Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ArFynwes Brydferth Dyffryn Clwyd Eglwys Gwaunysgor, Sir Fflint. C^ kjli x ur a araaercnog o air a mor a "f threfi prydferth ar ei lan, megis Prestatyn. Rhyl ac Abergele Pen- rhyn Trwyn-y-fuwch draw. a rhan o Ynys Fôn yr Wyddfa'n ymddyrchafu yng nghanol y mynyddoedd ac afon Glwyd, fel cadwyn arian ar hyd mynwes brydferth a thoreithiog y dyfIryn-d.yna'r olygfa a geir o ben y bryn y tu allan i Waunysgor, Sir Fflint. Canfyddir oddi yma heb symud o'r unfan, glochdai chwech o eglwysi; wedi troi gwelir milltiroedd o wlad a Moel Famau ar y gorwel pell. Llwyd ei wedd. Gwnaed llawer cais o dro i dro i egluro ystyr enw'r pentref, ond er yr holl syniadau yn ei gylch, anodd penderfynu pa un sy gywir. Gwaith anodd yw ei ddisgrifio'n gywir. Llwyd ei wedd yw o'r braidd, a hynny oherwydd prinder coed, ac am fod muriau cerrig yn derfynau, a mwyafrif y tai yn noethion, wedi eu hadeiladu â cherrig calch o'r chwarel yn y plwy. Nid oes iddo gynllun na threfn pensaer y tai wedi eu gosod driphlith draphlith, a'u hadeiladu i gyfarfod â gofynion y bobl gyffredin erys lliaws o'r cytiau moch (oedd mor hanfodol ym mywyd yr oes o'r blaen) yn gydiol wrth y tai. Y mae yn aros hefyd ychydig o'r bythynnod un ystafell hynny fu gynt yn barlwr, cegin ac ystafell- wely i deuluoedd ond ni ddefnyddir hwynt i hynny heddiw. Gwagle'r Marian. Ar ganol y pentref y mae gwagle eang a elwir y Marian." Rhed saith o heolydd bron yn union o'r Marian i wahanol gyfeir- iadau, ac fe ddichon bod hynny'n cyfrif am yr olwg annhrefnus ar y tai. Saif y Marian ar y graig noeth; dyma fan cyfarfod plant ar hyd yr oesau i chwarae. Pêl droed a chwaraeir amlaf yn y Marian heddiw, ac er ehanged yw i blant chwarae, buan iawn yr â'r bêl dros y terfynau, ac ni ellir gwarantu bob amser y teflir hi'n ôl. Yn yr hwyr, weithiau, a'r plant yng nghanol eu direidi, ymddengys y plisman Ym Mhentre'r Golygfeydd Mirain a'r Gweddillion o Amser Fu*. Gan George Parry yn sydyn. Dyna'r Marian yn wag mewn eiliad; tri neu bedwar bob ffordd, ond ffordd y plisman. Am ychydig funudau teyrnasa tawelwch y bedd, pawb wedi cyrraedd ei loches ac yn glust 1 gyd Toc, dyna ffon a sodlau'r plisman yn torri'r distawrwydd ar y palmant. Gwrandewir yn astud ar ei sŵn yn marw yn y pellter, llithrant o'u Uochesau o un i un, yna rhoddir bloedd, ac un arall drachefn i brofi eu diogelwch, a dyna gychwyn eto yn yr un gwres â phan ymddangosodd y plisman, ac anghofio'n llwyr am y botwm gloyw. Gyda'r hwyr yn yr haf, defnyddir y Marian fel lle manteisiol i ganu. Caed hefyd fatel arni gan rai y datblygodd eu cyhyrau'n gryfach na'u gallu i ymresymu. Y mae yn y plwyf wyth neu naw o fferm- ydd, ac â chymryd ansawdd y tir i ystyr- iaeth, y maent yn ffermydd cynhyrchiol iawn. Tua phedair blynedd yn ôl, adeiladodd y Cyngor Sir 16 o dai yma. Ag eithrio rhyw ddau neu dri, dyma'r tai mwyaf diweddar. Cario dwr. Nid oes yma unrhyw adeilad neilltuol fel man difyrrwch. Cais y trigolion eu difyrrwch bawb yn ei ffordd ei hun. Y mae'r radio gan rai yn eu cartrefi, a phan deimlant awydd am weld y darluniau byw a phethau felly, ânt i Brestatyn neu'r Rhyl. Fel mewn llawer o bentrefi eraill, rhaid cario dŵr glân o'r ffynnon. Y mae pedair neu bump o ffynhonnau yn y plwyf gosod- wyd sugnedydd ar y ffynnon fwyaf flynydd- oedd yn ôl, a hi a ddefnyddir gan bawb. Nid oes undyn byw yn ei chofio'n hesb. Y mae yng Ngwaunysgor ddau le addoliad a dwy dafarn. Yr achos Wesleyaidd yw'r ieuengaf yn y plwyf; cychwynnodd tua chan mlynedd yn ôl. Y mae i'r eglwys hon hanes rhagorol, a chyfnodau llewyrchus iawn. Yr Eglwys a'r Capel. Ar yr un sylfaen â'r eglwys bresennol, myn rhai fod yma eglwys gyntefig o goed pleth- edig yn yr wythfed neu'r nawfed ganrif. Ceir arwyddion tebyg mewn ffermdy oyfagos. Felly, dechreua Eglwys Gwaunysgor dros 11 o flynyddoedd yn ôl ceir cyfeiriad ati yn y Doomsday Book." Y mae cryn ddi- ddordeb hefyd ynglyn â'r fedyddfajn sy'n perthyn i'r cyfnod Normanaidd, a cheir olion gwaith cyn-Normanaidd mewn hen ddrws yn y mu1 gogleddol. Coflyfr yr eglwys hon yw'r hynaf yn Esgobaeth Llanelwy nodir ynddo y ddeddf a basiwyd yn ystod teyrnasiad Harri VIII yn 1538, fod cofnodion i'w cadw ym mhob eglwys o fedyddiadau, priodasau a marwol- aethau, a hefyd apêl yr Archesgob Laud i roi enwau rhieni'r plant wrth eu bedyddio. Bu ambell beriglor adnabyddus yn Eglwys Gwaunysgor. Bu John Wilson yn y plwyf hwn o 1709 i 1711. Efô oedd tad Richard Wilson, a restrid fel arlunydd tiroedd gorau'i oes. O'r eglwys hon hefyd yr aeth y Parchedig Robert Davies yn beriglor cyntaf yn Eglwys Dewi Sant, Lerpwl, yn 1827. Diddorol yw'r traddodiadau ynglyn â Chlip-y-gop, mynydd tuag 800 troedfedd uwch arwynebedd y môr y mae ei hanner bron wedi'i orchuddio â choed, ac iddo ffurf ryfedd. Cyfyd twr mawr o gerrig ar ei ganol, a myn rhai fod y Frenhines Buddug wedi ei chladdu yno. Cwitia'r Hen Sgubor. Pa un bynnag am hynny, dywaid dynion cyfarwydd ei bod yn bosibl iddo gael ei gario yno o rywle, er cof am rywun, ac iddo gymryd blynyddoedd lawer i'w gludo. Y mae golygfeydd ysblennydd i'w gweld o gorun hwn hefyd. Yng ngodre'r Gop, y mae pantle a elwir Pant Siôn Wyn," ac mewn maes o'r enw Cwitia'r hen 'sgubor ceir ogof â llawer o gyrchu ati ers blynyddoedd bellach. Cafwyd hyd iddi tua hanner canrif yn ôl ar ddamwain. Wrth gloddio am blwm, daeth dyn ar draws gwythien o sbâr, a chan ei dilyn, cloddiodd tua chwe throedfedd. Yn sydyn, syrthiodd y gwaelod dano, a dat- guddiwyd ceudod eang. Ceir tystiolaeth iddo ddyfod o hyd i nifer o esgyrn anifeiliaid a'u dodi o'r neilltu, ond yn anffortunus, aethant ar ddifancoll. Chwilota'r cerrig. Wedi iddo fethu yn ei gais am blwm, agor- odd fynedfa iddo mewn cyfeiriad arall, er mwyn ei ddangos. Dro'n ôl, fe wnaeth Field Club Dyserth a'r cylch ymchwiliad manwl ynddo. Ymddiriedwyd y gwaith yn nwylo Dr. J. Wilfrid Jac'ison, o Amgueddfa Prifysgol Manchester, a'i gred bersonol ef oedd, bod ogofâu gogledd Cymru yn foddion datrys anhawsterau o berthynas i'r dyn Paleolithaidd ac oes y rhew. Cafwyd hyd i weddillion anifeiliaid megis y rhinosorus gwlanog, carw Llychlyn, yr ych gwyllt, math o garw mawr, a dant hyena, a chafwyd asgwrn sawdl dyn. Mewn cae yn perthyn i ffermdy o'r enw Teilia y mae chwarel fach sy'n diddori llawer oherwydd yr argraffiadau ar y cerrig. Ychydig flynyddDedd yn ôl yr oedd gwyr cyfarwydd â daeareg yn cynrychioli 13 0 wahanol genhedloedd, yn eu chwilota. Y mae lliwiau arnynt yn ogystal a'r argraff. Er mor wylaidd a dirodres ydyw ardal Gwaunysgor, nid peth hawdd fyddai hepgor pentref bach fel hwn.