Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron ARTHAN YN TARO At Olygydd Y FORD Gbon. Y MAE cynnwys amrywiol a diddorol eich rhifyn am Orffennaf yn fy symbylu i ysgrifennu'r sylwadau a ganlyn 1. Yn yr adolygiad ar Ganiadau'r Arch- dderwydd" ni chrybwyllir o gwbl am y bryddest Mair ei fam Ef," a achosodd gryn gyffro mewn mwy nag un gwersyll crefyddol pan ymddangosodd y tro cyntaf. 30 mlynedd yn ddiweddarach, derbynnir y gân yn ddigyffro ac yn ddisylwad! 2. Yn yr erthygl am Syr Henry Jones, enw'r foneddiges a gymerodd at" y bachgen oedd Mrs. Roxburgh-nid Ross- burgh, a'i merch hi oedd gwraig Dr. Hugh Walker (sydd eto yn athro yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr), brawd yng-nghyfraith Syr Henry Jones. 3. Y mae Gwibdeithiwr" yn amwys ynglyn ag Abaty Enlli. Tebyg mai Cadfan Sant oedd y sefydlydd. Y tebyg yw mai i'r drefn Sistersaidd y perthynai." Ni ddaeth y Sisterciaid i fod cyn y ddeuddegfed ganrif-600 mlynedd wedi cyfnod Cadfan. W. H. HARRIS (Arthan). Coleg Dewi Sant, Llanbedr, Ceredigion. Wedi mynd i golli ? At Olygydd Y FORD GRON. NI chawsom lawer o oleuni gan Mr. Dafydd Miles yn y FoRD GRON ddiweddaraf pa sut i gychwyn mudiad opera i Gymru. Enwa Mr. Dafydd Miles yr operâu sydd ar gael a dywaid mai ychydig o berfformio sydd hyd yn oed ar Blodwen Dr. Parry. Y mae Cwmni Porthmadog a'r Bala, y blynyddoedd diwethaf, wedi chwarae'r opera droeon ar hyd gogledd Cymru, ac y mae bwriad yn y Bala i gychwyn ar Arianwen yr anfarwol Dr. Parry. Cyfeiria Mr. Miles hefyd at Aelwyd Angharad Dr. Lloyd Williams a'r diweddar Llew Tegid. Gwn fod parodrwydd mawr yn y Bala at roi perfformiad o'r opera hon, ond p'le y mae hi ? Cyfrifir Aelwyd Angharad yn un o'r chwarae-gerddi gorau yn yr iaith. Y Bala. J. H. LLOYD. Darllaw Medd Eto At Olygydd Y FORD Gbon. YMHOLA Mr. William Evans, Pentraeth, Môn, yn Y FORD GRON, sut i ddarllaw medd. Os medr gael copi o Tit Bits, dydd- iedig Ionawr 1, 1925, fe wêl fod Syr Kenelm Digby yn ateb y cwestiwn, ac yn rhoi llawer iawn o newyddion ar y pwnc diddorol hwn. Dyma ddywaid Syr Kenelm yn yr iaith Seisnig He heartily recommended the following way of going to work. To every quart of honey, take four quarts of water. Put your water in a clean kettle over the fire, and with a stick take the just measure, how high the water cometh, making a notch where the Superficies toucheth the Stick. As soon as the water is warm, put to every gallon of water one pound of the best blew-raisins of the Sun, first clean picked from the Stalks and clean washed. Let them remain in the boiling liquor till they are thoroughly swollen and soft; then take them out and put them into a hair-bag, and strain all the juice and pulp and substance from them in an apothecaries' press; which put back into your liquor, and let it boil till it be consumed just to the notch you took at first for' measure of your water alone. Then let your liquor run through a hair-strainer into an empty woodden fat (tub), which must stand endwise, with the head of the upper end out, and there let it remain till the next day, that the liquor be quite cold. Then turn it up into a good barrel, not filled quite full, but within three or four fingers' breadth, and let the bung remain open for six weeks, with a double buttercloth lying upon it, to keep out any foulness from falling in. Then stop it up close and drink not of it till after nine months Dywaid Mr. Bassett Digby fod darllawydd medd yn berson go bwysig The concoction was an important task. The mead maker was the eleventh person in dignity at the Courts of the ancient Princes of Wales, taking social precedence over even the Court doctor. Cwmdu House, Cwmdu, Abertawe. Gan George M. Ll. Davies YNG Ngwlad yr Haf, yng Ngwlad yr Haf, Estron myfyriaf yma fy hun, Ar lannau Hafren lydan braf Ac yma'n awr fy man a'm mun. Yng Ngwlad yr Haf. Yma mae cysur i bob cur Ond cur y galon storm ni ddaw, Chwery yr heulwen ar y don Chwery ar flodau'r berllan draw, Yng ngwlad yr haf. Yma mae'r glomen yn y llwyn A gwartheg cochion ar y tir Mae yma feillion dan yr wyn, A lliw yr hufen ar y mur, Yng ngwlad yr haf. Minnau'n lluddedig gorffwys gaf Gweirgloddiau breision sydd, Ac yn yr hydref hwyrnos braf Briallu yn y gaeaf fydd Yng ngwlad yr haf. E. THOMAS. Yng Ngwlad yr Haf Dafydd Huws yn y 'Steddfod AETH Dafydd a finne Yn gynnar un bore I lawr i'r Eisteddfod Frenhinol 'N ôl siwrne flinderus Rhaid mynd yn ddibetrus I'r babell i weled y bobol. Peth anodd ddigynnig Oedd eistedd yn ddiddig, Ar seddau ym mhabell y 'Steddfod; Ac er mor ddiddorol Y llywydd, a doniol, 'Roedd ganddo ef gadair-nid styllod. 'Roedd Dafydd yn edrych Yn syn ar ryw wrthrych, A gwelais o'r diwedd beth ydoedd 'Roedd dyn yn ei ymyl A ffroenau fel ceffyl Yn bloeddio sit down wrth y cannoedd. Fe gredodd rhai bechgyn Fod Dafydd yn rhywun 0 bwys, ac yn werth cael ei sgrifen, Ac er iddo daeru Nad ef oedd O'Reilly, Ei ddilyn wnâi un fel gwenynen. Ar ôl cael ei wared, Fe gawsom gwpaned A phlated ardderchog o ham, A diolch amdano 'Roedd Dafydd bron starfo, Ac yn bygwth mynd adre bob cam. 'Rown innau yn teimlo Fel rhyw flaidd neu gadno, A chliriais y plated yn llwyr Ac wedi cael digon Yn ôl i'r Pafilion I gyngerdd y plant yn yr hwyr. Treherbert, E. ODWYN JONES. Rhpndda. Cefais yr heddwch-esmwyth fyd Tir yr addewid, breuddwyd bardd Ynys Afallon, gwlad yr hud A swn hen glychau Lannau hardd Yng ngwlad yr haf. Eto dihoenaf am fy ngwlad A welaf dros y dwr yn awr Mae yno fwg, mae yno frad, Mae yno orthrwm cryf fel cawr A chystudd mawr. A rhwng yr hen fynyddoedd hyn, Ei weiniaid a'i werinos Ef, Yn gaeth dan ddeddf peiriannau llym, Yn segur, nes cyfodant lef At deyrnas nef. Yno dychwelaf dros y don, At wlad y Cymry, gwlad y Crist, Anturiaeth Arthur sydd gerbron O cyfod f'enaid na fydd drist Fod lle yn hon."