Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byd y Ddrama "Medd y Cymry ar leisiau Digyffelyb — Beirniad DARLLENWN am fwy o basiantau a pherfformiadau yn yr awyr agored yng Nghymru eleni nag erioed o'r blaen. Daw pasiant Caerlleon-ar-Wysg, lIe bu Arthur a'i farchogion, unwaith eto i dramwyo'r hen ddinas Rufeinig. Cafwyd arbrawf hefyd o waith sefydliadau'r merched yn sir Feirionnydd, a phasiant uchelgeisiol arall wrth droed yr Wyddfa. Trueni bod afiechyd wedi Uesteirio Miss Evelyn Bowen, Llangollen, rhag cynhyrchu Pobun" ar lawnt Plas Newydd, Llan- gollen. Yr oeddwn yn disgwyl yn eiddgar am rywbeth newydd yn Llangollen, ond ni cheir ef eleni. Arwain hyn i'n meddwl y dylai'r Eistedd- fod Genedlaethol ymaflyd yn y ddrama yn awr cyn y daw dydd o brysur bwyso yn ei hanes. Yr Eisteddfod a'r Ddrama. NI waeth inni honni un peth na'r llall, y mae'r Eisteddfod wedi cymryd mantais ar y ddrama i wneud elw, ac wedi gwneud ffortun fechan ohoni o flwyddyn i flwyddyn. Gwn nad peth hawdd fydd argyhoeddi pwyllgorau y dylent roi chwarae teg i'r ddrama bellach. Os gellir cynnig talu dros £ 400 i unawdydd am ganu ychydig ar un noson yn yr wythnos, gellid yn hawdd icario cant neu ddau i gynhyrchu rhywbeth gwerth yr enw ym myd drama'r wythnos genedlaethol. Nid oes fawr sawr uchelgais ar raglen ddrama Castell Nedd, ac os bernir ni gan ddieithriaid, yna ni fydd ganddynt syniad uchel o ddatblygiad ein drama yng Nghymru. Yn y cyfamser beth am ychydig fenter ar ran Pwyllgor Drama Caernarfon ? Anfonwch heddiw. TEIMLAF fod angen y mis hwn eto i atgofio cwmniau drama Cymru am Wyl Ddramâu Cymraeg dan nawdd Undeb Drama Prydain. Y mae'r ail wyl eleni yn agored i bob cwmni sy'n perthyn i'r Undeb, ac fe gynigir eto y Cawg a roddwyd gan Arglwydd Howard de Walden yn yr ŵyl derfynol yn Rhagfyr, 1934. Rhaid i'r gwaith dramatig a gynigir gan unrhyw gystadleuydd fod yn chwarae un act neu ran o ddrama fwy, ond heb gymryd dros ddeugain munud i'w pherfformio. Rhaid i bob chwarae neu ddetholiad gynnwys o leiaf dri pherson sy'n siarad. Gan RHYS PUW Penodir y beirniad neu feirniaid gan y pwyllgor adran. Dylid anfon ceisiadau yng- hyda'r arian­-1θ|6 (neu 15/- i barti nad yw'n perthyn i'r Undeb) i Mr. D. T. Morris, 30, North Terrace, Maerdy, Morgannwg, erbyn Gorffennaf 15. Mr. J. P. Walters. C YFEIRIASOM eisoes at farw'r Parch. John Owen (Ap Glaslyn), a Richard Hughes, Abertawe, dau ŵr fu'n flaenllaw yn ystod y ganrif hon ym myd drama Cymru. Miss Florence Howell, Cosheston, Sir Benfro. Cafodd i Gymraes hon y wobr gyntaf o 350 0 gystadìe'iwyr am ei drama Jane Wogan," yng nghstadleuaeth ryng-genedlaethol St. Martin's Theatre, Llundain, y mis diwethaf. Prudd yw meddwl bod un arall o'r ar- loeswyr wedi dianc o lwyfan byd. Ni ellir cyfrif y golled a gafodd chwarae drama yn ne Cymru ym marw Mr. J. P. Walters, Plasmarl, Abertawe, un o sylfeinwyr Cwmni Drama Abertawe. Yr oedd yn actor gwych, a chreodd fwy o gymeriadau yn nramâu J. 0. Francis nag odid unrhyw un arall yng Nghymru. Yr oedd yr hen a'r newydd yn cydgwrdd yn y gwr hwn. Nid ar chwarae bach y ceir telpyn o athrylith ddramâol tebyg iddo. Taith y Pererin eto. NID wyf yn sicr ai mantais ai anfantais yw ceisio adolygu drama wedi'i gweld ar y llwyfan. Dyna a ddigwyddodd i mi ynglyn a'r ddrama Taith y Pererin eithr cefais fwy o fwynhad o'i gweld ar y llwyfan dair gwaith ym Mlaenau Ffestiniog adeg y Pasg nag a gefais wrth ei darUen. Efallai mai dyna'i rhinwedd arbennig. Gwnaeth Mr. J. Ellis Williams ddetholiad gwir dda o'r digwyddiadau angenrheidiol yn yr alegori eneiniedig o waith y tincer Bunyan, a chymerodd drafferth nid bychan i wneud ei Uwyfannu'n weddol hawdd i gwmnïau gwledig Cymru. Rhaid imi rybuddio cwmnïau rhag gwneud y ddrama yn fath o gyfarfod pregethu, neu fe goUir amcan y ddrama a diddordeb y dorf yr un pryd. Y mae'n gofyn gallu ang- hyffredin i wneud areithiau hir yn effeithiol ac yn ddiddorol ar lwyfan. Anghytuno. YMGAIS nodedig yw'r ddrama hon i dorri tir newydd yng Nghymru. Ond rhaid inni gofio, ar yr un pryd, fod Twm o'r Nant wedi gwneud anterliwd o un o straeon Bunyan dros 150 o flynyddoedd yn ôl. Er hynny, credaf mai ar lwybrau Taith y Pererin y gorwedd iechydwriaeth drama ein gwlad. Y mae'n hanes hynafol yn aros am y Drinkwater neu'r Yeats a anwyd yn Gymro. Gyda llaw, rhaid imi anghytuno'n hollol â'r gwr a ddywedodd am y ddrama hon Rhaid edmygu ysbryd anturus unrhyw awdur a ymgymer â llunio drama bedair act o alegori Bunyan, ond odid fawr na bydd yn rhaid meithrin y chwaeth gyhoeddus i wTando'n iawn cyn y gellir gobeithio anturio i'w chwarae." Lol i gyd. Profer a gweler y peth. Y mae'n debyg gennyf y bydd chwarae lawer ar Taith y Pererin y gaeaf nesaf; cyhoeddir hi gan y Mri. French, Cyf., 26, Southampton Street, Strand, Llundain. Pris 2/ Meithrinwch eich talent." CEFAIS ymgom ddiddorol yn ddiweddar â Mr. Ronald Adam, gwr a wnaeth waith da, a cholli arian trwy hynny droeon, yn yr Embassy Theatre, Llundain. Y mae'n credu'n gryf mewn antur ym myd drama. Llawenydd felly oedd cael ei farn ar chwarae drama yng Nghymru. Bu'n beirniadu yng NgWyl Ddrama y ddwy sir, Dinbych a Fflint, yn Wrecsam. Meddai Mr. Adam Rhaid imi gyfaddef bod yr hyn a welais o chwarae drama yng Nghymru i fyny, o ran safon, â'r cyfryw yn Lloegr, os gofelir bod eglurdeb y siarad yn un o'r hanfodion mwyaf pwysig. Nid oes unrhyw reswm dros beidio â chlywed pob un o'r cymeriadau ar y llwyfan. Y mae tuedd yng Nghymru, ym mhob math ar ddrama, i'r chwarae fod yn rhy araf ac i rai ynganu yn null y pregethwr, yn hytrach nag mewn modd naturiol siarad y wlad. Ond, rhaid imi gyfaddef imi gael mwyn- had dirfawr wrth wrando ar y cwmniau yn yr wyl hon, a chredaf y dylai'r actwyr pronesedig wneud y cwbl a allont er hyr- wyddo'r mudiad." Yn ei siars inni fel Cymry dywedodd Yr ydych yn meddu ar leisiau digyffelyb. Gwnewch yn fawr o'r dalent a meithrinwch hi er mantais i'r llwyfan yn eich gwlad."