Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER Ochor Draw'r "Míiii" WHERE is Tom ,l nes this afternoon ? meddaf r Sgŵl. a deyrnasai'r ysgol â chadernid mwstas. cansen ac un llygad. wrth farcio'r rhestr. ac edrych yn fanwl i gyfeiriad ein dosbarth ni. Edrychasom ninnau ar ein gUydd, — Dai'r Siop, Moc yr Allt, Wil Tynberth a minnau. Brawychodd ein hwynebau fel pe byddai rhywbeth mawr ar ddigwydd inni. Nid oedd Twm yn rhyw ysgolhaig addawol iawn. Ond am waith llaw, nid oedd neb ohonom a'i curai. Yn ddoniol iawn, pryd bynnag y byddai'n panso," fel y dywedem ni, neu'n trafferthu ar ei orau i sgrifennu neu dynnu llun, byddai blaen ei dafod allan ac yn dilyn yn gyson symudiad ei law, a dyfnhai'r gwrid pinc ar y rhan honno o'i wyneb a olchai yn feunyddiol. Mentrodd Dai'r Siop yn betrusgar ar Don't know, sir." Don't know, eh ? ebe'r athro gan gydio yn y wialen oddi ar ei ddesc a dyfod atom. He is mitching, sir," ebe Rachel y Bont, cyn iddo gyrraedd i'n hymyl. Hen glap- gast oedd Rachel erioed, a d'oedd gyda neb ohonom ni'r bechgyn olwg arni. 'Fodd bynnag, yr oedd y gath o'r cwd yn awr, a 'wiw inni geisio'i chadw hi'n ôl gerfydd ei chynffon. Mitching, eh ebe'r meistr yn ffrom. Gwelsom fod trwbwl gerllaw i Twm, ac i rai ohonom ninnau, efallai. GALWYD ni'n pedwar, ffrindiau Twm, i maes i ganol y llawr. Yna aed â ni allan o dan drem y gansen i'r porth Ue cedwid y bagiau a'r capiau, a'n holi. Llwyddodd yn fuan i wasgu ohonom yn dra llwyr yr ychydig a wyddem am helynt Twm. Wedi'r cyfan, 'does dim yn nes at ddyn na'i groen ei hun a'n barn reddfol ni oedd, heb ymgynghori â'n gilydd, fod croen pedwar yn siwr o fod yn fwy o werth na chroen un. Heb fanylu, dywedwyd bod Twm ar y mynydd,­y mynydd hwnnw sydd, ryw filltir y tu uchaf i'r pentre, yn gwahanu dyfroedd Tywi a Theifi oddi wrth ei gilydd. Heblaw rhannu'r dyfroedd ar hyd ei drum hir o Bumlumon i'r Frenni Fawr, rhennir hefyd gan y mynydd, yn y cydiad hwn, rhwng tafodiaith Dyfed a thafodiaith Deheu- barth. "Gwyr Ochor Draw'r Mynydd" vw'r naill, a Gwir Ochor Draw'r Mini yw'r 11 ill. BUASAI Twm ar y mynydd amryw bryn- hawniau'n ddiweddar, gan ddwyn yr esgus i'w feistr mai helpu'r hen wraig ei fam i dynnu tato yn ffarm Clunhir yr oedd. Ond yr hyn a dynnai Dwm i'r mynydd oedd poni Wil ei frawd. Yr oedd Wil yn was mewn Ue'r ochor draw'r mynydd," ac â'i gyflog y flwyddyn cynt, prynasai ferlen flwydd, oedd erbyn hyn yn codi'n ddwy. Poni Wil 'y mrawd," a'r orchest o'i thorri hi miwn Glan Gaea," fuasai prif destun siarad ein dosbarth ni ers dyddiau bob tro y ceid cefn yr athro. Wel, boys," meddai'r hen Forgans, wedi inni. rhwng gobaith a gochel ddatguddio'r hanes iddo'n weddol gyflawn, 'rych chwi'n bedwar o gryts cryfion, ac os na ddewch chi â Tom Jones yn ôl yn saff i fi, 'ro i ddim dimai goch amdanoch chi'ch pedwar gyda'i gilydd. Fe fydda i 'n y'ch disgwyl chwi'n ôl yma ymhen awr o amser," ac edrychodd ar ei wats. Ymaith yr aethom, i maes drwy'r gât ar ôl Twm, fel cŵn Huws y Neuadd am gwrs cynta'r gaea. A dweud y gwir, 'doedd ar yr un ohonom ormod o awydd y gwaith. Ond gwyddem yn dda y canlyniadau o beidio. TREFNWYD y maes wrth ddirwyn i fyny'n gyflym, ar hyd y ffordd gul a arweiniai i'r mynydd, gan adael cryn raff i ystryw'r gelyn. 'Doedd yr un ohonom ag ofn Twm arno, yr oedd mwy o'r llwynog nag o'r llew yn Tomos erioed. Ond gwnai hynny ef yn fwy anodd i'w ddal, efallai. Penderfynwyd ceisio'i amgylchynnu'n llechwraidd o'r pedwar gwynt, a phan fyddem yn ddigon agos ato i wneud rhuthr, fod Dai'r Siop i roi gwaedd sydyn yn arwydd. Aeth popeth ymlaen yn hwylus. Gwel- wyd Twm heb iddo ef ein gweld ni, na drwg- dybio dim. Mewn tipyn o bantle yr oedd, a gwastatir brwynog y mynydd y tu hwnt iddo,­lle rhagorol i wneud cynllwyn am- dano, debygem ni. Gwelsom y poni hefyd. Poni gochddu, hir ei blew, a'i chynffon yn Uusgo'r llawr ffroen lwydwen, clustiau bychain crop a dau lygad byw odiaeth. Yr oedd braich dde Twm wedi'i thaflu dros ei gwarr ei fysedd ymhleth yn y rhawn du, hir, a doai ei phalfais flaen a'i law chwith yn tolach ei thrwyn. Clywem ei sŵn yn siarad rhywbeth mwyn â hi. YNG nghanol tawelwch y baradwys hon, J- wele'r waedd flin yn torri'r awyr a phedwar baglog byrgoes yn ei heglu hi nerth troed i gyfeiriad Twm a'i boni. Rhoddodd y poni sbonc i'r awyr â'i thraed blaen, a thro crwn ar ei charnau ôl. Ai o fwriad ai o ddamwain y daw dyn yn arwr ? Ni wn i ddim hyd eto ai bod bysedd Twm wedi ymddrysu yn y rhawn ai ei fod yn methu gweld dihangfa arall, fu'r achos, ond fe aeth o gwmpas gyda hi fel pêl a thynnwyd ef yn ddeheuig ddigon gan y wib- dro nes bod ei goesau, yn ddiarwybod iddo megis, yn daclus am ei chefn. Yr oedd Twm o'n golwg ni ymhen fawr o dro, oherwydd ni welais i'r fath fynd, naddo Gan D. J. WILLIAMS i, oddi ar y'm ganed, a Thwm heb ddewis ganddo bellach, yn glynu fel geloden ar ei chefn. Croesodd y ferlen yn ei chyfer heibio i Lyn yr Hwyaid, a siglen y mynydd yn crynu had at y fan Ue safem ni arno, a chwac, cwac yr hwyaid o'i chwmpas yn peri iddi ymestyn yn fwy byth i'r garlam. Cyn colli golwg arno dros drum pella'r mynydd, gwelsom dynnu sylw cŵn Ifan y Bugail, Bob a Ffansi a Mos, a 'fyddai waeth i Ifan druan chwibanu ar y gwynt yn ôl, â cheisio cael gwahardd ar y rhain. Bob tro y meddyliaf am yr hen bennill cyfarwydd hwnnw Draw, draw i'r mynyddoedd a'r anial maith. rhed Twm a'r poni'r prynhawn hwnnw'n fyw drwy fy nghof, waeth dyna'r olwg olaf a gefais i ar Twm hyd y dydd hwn. LLIPA a digon anghysurus ein meddwl, fel y gellsid disgwyl, oeddym ni'n pedwar yn dychwelyd y prynhawn hwnnw. Drannoeth tua deg o'r gloch, a'r ardal mewn cryn gyffro ynghylch diflaniad sydyn Twm, dyma gerbyd hardd, ag ynddo geffyl porthiannus, yn sefyll ar yr heol y tu allan i ysgol y Gors. Disgynnodd ffermwr trwsiadus ohono mewn legins carsimêr, cot fawr drom, a mwffler. Gadawodd yr awenau yn llaw'r crwtyn oedd yn y cerbyd. Aeth at borth yr ysgol yr ochr bellaf o'r ffordd fawr, fel petai'n gyfarwydd â'r lle, a churo. Daeth Mr. Morgans i'r drws. Helo, Mr. Jones, chi sy 'na ? "Ie'n siwr, Mr. Morgans." Yr oedd Mr. Jones yn un o oruchwylwyr yr ysgol, er ei fod yn byw'r ochr draw i'r mynydd. Un rhyfedd yw'r mynydd, fel y môr, am glymu a dieithrio pobl. YMAE'N debyg i chwi golli un o'ch disgyblion ddoe mewn ffordd dipyn yn hynod," ebe Mr. Jones. Wel, do, Tom Jones ych chwi'n feddwl, 'goelia i," ebe Mr. Morgans, heb fedru llwyr gelu gradd o bryder yn ei lais, a llaesu rhywfaint ar ei wedd awdurdodol. Fel pob ysgolfeistr, ni hoffai'r syniad bod un o'i blant ef yn mitsio." Ie, Tom Jones, mab yr hen Domos y Bigws druan, wy'n feddwl," meddai'r ffermwr. Fe ddaeth yco neithiwr mewn dull rhyfedd iawn. 'Rown i a'r crwt y gwas yco wrthi gyda brig y nos 'ma, yn crynhoi'r defed i'r lloc rhag ofn bod un ohonyn' hw'n pryfedu-y mae hi'n hen dywydd bach eitha mwygil-fe welsom boni mynydd heb dorri'i chynffon ariod, a wedi rhedeg 'i hunan i mas bron, a rhywbeth ar 'i chefen h' debygsem ni­'roedd hi'n llwyd dywyll bach-yn 'i gneud hi'n syth amdanom ni. A chyn y'n bod ni wedi troi, fe redodd miwn powns i ben y defed yng nghanol y (7 dudalen 216.)