Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFBOL IV. RHIFll Y FORD GRON GWASG T DYWYSOGAETH, WRECSAM. TOeffon: Wreeeam 628. Lonion Afeney: Th»net Hooae, 831-8 Strand. NOFELAU BYDDAI'N wych o beth pe bai pwyllgorau eisteddfod yn y dyfodol jm defnyddio awgrym a wnaed gan y Parchedig Seymour Rees yn y babell lén yng Nghastell Nedd, ac a wneir gan y Parch. T. Eurig Davies yn Y FoRD GRON am y mis hwn. Dyma'r cynnig. Bod y pwyllgor yn gwario peth o gyllid yr eisteddfod i gy- hoeddi'r rhyddiaith fuddugol, yn union fel y gwneir â'r farddoniaeth. Byddai gwybod y cyhoeddid eu gwaith yn swmbwl i'r ymgeiswyr ymegnïo i'w perffeithio'u hunain yng nghrefft ysgrifennu. Ac fe fyddai'r cynhyrchion a argraffwyd yn hysbyseb wych i ddenu cystadleuwyr eraill ar gyfair y flwyddyn wedyn.. A pham na allwn ni gyhoeddi'r nofel fuddugol bob blwyddyn yn debyg fel y gwneir â chynhyrchion ornestau grand prix y Cyfandir.-a'i gwerthu ar faes yr eistedd- fod ? Gellid felly ennyn mwyfwy o'n serch at y gangen hon o lên a esgeulusir gymaint gennym-a pheri dechrau traddodiad nofelau eisteddfod a allai ddyfod yn ogyfuwch ei safon hyd yn oed â thraddodiad barddoniaeth y brifwyl. Da, Ddinbych NID yn aml y bydd Sir Ddinbych yn codi caer i amddiffyn ein diwylliant, ond pan wnelo hynny fe'i gwna o ddifrif. Yng nghwrdd diwethaf pwyllgor addysg y sir, fe fabwysiadwyd cynllun yr Athro J. E. Lloyd i rannu'r ysgolion yn ôl eu iaith a dysgu'r Gymraeg ynddynt yn ôl y rhaniad hwnnw. arn 0 hyn ymlaen bydd yn rhaid i athrawon a benodir i ysgolion babanod yn yr ardaloedd Cymraeg a dwyieithog fod wedi cymryd Cymraeg yn eu harholiad am fynediad i'r brifysgol a medru siarad yr iaith yn rhwydd. Am yr athrawon nad yw eu Cymraeg yn cyrraedd y safon hon, bydd rhaid iddynt hwy gyflawni gofynion y pwyllgor yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Cymhara hyn yn dda â'r amser fu. Aml yw'r athrawon a atebai eu bod yn medru dysgu'r Gymraeg ond wedi eu penodi a ddangosodd na fedrent bron air ohoni. Eithr a fydd i'r rheolau newydd gynnau brwdfrydedd ymhlith yr athrawon hyn sydd, er bod yn Gymry da, o hir arfer â'r drwg yn gwneuthur gwaith yr ysgol yn gwbl mewn iaith arall ? Yn ôl y cyfar- wyddwr, Mr. J. C. Davies, y mae pender- fyniad y pwyllgor yn gychwyn cyfnod newydd." Nwyddau Cymru "y MAE nwyddau Cymru," meddai Miss Mai Roberts, Deiniolen, Arfon, yn ysgol haf Plaid Genedlaethol Cymru y mis diwethaf, yn Llandysul, Ceredigion, y mae'n nwyddau yn bryd- ferthach, yn rhatach ac yn debycach o bara'n hwy na nwyddau cyffelyb o Loegr." Ac fe ddywedodd y llywydd, Mr. Saunders Lewis, fod gweithwyr Cymru mewn cyflwr gwarthus heddiw. Y mae'r FoRD GRON yn aml wedi crio cwilydd am y cam a wneir â'n cynhyrchwyr nwyddau. Yn lle'n denu ni i bwrcasu brethynau cain ein melinoedd gwlân ein hunain, gwthir pob math ar estron beth arnom gan y siopau yn Ue'r llechi gorau o'n chwareli i doi ein tai, rhoir defnydd anghymwys, drud, o froydd pell. A'r un fath gyda'n crefftau y maent yn nychu o eisiau trefn. Os daw i ben benderfyniad Llandysul, i agor canolfan lle galler cael manylion am nwyddau Cymru, y mae gobaith rhoi terfyn ar y diffyg. Antur Llangollen A DYMA'R newydd yn ein cyrraedd, ar fin mynd i'r wasg, fod y Chwaraedy Cenedlaethol am actio dramâu ar daith drwy Gymru. Dyma'r cwmni drama wrth broffes cyntaf, ar wahân i Gwmni Trefriw yn 1886, i fynd ar hyd a lled y wlad i chwarae yn y Gymraeg. Drwy Faldwyn a'r Rhondda a Chwm Tawe yr ânt o Fyrddin i Geredigion, o Feirion i Eifionydd, o Arfon i Faelor. Yr ym yn llawen bod y cwmni yn rhoi'r pwys cyntaf ar ddewis dramâu da, yna ar gynhyrchu, ac wedyn ar actio. Yr ym yn llawen bod rhaglen gyflawn ond syml, yn ogystal â'r tair drama goeth, yn eiddynt, gan ddarpar ar gyfair y cerddorol ei anian, ganu llais ac offer a gwisgoedd deniadol ar gyfair y celfyddus ei lygad. Eithr yr ym yn brudd o feddwl y buom yn oedi cyhyd cyn dechrau'r gwaith. Yr ym yn brudd oherwydd yr arian mawr a aeth o'n gwlad, ac sy'n para i fynd, yn gyfnewid am anghelfyddyd y ffilmau. Nid hwyrach na rydd antur Llangollen dro ar bethau. Ysbryd croeso NID oedd y neges radio a anfonodd Mr. Ifan ab Owen Edwards i gyd- nabod diolch i drefnwyr yr adran Lydewig o fordaith yr Urdd ac i'w cynorth- wywyr, yn fyr o gyfieithu i eiriau ddiolch Cymru am y croeso a gafodd ei 600 cyn- rychiolwyr ar eu hymweliad â'r Gymru dros y môr. I bob congl a chilfach o'r wibdaith, daethai dynion y wlad, yn eu gwisgoedd Lljrdewig prydferth, i'w siriol gyfarch darparesid gwleddoedd annisgwyl i'r llygad, i'r glust ac i'r galon ym mhob tref. Ceir enghraifft dda a chanmoladwy o'r ysbryd fu'n symbyliad i'r croeso yn yr araith olaf a draddodwyd ar y daith, sef eiddo Maer Telgruc (yn y Llydaweg, gyda llaw). Meddai Nid yw'n angof gan bobl Llydaw hanes gwych yr amser gynt. Yr un iaith a siaredir gennym: er bod ein tafodieithoedd wedi newid, y mae'n calonnau yn aros yr un oherwydd perthnasau agos ydym, ac nid anghofiwn hynny byth. Y mae fy ngwlad yn falch iawn o'ch derbyn heddiw ac fe'ch der- byn gyda'r un croeso pan alloch ddyfod eto." Nid anghofia Gymru Lydaw, na Thelgruc ychwaith. Codi Ffrwythau UN o'r pethau diddorol a ddengys ystadegau'r Bwrdd Amaeth, sydd newydd eu cyhoeddi, yw mai un sir Gymreig yn unig sy'n tyfu swm sylweddol o ffrwythau mân. Yn honno y mae 278 erw dan fafon. Yr un fath ag am y ffrwythau mân, felly am y ffirwythau mawr. Y mae'n ddiau bod y nifer o erwau dan goed ffrwythau, afalau, gellyg ac eirin yn mynd i lawr bob blwyddyn. Nid yn unig y mae perygl i lawer o hen wyddor coed fynd i ebargofiant drwy'r nychdod hwn, yr ym hefyd yn colli cyfle i dyfu rhan iachus ac anhepgor o'n bwyd.