Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UN 0 Feddygon Mwya'r BYD Hanes Disglair Llydawr a ddysgodd y Gymraeg TRE wledig yw Quimper, yn Llydaw, ac y mae ganddi brifeglwys hardd iawn. Yn 2 rue du Quai o'r dref hon, 153 o flynyddoedd yn ôl, fe aned mab i gyfreithiwr oedd â mwy o ddi- ddordeb mewn barddoniaeth nag yn y gyfraith. Ef oedd Laennec, a wnaeth yr astudiaeth wyddonol gyntaf ar ddoluriau'r fron ac a ddarganfu'r corn meddyg, a welir yn hongian o logell meddyg bron bob adeg o'r dydd ac ambell nos. Buasai ei dadcu yn faer y dref, a hen ewythr iddo, Hyacinthe Morice, oedd un o haneswyr Llydaw. Yr oedd un brawd i'w dad yn feddyg yn Nantes, a brawd arall yn rheithor yn Elbiant. Amddifad yn chwech oed. Bu farw'i fam pan oedd yn chwech oed ac aethpwyd ag ef a'i frawd at ei ewythr Guillaume Laennec, y meddyg yn Nantes, a oedd hefyd yn rheithor Prifysgol Nantes. Bu Laennec yn ddyledus am bopeth i'w ewythr, gan nad oedd ei dad yn gyfreithiwr llwyddiannus. Bu Nantes yn un o ganol-fannau'r Chwyldro Ffrengig a chyn cyrraedd 15 oed, gwelodd Laennec o leiaf 50 o bennau'n disgyn i fasged y guillotine, a safai o flaen ty ei ewythr. Dioddefai'i wlad yn ofnadwy adeg y Chwyldro, nid yn gymaint oherwydd yr ymladd ag oherwydd y dwymyn bodr. Cychwynnodd Théophile Laennec ar ei yrfa feddygol yr adeg hon yn yr Hôtel Dieu de Nantes, ysbyty mawr a 400 o welâu. Mynd i Baris. Yr oedd gan ei ewythr Guillaume ofal cant o'r gwelâu, a neilltuwyd at drin twym- ynau. 14 oed oedd y bachgen yn dechrau ar waith ei fywyd. Wedi bod yn efrydu yn Nantes hyd yn 1892, aeth i Baris, i'r Charité, yn 21 oed i efrydu yn Clinic Convisart. Yr oedd Napoleon erbyn hyn yn deyrn yn Ffrainc a'r amseroedd yn derfysglyd iawn, ond trwy drugaredd ni orfu i Laennec ymuno â'r fyddin. Yr oedd Laennec yn hyddysg iawn. Gwyddai'r Llydaweg, y Ffrangeg a'r Lladin yn dda, ac yr oedd ganddo wybodaeth eithaf o'r Saesneg, yr Almaeneg, yr Eidaleg a'r Groeg. Enillodd glod ar unwaith ym Mharis am draethawd gwreiddiol ar ddolur arbennig y bu ef y cyntaf erioed i'w wahaniaethu. Gwnaeth waith gwreiddiol pwysig hefyd ar gymal yr ysgwydd a'r afu. Ennill gwobrau. Yr oedd yn llwm iawn arno ym Mharis yr adeg hon, gan nad oedd ei dad yn gwneuthur ei ran i'w gynorthwyo. Ond enillodd brif wobrau'r llywodraeth, gwerth Fr. 600, i'r efrydydd gorau mewn meddyg- iaeth a Uaw-feddygiaeth. Gorfu iddo fen- thyca arian i brynu dillad cyfaddas erbyn RENE THEOPHILE HYACINTHE LAENNEC. Gan Iorwerth JONES Dynfant, Abertawe y dydd mawr pan dderbyniai'r gwobrau o flaen goreuon Ffrainc. Yn fuan wedi hyn fe ddechreuodd ar ei waith fel meddyg, ond yn ei flwyddyn gyntaf nid enillodd ond Fr. 150. Parhâi i wneud gwaith gwreiddiol a chyhoeddodd waith newydd iawn ar afiechyd y ffunen a'r Melanomata. Cadwodd hefyd ei ddiddor- deb yn ei heniaith, a defnyddiai bob cyfle i'w siarad gyda'r Llydawyr ymysg milwyr clwyfedig yr ysbytai. Gwelodd fod perth- ynas rhwng y Llydaweg a Sanscrit, a bu'n ddyfal yn ymchwilio i'r berthynas. Dyn bach, tenau. Yr oedd yn athro adnabyddus yn 25 oed, yn olygydd y Journal de Médecine, yn ffisigwr heb ei ail wedi gwneud gwaith mawr ac yn argoelio am bethau mwy. Rhoddodd ei ddarlith fyd-enwog ar y Pla Gwyn ym mis Mawrth, 1804. Bu cwymp cyntaf Napoleon yn 1814 ac yr oedd Paris yn orlawn o glwyfedigion a'r dioddefaint oddi wrth y dwymyn yn ofnadwy. Agorodd Laennec ysbyty yn ar- bennig i Lydawyr, Ue trinid y claf yn eu hiaith eu hunain, gan feddygon a mamaethod o Lydaw. Derbyniodd ddiolch a chlod gan Esgob Quimper am hyn. Yr oedd yn awr yn feddyg llwyddiannus, yn ennill Fr. 8000 y flwyddyn ond dioddefai lawer o afiechyd. Dyn bach pum troedfedd a thair modfedd ydoedd, yn denau dost, ei lygaid yn ddwfn yn ei ben, ac yn ferthyr i ddiffyg anadl. Darganfod y corn meddyg. Cyn amser Laennec, ychydig a wyddai pobl am ddoluriau'r fron, ac yr oedd yn arfer, pan ddymunid gwrando ar seiniau'r galon neu'r anadliad, i osod y glust yn union ar y croen. Clywid peth swn, ond dim tebyg i be glywn ni'r dyddiau hyn â'r corn meddyg. Nid oedd Laennec yn fodlon o gwbl ar hyn, yn bennaf oherwydd brynti'r cleifion, ac yn sydyn un diwrnod rholiodd lyfr clawr papur a gosododd un ochr wrth ei glust a'r ochr arall ar y croen, ac i'w syndod mawr, clywodd seiniau newydd. Creodd hyn ddirmyg mawr ymhlith meddygon Paris, ond aeth Laennec ymlaen â'r gwaith o geisio perffeithio'i ddarganfyddiad, ac wedi arbrofi gwahanol goed megis eboni a chansen, gwelodd mai pren ffawydden oedd orau. Y mae un o stethosgopiau cyntaf Laennec i'w gweld yn awr yn Ysbyty Aberhonddu, yn rhodd gan gyfaill iddo, Dr. Prestwood Lucas, yn 1871. Dysgu'r Gymraeg. Yr oedd y maes yn awr yn agored i fanylu ar ddoluriau'r fron, yn arbennig y Pla Gwyn, a chyhoeddodd yn 1819 ei brif waith. Methodd iechyd Laennec yn llwyr wedi hyn ac aeth yn ôl i stad ei dadcu yn Kerlouarnec yn Llydaw, a bu yno am ddwy flynedd. Cymerodd ail afael yn ei astudiaeth o'r ieithoedd Celtaidd: dysgodd lawer o Gymraeg, Gaeleg, a Chernyweg er mwyn deall yn well y berthynas rhyngddynt a'r Llydaweg. Yr oedd ef a'r Abad Guezengar yn gyd-efrydwyr yn y pynciau hyn. Ar fordaith Yr Urdd. Aeth yn ôl i Baris tua diwedd 1821, ac apwyntiwyd ef yn athro a darlithydd Brenhinol mewn Meddygiaeth yn y Collège de France a'r Faculté de Médecine. Gwnaeth- pwyd ef yn Farchog Ffrainc yn 1824. Yn ddiamau, enw Laennec yw'r mwyaf yn hanes astudiaeth y Pla Gwyn nes i Koch yr Almaenwr gael hyd i'r bacillus,yn 1882. Pan â'r Urdd i Quimper, bydd yn ddi- ddorol edrych am 2, rue du Quai lle'i ganed, a hefyd i weld y ddelw garreg enwog ohono o waith Le Quesne gerllaw'r Brifeglwys, a osodwyd i fyny gan feddygon Ffrainc. Adeg canmlwydd ei farw yn Awst, 1926, bu cyfarfodydd ym Mharis i ddathlu ei fywyd a daeth meddygon o bellderoedd y byd i ddiolch amdano, ac i ddweud fel y dywedodd Syr Isaac Newton gynt I darganfyddwr y bo'r gogoniant dis- gyblion yn unig ydym ni.