Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Breuddwyd R. J. DERFEL am Pedwar Coleg Prifysgol Cymru Abertawe (a sefydlwyd yn 1920) Caerdydd (1883) Aberyrtwyth (1872) a Bangor (1885). £ 2**M ::= I.t Cyhoeddwyd yr ysgrif hon mewn casgliad o ysgrifau gan R. J. Derfel, fis Chwefror, 1864. Fe sefydlwyd y coleg cenedlaethol cyntaf, yn Aber- ystwyth, wyth mlynedd wedi hynny. MAE llawer o siarad ac ysgrifennu wedi bod ar yr angen am gael prif athrofa i Gymru. a'r rheswm cyffredin yw. bod gan y Saeson, yr Alban- wyr. a'r Gwyddelod rai, a'r Cymry heb yr un. Mae'r ystyriaeth hon yn deilwng o sylw, yn ddiau, oblegid dylai hunan-barch a chariad at ein gwlad ein symbylu i beidio â bod mewn dim sy dda ar ôl ein cymdogion. Y mae rheswm llawer cryfach yn ein hymyl, sef ein bod yn genedl wahanol, ac yn siarad iaith wahanol. Gan ein bod yn dal yn Gymry, ac yn penderfynu cynnal ein hiaith yn fyw, ac nad oes noddfa iddi yn yr un o'r sefydliadau presennol, y mae angen, ac angen mawr, am brif athrofa yn ein gwlad. Y Gymraeg yn brif iaith. Ond os oes eisiau prif athrofa yng Nghymru, prif athrofa Gymreig sydd eisiau- sefydliad addysgiadol, Ue bo'r iaith Gymraeg yn brif iaith-a Ue i ddysgu pob iaith a gwybodaeth a ddysgir mewn athrofeydd eraill; ond lle, yn bennaf, i ddysgu Cymraeg a'i hanrhydeddu. Mae llawer iawn o bethau yn eisiau yng Nghymru, ond nid oes dim â mwy o'i eisiau na hwn. Y mae digon o gyfleusterau ym mhobman i ddysgu popeth ond y Gymraeg a'r pethau a berthyn iddi. Y mae eisiau cael ysgrifau a llyfrau Cymru at ei gilydd-mae eisiau casglu adnoddau Cymru i bwynt-ac y mae eisiau rhyw gymdeithas o athrylith i gyfeirio'i thraed ar lwybrau dyrchafiad. Mewn gair, prif athrofa Gymreig nid yn unig i fod yn fagwrfa i blant athrylith, ond hefyd i fod yn gyn- rychiolydd dros Gymru yn Eisteddfod fawr dysgeidiaeth y byd. Ond pa fodd y ceir hi ? Dyna yw'r pwnc yn ymarferol wedi'r siarad a'r ysgrifennu i gyd. Peth hawdd yw dweud bod ei heisiau. ond dweud sut i'w chael sy'n anodd. Nid wrth siarad ac ysgrifennu yn unig y ceir prif athrofa i Gymru nid trwy ofidio am ein bod hebddi y ceir hi; nid trwy feio a cheryddu ein gilydd y ceir hi; ac nid trwy ddisgwyl yn gysglyd a di-waith amdani y ceir hi. Y mae calon y genedl yn dyheu am gael prif athrofa, a honno'n un Gymraeg iawn ac y mae ei hawydd amdani'n cael ei ddangos ganddi mewn llawer dull-ond awydd di-waith ydyw. Awydd y diogyn am fod yn gyfoethog ydyw. Eisiau Arweinydd. Cyn byth y ceir prif athrofa i Gymru, y mae'n rhaid i ryw ŵr cymwys ymgymryd â'r gwaith o'i sefydlu. Byddai raid iddo gael ewyllys da a chydweithrediad prif wjt ein cenedl; ac o dan eu nodded, byddai raid iddo ymweld â Chymru i gyd, i gasglu rhoddion at ei gwaddoli. Fel hyn y cafwyd y coleg Normalaidd ym Mangor coleg y Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala; a'r holl athrofeydd sydd yn ein gwlad. Y mae cyflawnder o'r cyfryw ddynion yng Nghymru. Y mae gan bob enwad wvr a fyddai'n sicr 0 lwyddo yn eu hymdrech, ond iddynt gysegru eu hoes at hynny. Byddai'r athrofa wedi ei chael yn goron anniflan o enwogrwydd i'w sylfaenydd ac nid oes neb yn hollol ddideimlad i glod. Pwy fydd yn arweinydd ac yn noddwr i'r symudiad ? Cydweithio. Yn ail, cyn y ceir prif athrofa i Gymru, rhaid cael gwvr mawr pob enwad i gyd- weithio er ei sefydlu. Nid prif athrofa i'r Eglwyswyr, i'r Trefnyddion, i'r Annibynwyr, Brif 3 Athrofa nac i'r Bedyddwyr sydd eisiau, ond un i bawb fel Cymry. A thybed nad oes digon o wlatgarwch yn ein mysg i gyfarfod ar le canol fel hyn, gyda bwriad i lesáu ein gwlad a'n cenedl ? Onid oes, oferedd fydd i ni ddisgwyl gweled sefydliad mam-ysgol Gymreig yn ein hoes ni. Ond rhaid i hyn, fel llawer o bethau eraill, ddibynnu ar ddoethineb y gwr fydd wedi ymgymryd â'r gwaith pwysig o'i sefydlu. Y wlad i gyfrannu. Ond yn drydydd, rhaid cael y wlad yn gyffredinol i gefnogi'r achos cyn y coronir ef â llwyddiant. Rhaid cael arian, ac arian lawer, a rhaid i'r wlad eu cyfrannu. Nid oes dadl nad yw'r Cymry'n ddigon cyfoethog i gael prif athrofa ond iddynt gael calon i gyfrannu. Y mae'n anodd gennyf feddwl y gwrthodent gyfrannu ond i'r achos gael ei osod gan wvr cymwys o'u blaen. Casgled wyr mawr ein cenedl o'i amgylch i'w gynorthwyo rhodder yr achos yn deg o flaen y wlad ac yna yr wyf yn dra sicr na fyddem yn hir heb feddu prif athrofa Gymreig. Llanw rhan o'r diffyg. Yn y cyfamser, tra fôm yn disgwyl am y fam-ysgol, oni allai ein hathrofeydd enwadol lanw rhan fawr o'r diffyg ? Ymddengys i mi y gallent, ac y dylent. Os i gymhwyso dynion i fod yn efengylwyr i'r Cymry y sefydlwyd hwynt, y mae rheswm yn dweud y dylai iaith, hanes a llên y Cymry gael lle mawr yn yr addysg a gyfrennir ynddynt. Y mae rhywbeth yn wrthun yn y meddwl bod efrydwyr ein colegau yn cael eu haddysgu fel pe byddent i gyd i fynd at y Saeson, ac nid at y Cymry-fel pe na bai'r Gymraeg yn cael ei siarad-fel pe bai'r Cymry heb hanes na llên o gwbl. Dysgu llen a hanes. Y mae gyda ni hanes anrhydeddus ar y cyfan, ond anrhydeddus neu beidio, dylai Cymru, yn enwedig gweinidogion Cymru, fod yn gwybod rhywbeth amdano. Y mae gyda ni lenyddiaeth hefyd werth ei darllen ac y mae'n resyn mawr gweld dynion yn dyfod allan o'n hathrofeydd mor ddiwybod am bethau eu gwlad eu hunain â phe buasent yn estroniaid iddi. Yn ddiddadl, fe ddylai'n hathrofeydd fod yn fwy teyrngar i'n hiaith a'n llenyddiaeth. Cymered ein hathrawon yr awgrym. Gwneler ymdrech i gael llyfrau Cymraeg at ei gilydd yn ein hathrofeydd. Dysger iaith y Cymry i'r efrydwyr bydd i hynny fagu gwlatgar- wch ynddynt; ac nid oes dim mwy effeithiol i symbylu dyn i geisio rhagori.