Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwelwch BASIANT Gwyl y # Dyma'r araith a dra- ddododd y Dr. Timothy Lewis, gwir anrhydeddus Esgob Llandaf, oddi ar y Maen Llog yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghastell Nedd eleni GOFYNNIR gan lawer heddiw-Beth yw ystyr y cynhulliad enfawr hwn ? Beth yw ystyr y meini hirion hyn ? Beth yw ystyr y gwisgoedd rhyfeddol hyn ? Mewn gair, beth yw ystyr yr orsedd os oes ystyr iddi ? Y mae rhai dysgedigion diweddar yn beirniadu'r orsedd yn hallt, ac yn taflu amheuaeth ar ei gwaedoliaeth a'i hachau a'i hurddas. Fel pe bai gwerth yr orsedd yn dibynnu ar ei henaint, neu ar ryw fath o gysylltiad rhwng yr archdderwydd heddiw a hen dderwyddon Môn Sacrament Gwlatgarwch Ond y gwirionedd yw nid oes yr un Cymro yn y dorf hon yn hidio dimai'r delyn pa un a ddechreuodd yr orsedd yn y ddeunawfed ganrif, ai yn y nawfed ganrif, ai yn Eden pa un a ddechreuodd cyn y cwymp neu wedi'r cwymp. Yr un gwirionedd y mae'n sicr ohono yw hwn,­mai dyma'r man mwyaf diddorol yng Nghymru heddiw mai dyma'r llecyn mwyaf Cymreig yng Nghymru heddiw, mai dyma ganolbwynt gwlatgarwch cenedl gyfan heddiw. I filoedd o Gymry y mae'r Orsedd megis sacrament o'u gwlatgarwch, a'u cenedl- garwch a'u hiaithgarwch. Gweld Mil o Bethau 0 fewn i'r cylch bach hwn y mae popeth Cymreig o werth yn cydgyfarfod heddiw. 0 bob cwm yng Nghymru y mae ffrydiau gwlatgarwch yn llifo tua Chastell Nedd ac yn cronni yn y cylch hwn. Y mae bywyd cenedl gyfan, ei hanes a'i rhamant, ei hawen a'i chân, ei chelfyddyd a'i cherdd yn dylifo yma, ac yn ymloywi o fewn cylch yr orsedd. Pan na wêl y Philistiad ddim yma ond gwastraff ar gerrig adeiladu da, pan na wêl yr estron ddim ond defodaeth wag, fe wêl llygad craff y Cymro twymgalon fil 0 bethau yn y cylch cyfrin hwn sydd anweledig iddynt hwy. Yr Iberiad bach a'r Celt Beth, ynteu, a welwn yma ? Fe welwn Gymru Fu yn ymddadebru o flaen ein llygaid; fe welwn holl enwogion yr oesau yn cydgyfarfod yma ac yn estyn eu dwylo i groesawu Cymry yr ugeinfed ganrif. -Gydag- ESGOB LLANDÂF Dacw yr Iberiad bach penddu yn dod, ac mewn rhyw iaith goll yn cyfarch ei ddisgynyddion penddu bach yn y dorf hon. Ac wrth ei sodlau dyna'r Celt penfelyn yn dod gan barablu ein cadarn heniaith ni; yr ydym yn deall llawer o'i eiriau ef. Dyma'r hen dderwyddon yn dod a'u gwisg laes a'u barf hir, gan foesgrymu i'r archdderwydd diweddaraf hwn. A dyma'r hen ryfelwyr yn dod, yr hen Frythoniaid hy- a Buddug a Chadwallon. Y Cynfeirdd a'r Seintiau A dyma'r hen gynfeirdd, y maent hwythau yma, Taliesin ac Aneurin, a Llywarch Hen, a Myrddin a'r Gododdin yn eu dwylo, a thân yr awen Gymreig yn eu henaid. « Dyma'r hen seintiau Cymreig yn dod, Dewi ein nawddsant, a Dyfrig a Theilo a Deiniol a Phadarn, a goleuni'r wawr yn eu llygaid, ac acen y ddinas ag iddi sylfeini ar eu lleferydd. A dyma Hywel Dda a'i gyfreithiau, a Gerallt Gymro a'i chwedlau, y maent hwythau yma. Owain Glyn Dwr a'i Farchogion Ac o Abaty Nedd draw dyma'r myneich yn dod yn eu gwisgoedd llwyd, gan ganu eu salmau yn y nodau gregoraidd gyda hwyl Gymreig. Ochr yn ochr â hwy wele'r hen dywys- ogion, tywysogion Gwent a Dyfed, a Phowys a Morgannwg, a Llywelyn ein llyw olaf. Ac y mae Dafydd ap Gwilym yntau yma, a'i Forfudd, a'i gywydd anfarwol. A Iolo CYMRY Goch a'r hen delynorion teulu fu'n cadw calon Cymru yn gynnes mewn dyddiau blin. A dyma Owain Glyn Dŵr yn dod, a charlamiad ei farchogion yn datseinio trwy Gwm Nedd; y mae ef yma yn y cylch, ac yn chwifio baner annibyniaeth Gwalia wen. Anwyliaid ein gwlad Y mae'r canrifoedd yn dylifo i mewn, a'r enwogion yn eu côl y mae'r Esgob Morgan yma, a'i feibl Cymraeg a'r hen ficer a'i gannwyll a Morgan Llwyd a'i dri aderyn ac Elis Wynn o Lasynys, a'r bardd Cwsg- y mae ef yma ac ar ddi-hun heddiw. Y mae Griffith Jones a'i ysgolion yma a Thwm o'r Nant a'i anterliwdiau a'r Perganiedydd o Bantycelyn a'r ferch o Ddolwar Fach. A Chymry glew y gamif olaf, y maent yma Gwallter Mechain a Dewi Wyn o Eifion Islwyn a Cheiriog, Gwilym Gwent a Brinley Richards, Daniel Owen y nofelydd, a John Owen yr Esgob a Dyfed a Phedrog -anwyliaid ein gwlad, y maent yma i gyd. Yn y waedd ac yn y weddi Dyna y mae'r orsedd heddiw yn ei olygu i mi. 'Wn i fawr am ei hanes ond mi wn hyn-fod y canrifoedd hen yn cydgyfarfod yma heddiw mi wn hyn, fod anfarwolion yr oesau gyda ni yn awT ac yn uno gyda ni yn y waedd ac yn y weddi mi wn hyn, fod delfrydau disgleiriaf Cymru, a dyheadau dyfnaf ein cenedl, a gobeithion gwynnaf ieuenctid ein gwlad yn blaguro ac yn blodeuo ac yn perarogli o gylch yr orsedd hon heddiw. Mi wn fod ysbryd didranc Cymru ein mamwlad yn taenu ei adenjrdd dros yr orsedd a thros y dorf hon, a bod y cyfan dan nawdd Duw a'i dangnef." Glyn wrth y Groes (" Faiih," gan Huw Menai.) NA chyfri'n golled golli mwynder byd, Er maint dy loes, Gwybydd nad teilwng bydol bethau o'th fryd A chofia'r Groes. Ond cofio'r Groes, A gwylaidd bwyso ar yr Hwn i ti Ei fywyd roes, A chyfranogi o'i ofid Ef, Fe'th achub di Glyn wrth y Groes.. PAR McMôN.