Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFASIYNAU. Gwisgo Mawr ar fp'lanen Fain Qan MEGAN ELLIS O'R holl ddefnyddiau a ddangosir at siwtiau ysgafn eleni, buaswn yn dweud mai gwlanen fain yw'r un sy mewn ffafr. Y mae'n rhaid addef fod y twid lliain a'r defnyddiau wedi eu gwau yn hynod ddeniadol; ond y mae rhyw swyn yn aros mewn siwt wlân sydd wedi ei thorri a'i theilwro'n berffaith, ac yn rhoi'r teimlad dedwydd hwnnw i ferch ei bod yn edrych ar ei gorau. Gwelais siwtiau o wlanen angora lliw blawd ceirch, a lliwiau golau eraill, fuasai'n gweddu i ferched canol oed neu ifanc. Un rhinwedd i siwt fel hon yw y gellir ei gwisgo bron bob tymor fe wna yn yr haf, neu o dan got uchaf yn y gaeaf. Defnydd golygus Angora. Dangoswyd gyda'r siwtiau hyn siwt dyn, i brofi mor olygus yw'r defnydd pan fo wedi ei deilwro'n dda. Hawdd tybio y bydd llawn cymaint o ddynion ag o ferched yn ceisio'r siwt angora. Ond y mae'r wlanen lwyd olau gyffredin yn dal yn boblogaidd iawn o hyd. Y mae'r olwg arni'n bodloni beunydd, yn enwedig pan fo'r Uygaid wedi eu dallu bron gan y lliwiau a phatrymau di-rif a welir heddiw. Nid wyf am ddiraddio'r defnyddiau pryd- ferth a lliwgar, wrth gwrs yr wyf yn rhy hoff ohonynt. Ond y mae'n eithaf peth dewis gwlanen lwyd weithiau pe na bai i ddim ond cael newid. CIWT NEWYDD FFEL o organdi neu chiffon caled. Gorffennwyd y goler, y cyffiau a'r het â ffriliau wedi eu pletio ac y mae'r het wedi ei thwtio â blodau lliw a rhuban felfed. Gwelais un siwt fel hyn a gymerodd fy ffansi'n odiaeth; yr oedd y sgert yn wedd- ol g w t a wedi ei thorri'n bedair panel ac yn gul, ond y pan- elau yn rhoi digon o gwmpas yn yr hem i'w gwneud yn gys- urus wrth gerdded. SWYN DEFNYDD- IAU COTWM. Gwelais siwt arall o dwid lliain lliw gwenith, ac yr oedd hon fel y llall yn di- bynnu ar yr addurn pwyth peiriant. Yr oedd i'r sgert ddwy bleth bocs, tu ôl a thu blaen, a rhesi o wn- ïadau'n canlyn y plet- iau i lawr ac o gwmpas yr hem. Cot fer ar ffurf cardigan, a rhesi tebyg o'i chwmpas blows liain olau wedi ei gris-groesi â rhesi o liw gwenith. Clywsom gymaint am swyn defnyddiau cotwm eleni fel nad oes raid imi ond cryb- wyll y voiles," gingham," lawns a'r mwslin. Ond y mae yn werth sylwi fel y mae'r gwneuthurwyr wedi perffeithio laes. Gwyddys mor dlws fu laes erioed gyda'i blygiadau esmwyth a'i linellau grasol, ond heddiw y mae laes stiff i'w gael at wneud coleri a chyffiau ar wisgoedd gwlân a lliain. Yn awr am siwt haf allan o'r cyffredin. Y mae'r darlun yn ei dangos, ac fe welwch mor hardd ydyw. Lliain du anwasgaradwy ydyw'r defnydd fe welwch fod y sgert yn syth ond yn dangos dipyn o gwmpas tua'r hem. Y mae'r got wedi ei thorri'n ofalus gyda'r un syniad o gwmpas ar yr hem. Dim coler, ond dwy refer' fechan. Sylwch ar y wasgod dyma nodwedd gyf- rinach y siwt. Lliain du a phinc cymylog ydyw'r defnydd, wedi ei thorri'n gywrain gyda dau bwynt i'r chwith a'r dde a dau arall tuag i lawr. Gwneuthur Siwt Haul. Y mae'r siwt haul a ddangosir yn y darlun yn hawdd iawn i'w gwneud. Y mae eisiau 7/8 llathen o ddefnydd cotwm rhesog llathen o led, gyda 5/8 llathen o ddefnydd plaen i gydweddu. DAU GYFUNIAD O LIWIAU DISGLAIR. Gwnaed sgert y wisg dunic ar yr aswy o grêpe gwyn a smotiau glas arno, a'r tunic o grêpe glas gyda smotiau gwyn. Gwelir ar y dde gyfuniad sy'n hyfryd o anarferol ac eto'n gyfaddas siaced a sgert lliain du blows-wasgod lliain du a phinc cymylog a het Lydewig o'r un lliain plod. Y mae'r llun yn dangos darnau'r dilledyn, ac y mae'r mesur a roddir yn briodol i blentyn tair neu bedair oed. I fod yn PFROC FACH HYFRYD o orgama gwyrdd a gwyn, gyda gwregys daffetas gwyrdd. Gwisgir gyda het organdi wen a gylchynnir â stribyn o daffetas gwyrdd.