Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

46 Blynedd ar y Mor Capten Ellis Roberts YMAE'N debyg nad oes un dosbarth yn cael mwy o brofiadau anghyffredin na chapteniaid y môr a phan geir hwy i adrodd eu hanes ni flina un arnynt. Y gwaethaf yw mai anfynych iawn yr ânt i'r drafferth o sgrifennu dim am eu gyrfa ramantus. Ond dyma'r Capten Ellis Roberts fu'n gapten yr Orduna pan hwyliodd i Norwy ar fordaith yr Urdd. 1933, wedi rhoi inni hanes 46 blynedd o hwylio'r moroedd, sef Ar Frig y Don (Gwasg y Brython, 2/6) mewn llyfr diddorol dros ben, Uawn o straeon gafaelgar. Yr oedd Cymro a adwaenai'r Capten Roberts wedi llwytho'i long yn ynysoedd Chincha. Aeth y llong i ollwng dŵr, a galwodd ei griw arno i droi i ynysoedd Falkland, onid e ni phwmpient yr un dafn. Rhoddodd y capten dri chynnig iddynt barhau, yna tynnodd y spears o'r pwmp, ac ebe fe O'r gorau, yr wyf i'n ddigon parod i wynebu tragwyddoldeb. 'Wn i ddim beth amdanoch chwi." Dyna newid eu tôn yn y fan a disgyn ar eu gliniau mewn edifeirwch. Troi'r Crwc yn Gwch BACHGEN tra direidus oedd y Capten Ellis Roberts pan oedd yn fach. Un diwrnod fe aeth i fferm cymydog-yn csgus helpu yn y cynhaeaf. Yr oedd llyn corddi yn un o'r caeau ag arno grwc golchi defaid. Meddyliodd ef y gellid gwneuthur cwch gwych ohono. Felly fu cychwynnodd ar ei fordaith gyntaf. Cyn hir dyma'r cwch yn troi ac yntau'n cael ei daflu i waelod y llyn lleidiog Eithr dringais i fyny i'r tjr â mi, ac wedi ymsychu, cael cwpanaid o de a digonedd o fara brith, fe'm teimlwn fy hun yn gymaint llanc nes ymollwng i ysmocio cataid o faco shag yn perthyn i un o'r gweision, mynd yn chwil gaib, a gweld popeth yn troi. Ar y Cei yn Iwerddon AR smac fechan a gludai 60 tunell, yn un o bedwar o griw, yr aeth y Capten gyntaf i'r môr. Wedi mynd heibio i ben Caergybi, daeth awel gref nes oedd y llong yn dawnsio fel pwsi ar haearn poeth." Gostegodd y gwynt a chyrhaeddodd y Uong y cei yn Iwerddon, Ue rhaffwyd hi a dadlwytho'r llwyth o lechi toi tai. Amser cinio un diwrnod daeth hogyn a'i chwaer fach i lawr at y llong, ac wrth chwarae ar un o'r planciau a osodesid o'r Uong i'r lan, syrthiodd yr hogyn i'r môr Neidiais innau i gwch y llong a thynnu'r bachgen i'r lan. Ymhen yr Adolygtad Gan Meredydd J. Roberts awr dyma'i fam at ochr y llong ac eisiau fy ngweld. Cefais gurfa ganddi, a'm cyhuddo o fod wedi cymell ei phlant i chwarae ar y llong. A dyna fy nhâl am achub ei chjrw Holi Profiad PARHAODD dylanwad ei fam arno wedi iddo fynd i'r niôr. Ai i'r seiat pryd bynnag y byddai ar y lan. Daeth y gwein- idog heibio iddo un tro i holi ei brofiad Wel, 'machgen i, gwelaf y'ch bod wedi dyfod 'nôl o'r India. A oes gennych adnod ar y'ch meddwl ? Nag oes, 'wir," meddwn innau. O," ebe yntau, yna gofyn, A fyddwch chwi'n smocio ? Na fyddaf," ebe finnau. Ag eto y mae ganddo bibell yn ei boced," ebe'r gweinidog. Ie, ond pibell fy nhad yw honno," meddwn innau, er na smociodd yr hen \st erioed. Eu Gwadd i De GWAHODDODD capten llong araU, a hi'n gorwedd yn Colombo, Ceylon, genhadwr du i gynnal gwasanaeth i'r llongwyr. Cafwyd pregeth deimladwy, a gwahoddodd y capten y cenhadwr a'i deulu i de drannoeth. EUis Roberts oedd rhwyfwr bwa y cwch oedd i gludo'r cenhadwr i'r llong. Pan welodd dyrfa o bobl yn nesáu, credai mai pererinion ar eu ffordd i Feca oeddynt. Daethant yn agosach, a gwelodd mai'r cenhadwr a'i deulu oedd y dod!- Chwech, y fan bellaf, y gellid eu gosod i eistedd wrth y bwrdd tê ond hawyr bach, dyma'r tad a'r fam, hwy a'u saith o feibion a saith o ferched a phob un o'r saith merch wedi priodi a saith o feibion bob un, a phob un o'r meibion, saith o ferched bob un. Y cwbl wedi ymwisgo'n hardd mewn Ar yr 'Ordunia' — Mrs. Ifan ab Owen Edwards yn cae: sgwrs am forwriaeth. sidan a thwrban a'r capten dan raid i ddiwallu'r genfaint lawen. Cafodd pob un ryw lun ar gwpanaid o dê, ond gorfu i'r capten wacáu ei gwpwrdd o hynny o ddanteithion oedd ar ei helw. Y Dyn Gwyn a'r Ynyswyr GALWODD un llong y bu arni yn Sydney — porthladd gwych iawn—yna llwytho am Manilla. Wrth fynd heibio i ynysoedd môr y De, lle preswyliai canibaliaid, un diwrnod daeth junk lawn o bobl ddu at y llong. Yr oedd dyn gwyn yn eu mysg. Buasai ei long yn ddrylliad ac er i'w gyd-deithwyr gael eu hachub yn ddiweddarach, dewisasai ef aros ar yr ynys. Bellach daethai'n fath ar frenin ar yr ynyswyr. Ceisiodd y Capten ei gael i ddyfod gydag ef, ond ebe fe, yn bendant Na ddof, diolch. Yr wyf yn hollol hapus gyda'r ynyswyr hyn." Blas yr Heli EI uchelgais o'r cychwyn oedd cael bod yn gapten ar un o "liners" mawr Lerpwl. Ac ar ôl cael ei square-rigged ticket," y mae'n ymuno â'r Pacific Steam Navigation Co., ac yn gwasanaethu ar longau'r cwmni hwnnw am 34 blynedd. Pan oedd yn mynd â'r Reina del Pacifico, un o'r luxury liners" ardderchocaf, a llong y dwed ei bod cyn hardded ag un o blasau brenhinol Sbaen, allan ar ei mordaith brawf i lawr afon Belfast cwrddodd â'r ail long y moriodd ynddi, sef y sgwner fach y bu'n cook arni, ag yntau bellach yn gapten ar long 30,000 tunnell. Llyfr am y môr a llongau wedi'i sgrifennu gan longwr ydyw, a heb un tudalen sych. Y mae blas yr heli ar bob pennod.