Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER GYFAN Difyrrwch ^Capten Puw WEDI i'r hen Gapten Puw ganu'n iach i'r môr, a gadael yr hen long i'w llywio gan ddwylo ieuengach, mabwysiadodd ddifyrrwch. Difyrrwch go anghyffredin, mae'n wir, ond un er hynny fu'n foddion i estyn ei oes. Daeth y Capten i gymryd diddordeb di- ddiwedd mewn clociau o bob math, yn en- wedig hen glociau tal, wyth niwrnod. Gan ei fod yn dda'i gas," chwedl ef, a neb yn dibynnu arno, ond Lowri ei wraig, 'doedd dim i'w rwystro i wario'n helaeth ar ei ddifyrrwch. Yr oedd Bryn-y-môr, ei gartref, yn dy braf a diamdlawd. Ambell ystafell efallai yn tueddbennu at fyddaru dyn. Y clociau yn tipian blith draphlith nes bod ev. swn fel swn bargod on ar fore o feiriol. 'DOEDD nemor fath ar gloc na wyddai'r hen Gapten ei hanes yn drwyadl. Adwaenai hefyd bob arwerthwr hen ddodrefn o fewn y Sir. Ei ddewis lwydd fyddai mynd i ffair ocsiwn lle byddai hen gloc neu ddau ar werth. Ffromai a brochai Lowri Puw pan soniai ei gwr am ocsiwn, gan fel yr ofnai'r canlyniad 'Neno'r tad, Ifan Puw, i be'r ewch chwi i'r hen ocsiwn yna i strarfio. Mae gennych chwi ddigon o hen glociach bellach. Mae'r hen dy 'ma'n llawn ohonyn' hw'. 'Fydd yma ddim lle i neb droi yn o fuan. Mi wyddoch 'mod i wedi mynd â dau i'r garet y gwanwyn dwaetha." Gwn, Lowri bach, mi wn yn eitha da," ebe'r Capten, ac mae un ohonyn' hw' yn gloc y mae gen i feddwl mawr ohono fo. Y cloc y bu Williams Pantycelyn a Jones Llangan yn edrych yn 'i wyneb o. Rhaid i chwi dreio gneud lle iddo fo yn y parlwr." Tewi byddai Lowri, am y gwyddai fod difyrrwch ei gwr yn gryfach nag unrhyw ymresymiad. Byddai dyfod cloc o rhyw deulu arbennig yn yr ardal yn ychwanegu'n fawr at ei werth yng ngolwg y Capten, gan y byddai'n fath ar gofnodfa o achau'r teulu hwnnw. Gan saled ei fargen ambell dro, dyfalem ai er ei fwyn ei hun ynteu er mwyn ei gys- ylltiadau y byddai ambell gloc yn cael lle ym Mryn-y-môr. WYDDAI'R Capten Puw ddim llawer am ddiwinyddiaeth fel ygwyddai ei hen gyfaill Capten Hughes, y Mary Ann. Ond gwyddai wmbredd am awriaeth." Blinai'r naill ar aeth y llall weithiau, a chollai'r sêt yn y cei eu cwmni am ddyddiau. Ond o gael yr hen gapten i ymgomio am ei hobi arbennig, a pheidio â'i gael yn rhy amt, yr oedd yn ddiddorol dros ben. Dyma fyddai rhediad ei sgwrs Y ddeial mi wyddoch oedd y cloc cynta, a'r cloc d-wr yn dilyn. 0 'chlywsoch chwi ddim am hwnnw ? Wel, mi ddweda i chwi. Ryw lestar oedd hwnnw i ddal hyn a hyn o ddŵr, ac o'iollwng drwy dwll bychan mesurai hyn a hyn o amser. Do, reit siwr, mi glywsoch am y cloc swnd. Y cloc pwysau ddoth yn sgil y cloc swnd, ac 'roedd hyn yn gam mawr ymlaen. Rhw fynach oedd bia'r ddyfais honno. Mi gadd 'i neud yn Bab yn y diwedd. Ia," ebe'r hen Gapten, Pab yn Eglwys Rufen oedd tad pob cloc wyth niwrnod a welsoch chwi 'rioed Gallai Capten Puw siarad fel hyn yn ddiddiwedd ymron. A byddai ganddo'i amser arbennig i fynd o gwmpas y ty i ddirwyn y rhai wyth niwrnod a'i amser penodedig i ddirwyn y rhai pedair awr ar hugain. Yn ddiweddar hefyd cawsai afael ar rhyw greadur o gloc, mewn cas gwydr, a'i bendil yn troi yn ôl ac ymlaen ac ymlaen ac yn ôl yn ddiorffwys am flwyddyn gyfan heb eisiau ei ddirwyn. Ar y dydd byrraf y digwyddai'r seremoni ö ddirwyn y cloc blwyddyn, a byddai'n ddigwyddiad o gryn bwys yng ngolwg y capten byddai ei gyfaill, Capten Hughes y Mary Ann wedi diflasu clywed amdano cyn ei ddyfod. Difyr yn wir fyddai aros tan ei gronglwyd. Arweiniai ni o le i le yn ei dy i ddangos ei drysorau. WELWCH chwi'r cloc yna," ebe'r Capten, "mae cas da am hwnna, a'i wyneb pres o'n reit tlws. Ond tu fewn sâl sydd ganddo fo. Rhyw ffitiau mae o'n i gael, ac yn amlach ar stop nac mae o ar fynd. 'Run fath 'roedd y dyn yna o Lwyn-y- brain pan ddoth o atom ni i Soar rai blyn- yddoedd yn ôl,- â'i wyneb pres, 'roedd o'n mynd yn nobl, ac yn cadw amser yn eitha. Gan H JONES DAVIES Ond gwarchod pawb, 'fu o ddim ar fynd yn hir. Mi 'digiodd rhywun o, ac mi nogiodd. Mae o ar stop ers tro." Ar dro'r grisiau cyfeiriodd at ddau gloc bychan o boptu'r ffenestr liw, hirgul, a oedd yno. Am hwn," ebe fe, mae rhyw ddrwg ar 'i 'sgyfaint o. Tae waeth am hynny, mae clywed y gog yn canu ar ben pob awr, ha a gaea, yn fwy na digon. DYNA i chwi gloc braf," ebe Capten Puw wedyn yng ngwaelod y grisiau. Mae hwn yn un hardd 'i wala, a Lowri'n meddwl y byd ohono. Ond a dweud y gwir, 'dydw i ddim felly. Mae o'n honni pethau mawr fel y gwelwch chwi. Fel ambell i ddyn, mae o'n well i edrych arno nag ydi o 'i hun. Mae o'n honni medru dweud pryd i'r lleuad newid, a'r llanw ddwad i fyny, a'r dydd a'r mis, a llawer o bethau. Ond rhyngoch chwi a 'finnau, 'dydio ddim mwy na llawer i ddyn, i ddibynnu arno fo. Mae o'n mynd yn rhy fuan neu'n rhy araf, neu ddim yn mynd o gwbl. Mae o fel llawer i un yn grand yn y golwg yn 'i du fewn mae o'n colli." OND y cloc sgwâr ar wal y gegin, hwnnw oedd y cloc, ym marn y Capten. 'Merican ydi hwn," ebe fe, hen gloc fy nhad erstalwm. 'Dydi o ddim rhyw lawer o beth i edrych arno hwyrach, ond mi fedrwch ddibynnu ar hwn bob amser. 'Rydw i'n fyw er pan anwyd fi ac mi welais filoedd o glociau yn f'oes 'welais i ddim un cystal â hwn. Mi fydda i'n meddwl am fy nhad yn amal wrth edrych ar wyneb clir ag onest y cloc yma. Na, 'dydech chwi ddim yn cofio 'nhad. Ia, dyn y môr oedd ynte ac un o'r dynion clyfra ag onesta a wisgodd esgid erioed. 'Well gin i'r gegin yma. Dyna pam mae'r cloc yna lle gwelwch chwi o. Pytae chwi'n cynnig canpunt amdano fo, chymerwn i monyn hw. Yna bydd o tra bydda i byw, beth bynnag ddaw ohono wedyn DAETH y dydd byrraf i'w gyhoeddiad, a'r amser i ddirwyn y cloc blwyddyn ar ei rawd. Ond, 'doedd y llaw a arferai wneuthur hynny ddim ar gael y llynedd. Yr oedd Capten Puw wedi gadael tir a chroesi'r bar ar droad y rhod. Euthum innau, fel cannoedd eraill, o wir barch i'r hen gapten diddan, i Fryn-y-môr i'w gynhebrwng. Distaw iawn oedd pethau yno y ffenestri dan lenni trwch pob i stafell yn llwyd dywyll; a'r clociau i gyd ar sefyll. Ond un A chloc y gegin, fel y gweddai, oedd hwnnw. Disgynnai ei dic-doc-dic-doc yn araf gwynfannus ar fy nghlust, a thebycach y swn i ochneidiau calon archoll- edig nag i sẅn cynefin dyfais dyn yn mesur amser.