Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barnsley Dr. Evan Davies (o Gwm Teifi) yn Willesden Mr. Ivor Bowen (o Gaerdydd) yn West Hartlepool; Mr. Frederick Evans (o Langynwyd) y tu allan i Lundain. Y mae'r rhai uchod i gyd yn Lloegr. Hyd yn ddiweddar iawn, gellid rhoi dau enw arall wrth y rhestr, sef Mr. W. J. Williams fu yn Middlesbrough, a Mr. Arthur Lewis, fu yn West Bromwich. Ond y mae Cymru wedi eu hawlio hwynt yn ôl. A.S. yn Efrog LLAWEN gennyf oedd deall mai Cymro o'r enw Mr. George Arthur Gruffudd, a ddychwelwyd yn ddiwrthwyneb ych- ydig amser yn ôl, fel aelod seneddol dros ranbarth Hemsworth, Sir Efrog. Aeth Mr. Gruffudd o ogledd Cymru i Royston 30 o flynyddoedd yn ôl. Y mae'n 54 oed, ac y mae'n hen wrth-bwyswr yng nglofa Monkton. Dechreuodd weithio yn y lofa pan oedd yn 13 oed. Swydd gan y B.B.C. CLYWAIS ddoe am benodiad Mr. Rowland H. Johns, unig fab Mr. a Mrs. Charles R. Johns, Dorking, Surrey, gan y British Broadcasting Corpora- tion fel un o'r prif Beirianwyr. Dechrau ar ei ddyletswyddau newydd rhag blaen yng ngorsaf y North Regional, Leeds. Yn Ysgol Emanuel, Llundain, y cafodd Mr. Johns ei addysgu. Tra fu yno cymerai ddiddordeb neilltuol mewn taclau radio." Pan oedd yn 20 oed graddiodd yn B.Sc. gydag anrhydedd mewn Peirianyddiaeth ym Mhrifysgol Llundain. Yn ddiweddarach aeth i wasanaethu'r British Thomas Houston Co. yn Rugby fel student, ac ar staff Bruce Peebles a'i Gwmni yn Edinburgh. Yno yr oedd pan ddaeth i sylw'r B.B.C. Y mae'n aelod o'r Institute of Electrical Engineers. Y mae'n hoff iawn o fyw yn yr awyr agored. Treuliodd aml wyliau haf yn ystod ei febyd ar lannau Ynys Fôn. Y mae ei dad, Mr. C. R. Johns, ers blyn- yddoedd yn ysgrifennydd i'r Canine Defence League. Cyd-ddigwydd Hapus CLYWAIS am gyd-ddigwyddiad hapus a ddaeth i ran Mr. Rhys J. Davies, A.S., a Mrs. Davies yn ddiweddar. Yr oedd Mrs. Davies cyn priodi yn ath- rawes mewn gwaith cartref yn Ysgol Uchel y Genethod, Longton, Staffs. Gadawodd y lle hwn, a phriodi ar y 3 o Fehefin, 32 o flynyddoedd yn ôl. Yr un dydd o'r un mis eleni, sef Mehefin 3, gwahoddwyd Mr. Rhys Davies i annerch yn yr eglwys lle'r arferai Mrs. Davies addoli. Hyn ar ddydd dathlu eu priodas, a heb i'r gwr oedd yn gwadd wybod dim am y dyddiad. Wedi bwrw Sul yn Longton aeth Mr. a Mrs. Davies ar wib i'r Potteries. Miss Gweneth EIlis Davies. Mr. R Vaughan Jones FE ddywedir yn gyffredin yn Lerpwt mai Mr. R. Vaughan Jones ydyw'r dyn prysuraf yng nghylch Cymraeg y ddinas honno. Anodd iawn yw cael hyd iddo yn ei oriau hamdden (cs oes ganddo'r fath beth) yn ystod tymor y gaeaf. Fe wibia o gyfarfod i gyfarfod, o bwyllgor i bwyllgor, o gôr i gôr. Ef, ar hyn o bryd, yw Uywydd y ddwy gymdeithas gorawl sydd yn y ddinas- teyrnged deilwng i'w lafur di-ball. Ef, hefyd, yw ysgrifennydd Cymdeithas Genedlaethol Lerpwl ers blynyddoedd,- gwaith sy'n cymryd cryn amser a meddwl effro a chwim, canys y mae ambell ddar- lithydd yn siomi'r gymdeithas ar y funud olaf. Llwydd ciniawau MR. R. VAUGHAN JONES, yn ddiddadl," meddai cyfaill wrthyf, `' sydd tu ôl i lwyddiant pob cinio Dewi Sant yn Lerpwl. Fe ŵyr i'r dim pwy sydd i eistedd ar yr un bwrdd ac y mae hoff byncian siarad pob CYMRO'N DANGOS EI GREFFT .•: v BYDDIN O GYFAR- WYDDWYR O GYMRU gwr enwog ar flaen ei fysedd." Mawr yw ei lwydd fel blaenor yn Eglwys Stanley Road (M.C.) a'i ddiddordeb byw yn y gwahanol genadaethau wrth yr afon. Ni ŵyr neb pa le i'w gael gyda'r nos. Gwn nad yw'r un cyfarfod mawr pwysig Cymraeg yn ninas Lerpwl yn iawn heb i R. Vaughan Jones fod ar y llwyfan, neu y tu ôl i'r llen. "Hywel Harris" yn Lerpwl PLESER mawr hefyd yw cael sôn am Mrs. R. Vaughan Jones. Bu'r fonedd- iges radlon hon yn ysgolfeistres yn Aberystwyth am flynyddoedd. Hi a gododd gwmni Drama Bootle, a chymer ddiddordeb mawr ym mywyd a helbulon pob un o'i hactorion. Ers blynyddoedd bellach y ddrama Gymreig yw cylch ei myfyrdod a'i hastudiaeth. Aeth â'i chwmni i'r Eisteddfod vn Wrecsam ac ennill vr ail wobr am chwarae Hywel Harris." Aeth ymlaen wedyn i hyfforddi ei chwmni i chwarae Abraham Lincoln am y tro cyntaf yn y Gymraeg. Derbyniodd y pei- fformiad hwn sylw mawr gan y newyddiad- uron Saesneg. Cred Mrs. R. Vaughan Jones fod amgylch- iadau economaidd yn effeithio llawer ar ddawn a gallu pob chwaraewr. Miss Evelyn Griffiths BUM yn siarad â Miss Evelyn Griffiths, y Gymraes athrylithgar o Lundain sy'n brysur i awn ar hyn o bryd yn cyfan- soddi caneuon ffansi. Gwlad ysbrydoliaeth yw Cymru," meddai wrthyf. Mi fûm yn teithio llawer yn y gogledd, yn y mynyddoedd a hefyd yn y de, ar draethau Sir Benfro ac mi fyddaf bob amser yn dyfod oddi yno gyda syniad newydd am chwaraegân." Clywais fod ei chwarae, "The Wind in the Trees," yn llwyddiant perffaith yn y Millicent Fawcett Hall, Westminster, y mis diwethaf.