Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWiD DYDDIAD I WELD Y BRENIN MERCH IFANC A'R GYFRAITH U raid i'r Athro Syr John Edward Lloyd newid un vííga«rtí? o'i ddyddiadau y mis di- wethaf. Yr oedd wedi cynllunio rhoi anerchiad, fel Uywydd etholedig. i gwrdd undeb ei enwad yn y Rhcs. Sir Ddinbych, ar y 27 0 Fehefin. Ond yr oedd yn cael ei urddo'n farchog ar y dydd hwnnw. Serch hynny. fe roddodd yr anerchiad, -y diwrnod cynt. Bûm innau ymysg y cannoedd oedd yn gwrando ar yr athro. Siaradai'n syml, ond yr oedd yn hawdd deall ei fod yn siarad fel un sy'n awdurdod ar hanes ein gwlad. Hanner Canrif o Annibyniaeth oedd y pwnc y siaradai arno. ond yr oedd ei anerchiad э ddiddordeb i bob Cymro. Perthyn i Lanrhaeadr YR ydym fel teulu yn perthyn i ardal Llanrhaeadr ym Mochnant," ebe Syr John wrthyf, Ue mae'r Llwyd- iaid wedi trin y tir ers canrif a hanner. Magwyd fi yn Lerpwl, lle'r oedd fy nhad yn masnachu ac yn aelod o eglwys Grove Street, dan weinidogaeth Hiraethog. William Nicholson (' W.N.') a'm han- ogodd i ddechrau pregethu, a bûm yn gwasnaethu'r eglwysi hyd adeg y rhyfel, pan fu raid i mi roi heibio, oblegid galwadau eraill ar f'amser." Aeth yr Athro Lloyd ymlaen i sôn am ei ddyddiau coleg Dyddiau Coleg BUM yn Aberystwyth yr un adeg â Tom Ellis, S. T. Evans, T. F. Roberts, Ellis Jones Griffith ac eraill y mae eu henwau'n hysbys i bawb. Ar anogaeth T. C. Edwards, eis i Goleg Lincoln yn Rhydychen yr oedd amryw o'm cyfoedion o Aberystwyth yno, ond wedi i mi adael y cychwynnwyd Cymdeithas enwog Dafydd ap Gwilym. Dychwelais i Aberystwyth i fod yn athro, ac yn ystod y blynyddoedd 1885-1892 bûm yn darlithio ar hanes Cymru yn y Bala, Blaenau Ffes- tiniog, Porthmadog, Llanelli, a llawer man arall." Y Tri Llyfr Hanes ARWEINIODD hynny Syr J. E. Lloyd at y Tri Llyfr Hanes (1893, 1896, 1900) ar Hanes Cymru hyd 1282, a fwriadwyd i blant yr ysgolion elfennol. Wedi gosod sylfaen fel hyn, dechreuodd ar yr History of Wales ar yr un cyfnod. Bu wrthi am ddeng mlynedd ac ymddang- osodd y ddwy gyfrol yn 1911. "Dechreuais ar fy ngwaith," meddai wrthyf, fel athro hanes ym Mangor yn 1899, a chefais y fraint o gario 'mlaen hyd yr oedran 0 69, pryd yr ymddiswyddais." Syr John Edward Lloyd. Cyfreithwraig CHAFODD neb well derbyniad, mi ddeallaf, mewn cyflwyniad yn y Llys Brenhinol yn ddiweddar, na Miss Gweneth Ellis Davies, merch Mr. Ellis W. Davies. Cyfreithwraig ydyw gartref, ac y mae'n gweithio yn swyddfa'i thad yng Nghaer- narfon. Mewn ymgom a gefais â hi'n ddiweddar, dywedodd Yr wyf yn cymryd diddordeb mewn llenyddiaeth a gwleidyddiaeth; a thra bu fy nhad yn cynrychioli Dinbych yn y Senedd, bûm yn siarad yn aml drosto yn yr etholaeth." Yn Swyddfa'i Thad WEDI gorffen fy addysg yn Ysgol Sir y Genethod, ac yn y Brifysgol ym Mangor," meddai Miss Ellis Davies wrthyf ymhellach, penderfynais fynd yn gyfreithwraig. Treuliais fy erthyglau clercyddol yn swyddfa fy nhad am bum mlynedd. Yna pesiais fy final,' chwe mis cyn pen y tymor. Ymunais â thy fy nhad ac erbyn hyn y mae fy nau frawd yn gyd-bartneriaid â mi." CEF AIS air y dydd o'r blaen oddi wrth Mr. Richard Ll. Huws, yr arlunydd sy'n hysbys i chwi i gyd drwy ei luniau ar dudalennau'r FORD GRON. Yr wyf yn brysur iawn yn awr," meddai Mr. Huws wrthyf, cymerais i wneud 50 o gyrff pren a rhaid imi ddal ati ddydd a nos yn ystod y dyddiau nesaf. Gwaith llaw o bob math wyf yn ei wneud yn awr. Gwnaeth Gaumont British Ideal Films ffilm ohonof wrth fy ngwaith ychydig amser yn ôl, ac y mae gan Planet News, Ltd., un neu ddau o luniau a gymerasant ohonof yn fy ngweithdy." Aeliau Hoelion YN rhyfedd iawn, digwyddais weld y ffilm y sonia Mr. Huws amdano. Gwaith hudol oedd gwyho'i ddwylo medrus yn cymhathu llun bun o ddarn o bren plaen. Un o'r merched gor-ddiweddar eu dull hynny ydoedd yr un a wnâi. Yr oedd ei hwyneb yn eglur ei doriad, eto'n awgrymu meddalwch rhyw Mona Lisa. Hoelion oedd yr aeliau, a thresi pres oedd y gwallt. Ofnais feddwl pa beth a rôi Mr. Huws yn lle ymennydd i'r ferch heddiw Y mae cryn gip ar y delwau ffasiynol hyn i arddangos dillad yn y masnachdai gwisg- oedd. Am wybod ei hanes AMI'N sôn am arlunwyr, mi glywais fod cais wedi dyfod o cyn belled â Pharis at Mr. S. Morse Brown, yr arlunydd sy'n bennaeth ysgol Grefftau a Chelfyddydau Caerfyrddin, iddo anfon "hunangofiant byr a hanes ei yrfa fel celfydd, i un o'r papurau yno. Wedi arddangos gwaith yn y Royal Society of British Artists' Exhibition, Llun- dain, yr oedd Mr. Brown, ac yr oedd papurau Paris am wybod ei hanes. Y mae darluniau o'r eiddo wedi bod ar ddangos hefyd yn y Royal West of England Academy (sef Afon Dowi yng Nghaer- fyrddin ") ac yn y Bradford Art Gallery. Cymry'n cyfarwyddo Bu syn gennyf glywed ar ymgom yn ddiweddar gynifer o Gymry, yng Nghymru a Lloegr, sy'n cyfarwyddo byrddau addysg. Tybed fod tuedd yn y Cymro at y gwaith ? Ym Manceinion fe gawn Mr. W. Lester Smith a Mr. E. Salter Davies (o Hwlffordd) yn swydd Caint; Mr. Evan T. Davies (o Sir Benfro) yn West Sussex Mr. Evan Davies (o Faesteg, Sir Forgannwg) yn