Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFORDD Cymreigiaà gan Hymyr Y MAE ffordd nas gwelodd fwltur, Na'r llewod ar eu hynt Ag yno'r af dyna'r llwybr i mi 'D oes neb a'i gwêl, nac a'i sang Ond cymdeithasfa'r saint: Yr oen a'i sang, ond, nebun arall. Dyma ffordd Mair i'r Aifft bell, A'i Mab mwyn rhag llid yr Herod Hon yw'r ffordd a wybu'r Iesu Pan geisiasant ei labyddio Hon fu'i ffordd o'i gyfyng fedd Nis gwêl ond a'i sango, A hynny pan fo'n unig- Efô'i hunan-a siffrwd angylion. Chwilia am hon mae yn d'ymyl, Chwilia'n ddwys a thi a'i cei Rhwyga'r drain a dyfodd dros ei chuddfan Na hitia'r cnawd a'i drachwant nid ei ffordd ef yw hon. Fe arwain hon dy-di i le annisgwyl, I ddirgel le, ymlaen i lys y farn Lle bydd distawrwydd mawr yno y mae. Nac ofna'r ust a ddaw yn llys y farn, Nac ofna chwaith pan gilio'r nerth o'th gôl- Ni chilia dim ond ofn a chwant a chas, A phwy ond ffôl a'u coledd hwynt Saf di o flaen dy Dad yn llys y farn, Ei bresenoldeb Ef a leinw y Uys A phwy a gais gael arall oddi mewn. Bryd hyn fe egyr y Ffordd Wen o'th flaen, Y ffordd nas gwelodd fwltur craff o'r nen, Na'r llewod gwancus ar foreol hynt. LLYGAD Y DYDD Gan Daviâ A. Wíiliams YGWANWYN daw i'r gweunydd—yn siriol Fel rhyw seren newydd Delaf o flodau'r dolydd Ydyw hardd lygad y dydd. NEGES Y Gwanwyn Gan T. Bowen EIS allan un hwyrddydd I rodio drwy'r meysydd, Dan gysgod y coedydd, Fy hunan Wrth glywed afonig. Ei murmur a'i miwsig, Mi deimlais nad unig Fy hunan. Diferion y gawod, Oedd bron wedi darfod, A ddygai felystod Cân fwyn y fwyalchen Uwchben ar y gangen, A'm gwnai innau'n llawen Yr wynos yn prancio Yn ddifyr cyn huno A wnai i'm fyfyrio Yn f'ymyl, melynrudd Friallu roes arwydd Bod Duw yn Breswylydd TRA fwyf yn oedi tan y coed Sy'n dweud yn drist am wynfyd fu, Mae sisial mwyn,o'th annwyl lais Yn dod i glyw fy nghalon gu Yn dod i ddenu f'enaid prudd, I'th ŵydd mewn teg gyfriniol fyd, I yfed yno'r hudol win All ddofi poen pob hiraeth mud. Nid oes ond sŵn, ond swn y dail, Nid oes gyfriniol fyd mi wn Er hynny cred fy nghalon ffôl Dy fod yn swyn y tlysni hwn. YR AMSER GYNT Gan W. J. Richards DIM ond bwthyn bach hen ffasiwn Yn y dyffryn hardda 'rioed, Heb gelfyddyd saer na masiwn I addurno'i fain a'i goed. Dim ond aelwyd gynnes gryno, Brwydro'n galed ydoedd byw: Ond 'roedd priffordd oddi yno Trwy bob storm at orsedd Duw. Dim ond haf a'i lu hawddgaraf Megis breuddwyd tros y wlad, Pan ddaeth elor-gerbyd araf At y drws i gyrchu 'nhad. Dim ond gadael y presennol A throi'n alltud ar fy hynt Tros aur lwybrau y gorffennol I'r anfarwol amser gynt. CANLLAW seml uwch cenlli sionc—pand difyr Pont afiaith cariadon Cu ? I'r dibyn, cwr dwybonc, Y dianc dŵr, a'i dine, done. I'm calon A bodlon. Fy hunan Y cyfan. FFYDD Gan Lîewelyn Jones Y BOMPREN Gan Isanäer Y GRAGEN Gan R. Pryce Jones YM min yr hwyr, ar draeth y môr Y rhodiai Gwen a minnau Gan lawenhau, yng nghadwyn serch, Yn sẅn y gwynt a'r tonnau Ac wrth ein traed yn loyw, glân Y taflaî'r môr y cregin mân. A'i thyner law, cyfodai 'Ngwen Y gragen dlysa'i lliwiau I wrando ar ei chyfrin pell A Uesmair dwfn ei nodau A chragen oedd o'r Ynys Wen, A'r awel chwarddai am ein pen. Y gwanwyn ddaeth a'i flodau mân I wenu ar y dolydd Ond trist yw 'mron a llaith yw 'ngrudd O'r bore hyd yr hwvrddvdd Ar gwymp y dail, rhwng yw a banad', Torrwyd bedd lle cwsg fy nghariad. Ym min yr hwyr, ar draeth y môr Y rhodiaf wrthyf f'hunan, Gan siffrwd hen alawon serch, Yn sŵn y gwynt a'i gwynfan O'm cragen fach a'i chyfrin pell Daw Uais fy mun o'r traethau gwell. PONT MENAI Pan fygythid ei cbwalu. Gan Wil Ifan o Fon PEN pont pynt, tremynt tramawr-rhwng deulan Dwy wlad Anian, yn delaid unawr Hongiai, lanw a thrai, lun uthr wawr eithr ffaeliai Ei mynor waliau mhen yr eilawr Mal cwmwl nifwl yn nen,­gwyn grogai A gwych y byddai acw, uwchben A mal rhith wamal, wen—у diflannodd Wyrth fferf hoywfodd o iwrth ffurfafen. YR HEN EGLWYS Gan Glyn Myjyr LLE canai'r Prelad ag arianllais clir Y saif, lwyd furddyn fel drychiolaeth hen Yng nghwsg mae'i hanes ym memrynau llên, Mae'n aros yn berarogl yn y tir Hi wybu wychder euraid yn ei dydd, Gwrandawodd osber ar wefusau'r saint Fu rhwng ei muriau'n diolch am y fraint 0 rodio ynddi'n garcharorion rhydd; Caiff gwennol dan ei bondo le i'w nyth, Ac etifeddiaeth deg o'i chymrwd oer, Ac arni'n drist y sylla gwelw loer Heb obaith gweld ei hen ogoniant byth: Ond gall ymffrostio er yn adfail gwyw, I lawer sant o'i mewn adnabod Duw. (Ymddangosodd y gân hon dan y pennawd anghywir Murddyn yn rhifyn y mis diwethaf. Drwg gennym am yr amryfusedd.—GOL.)