunau ? (Cyhoeddir y darluniau gyda'y ysgrif hon drwy gydsyniad Ohwarel y Penrhyn, Bangor.)