Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BLODAU I'R FFENESTR, yn üe llenni byrion. ddiogel, mesurer y plentyn cyn torri'r patrymau papur. Wedi torri'r patrymau papur a'u tacio ynghyd, treiwch hwynt am y plentyn a newidiwch os bydd raid. Yn awr gellir torri'r defnydd yn ôl y patrwm a gwneud y wisg. Gellir gwneud y siwt i weddu i eneth chwech i saith oed, ond caniatáu rhagor o ddefnydd yn ôl y maint. Blodau yn lle Llenni. Aeth yn arferiad i ddodi llen neu gyrten ar hanner isaf ffenestr, yn enwedig os bydd yn edrych ar yr heol neu'r ffordd fawr. Byddai'r hen bobl yn gwneud heb lenni felly ac yn rhoi blodau neu blanhigion tlws yn y ffenestr, a byddai'r rheini'n ateb yr un diben heb dywyllu'r ystafell. Gwelais yr un peth mewn ty modern yn ddiweddar. Yng nghanol y ffenestr yr oedd llestr uchel a'i lond o flodau hen ffasiwn. Bob ochr iddo yr oedd bowlan isel yn llawn o flodau mam-yng-nghyfraith ac eraill tebyg, heb fod yn rhy dal. Yr oedd y cwbl yn gwneud pictiwr den- iadol iawn o'r tu allan ac o'r tu mewn, ac yr oedd yn amhosibl i neb edrych heibio i'r blodau ac i mewn i'r ystafell. EU NEWID BOB WYTHNOS. Cefais fod gwraig y ty hwn wedi gwneud arferiad o roi blodau yn ei ffenestri yn lle llenni, ac yn wir yr oedd eraill yn yr un ardal yn dechrau dilyn ei hesiampl. Yn y gwanwyn yr oedd ganddi gawg yn y canol yn llawn o gangau îr, gyda phowlen o friallu un ochr ac un araU o flodau'r ymenyn yr ochr arall. Fel y datblygai'r tymhorau yr oedd yn gallu newid ei darlun bron bob wythnos, a hyd yn oed yn y gaeaf yr oedd ganddi gangau o lawryf neu gelyn, i daro nodyn llon, beth bynnag fyddai'r tywydd. Diodydd Haf. Be gawn ni i dorri syched ar ddiwrnod poeth ? Nid pawb sy'n gwybod y geUir paratoi diodydd hyfryd ac adfywiol yn bur ddi-gost gartref os bydd ffrwythau ar gael. Fe wna unrhyw ffrwyth ffres y tro. Rhodder y ffrwyth mewn bowlen a gwasger a maler ef gyda fforc. I bob pwys, gellir caniatiu chwart o ddŵr. Y mae eisiau toddi digon o siwgr mewn dŵr cynnes, a phan fo'n oer ei gymysgu gyda'r ffrwyth. Rhodder sudd un lemon i bob deubwys o'r cymysgedd. Gadawer dros nos dan orchudd, yna T hidlo drannoeth, a bydd yn barod i'w ddefnyddio. Bydd chwarter llond gwydryn yn ddigon gyda dwfr arno. LEMON AC ORAEN. I wneud diod lemon a geidw am tuag wythnos Pilier pedwar lemon a rhoi'r croen mewn chwart o ddwr i ferwi am ddeng munud. Sleisier y pedwar lemon a'u rhoi mewn bowlan gyda dwy owns o tartaric acid a dau bwys o siwgr lwmp. Tywallter y dŵr berwedig arnynt a'i roi i sefyll am 24 awr, yna ei hidlo a'i botelu, gyda'r corcyn yn dynn. Bydd ychydig o'r syrup yn ddigon yng ngwaelod gwydryn a dWr i'w lenwi. Gellir gwneud syrup oraen mewn dull tebyg Rhoi croen pedwar oraen mewn jwg a pheint o ddWr berwedig arno a'i adael i oeri. Toddi dwy owns o siwgr mewn sosban a cwpanaid o ddWr a'i ferwi am ddeng munud. Ychwanegu sudd yr oraen ato a hidlo'r dŵr oddi ar y croen. Pan for Hin yn Hoeth. Y mae chwysu'n beth naturiol ac angen- rheidiol er iechyd pan fo'r hin yn boeth, ond y mae gormod chwys yn gwanhau ac yn bur anghysurus. Y mae cerdded neu chwarae yn yr haul yn achosi chwys o amgylch y gwddf, ac oni chymerir gofal, fe all ddi- fwyno'r croen. Y ffordd orau i rwystro hyn yw rhwbio'r wddf gyda sgleisen o lemon bob nos. Os yw'r croen eisoes wedi difwyno, gwasger darn o wlanen mewn dŵr poeth a rhodder dyferyn neu ddau o peroxide of hydrogen arni. Ond y ffordd orau i osgoi gormod chwvs yw taenu ychydig bowdr starts ar y croen wedi ymolchi a sychu. QIWT YMHEULO I ENETH FACH. Dengys y lluniau pa fodd i dorrfr gwahanol ddarnau at ei gwneuthur. Meddu gwallt hardd ydyw un o gaffaeliadau mwyaf ein hoes, ac y mae modd pert i unrhyw wallt edrych yn hardd. Ychydig ddiferynnau o Rowland's Macassar r Oil a'i rwbio'n dda i groen y pen bob dydd-fe sicrha hyn fod y maeth angenrheidiol yno, y maeth sy mor fynych yng ngholl oherwydd golchi neu oherwydd cyflwr drwg. Ar gael gan bob cemist neu siop neu dorwyr gwallt, pris 3a. 6d., 7b., a lOs. 6d. Coch at wallt tywyll, aur at wallt golau neu wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 22, Laystall St., Rosebery Avenue, London, E.C.l. J. H. & CO.