Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YDFAES o dan Leuad MEDI EISTEDDAF ar lechwedd mewn man anghysbell, dan dduwch dechreunos. Yr unig gydymaith a chwenychaf yw fy nghyfaill Mot. Rhennir gennym yn fynych yr afiaith hwnnw a ddaw wrth gefnu ar dwrw'r dref a defodau dynion. Yn awr, wedi iddo grwydro'n hir, yn ôl ei elfen, gorwedd ef yn flinedig wrth fy nhraed. Y tu ôl imi cwyd lleuad lawn y cynhaeaf dros fryncyn peU. Daw â rhwysg dros lwybr o liw glas y saffir heb gwmni'r un cwmwl gwamal. Cuddir ei gwenau cyntaf â gwrid tyner melyngoch. 0 dipyn i beth, diflanna hwnnw, a theflir lloergan yn arian- naid dros dir a thon. ODDI tanaf gorwedd ydfaes helaeth sy'n gwyro i gyfeiriad y môr. Weithian, diog yw cryman a phladur y medelwyr. Brithir un hanner o'r cae hwn gan gwmnIau afrifed o ysgubau. Safant yn drioedd llonydd, daldal. Methant ddeall y cyflwr newydd hwn. Eithr nid hwyrach bod iddynt reddf a'u hysbysa am ydlan ac ysgubor yn eu disgwyl. Os felly, llawen ydynt yn y gobaith am gronglwyd yn nrycin y gaeaf cyfagos. Ar hanner arall yr ydfaes saif gwenith ar draed megis byddin o filwyr syth. Nid eu gwasanaeth hwy fydd lladd na distrywio eithr yn hytrach gynnal a chryfhau. Dangosodd y dydd mai melyn oedd y tywysennau aeddfed. Cyflawnodd y lleuad wyrth wrth fwrw hudlath ei gwenau nes troi'r aur yn arian. Teyrnasa tawelwch di-dor dros y fangre. DAN gyffyrddiad awel dyner a gwylaidd daw si cyfareddol i'm clyw. Y mae urddas yn y sain, ac arwydd yn yr osgo fod y Tylwyth Teg yn agos. Ceir dawns ysgafn megis tonnau mân arian byw. Ar fyr, tyf yr awel mewn grym, gan rychu'n ddyfnach a chreu cainc sidanaidd. Bellach wele fôr o ferw gwyn. Am ennyd, digiais wrth y cymhelri nes cofio mai gwynt dros dir a'i cynhyrchodd. Darogan hyn dywydd teg, ebe traddodiad y fro. Wrth wylio gwenau'r lleuad ar y môr o wenith, llithiwyd fi'n ôl i syllu drwy lygaid plentyn. Lluniodd fy nychymyg innau greadur ar gorun pob tywysen yn chwarae mig â'i gilydd oni ferwodd y fangre gan boblogaeth heini. Henffych well ichwi, Dylwyth Teg Chwerddais mewn gorfoledd gan fwynhad pur. Pwy a wad imi'r pleser ? Profais, ar yr un pryd, unigedd a chymdeithas. Ar fyr, dadebrwyd fi. Rhegen yr yd a achosodd y cyfnewidiad. Dychrynodd ei lleisiau fi am eiliad, eithr ymdawelais wrth gofio mai ar ei thalaith hi yr oeddwn. YsgrifFyfyr Gan J. Seymour Rees Gwelwn ar y naill law imi dyrfa Ion a hoyw, ond gwelw a sefydlog oedd y fintai arall. Dameg o fywyd yw un hanner, a darlun o farwolaeth yw'r llall. Y mae un rhan yn byw i farw, a'r llall vn marw i fyw eto­ yn y Gwanwyn. Am encyd, segur yw pladur y didolwr. DAW oergri o odre'r ydfaes. Aflonydda hefyd ar gwsg melys Mot. Ar amrant, rhuthra ef drwy berth ac i ganol yr ysgubau. Gwelais ef yn ffroeni, igam-ogam, am ychydig, yna wedi cael pen y llinyn, yn mynd at y gwenith. Beth, tybed, a gynhyrchodd y gri ? Cwningen, mi gredaf, a erlidiwyd gan wenci. Dacw Mot yn neidio megis drychiolaeth ymysg y gwenith tal. Bob yn eiliad ym- ddengys ei ben gwyn a'i glustiau duon yng nghanol y tonnau ariannaid. Doniol iawn yw'r olwg arno yn Uamu, — Uamu, — llamu. Wele ysgyfarnog gyda chyflymder ergyd o ddryll yn brathu allan o'r yd ac yn gwyro'i llwybr rhwng yr ysgubau. Ar yr un foment cwyd haid ofnus o betris gan hedfan megis ar adenydd o bren yn isel uwch fy mhen. Bardd Gadair yn Cofio Castell Nedd parhad a rhoi rhyw gyfieithiad swta wedyn yn y Gymraeg. Dylai'r Gymraeg gael y lle blaenaf, ac od oes raid wrth Saesneg-yna'r ail le iddi. Bûm yn eistedd mewn gwahanol rannau o'r Babell, a Chymraeg a glywais o'm cwmpas bron yn ddieithriad. Yr oeddwn yn ymyl Sioni ffraethlym adeg traddodi beirniadaeth y Goron. Pan ddywedai Ben Davies fod deugain i mewn,- Diawch," meddai yntau wrth ei gyf- eillion, ma shwr o fod lot o ddrams rwbej miwn fanna. Y Cae Yd (Oddi wrth ddarlun J. Constable.) Dacw Mot eto i'r golwg gan ruthro â holl gyflymder ei goesau byrion. Y mae ar gamre'r ysgyfarnog. Ond druan ohono, ychydig obaith sydd iddo i gyfarfod â hi eilchwyl. Y MAE hi'n bryd imi droi am fy nghartref. Af i lawr i waelod yr ydfaes at y llwybr a arwain i'r dref. Cerddaf gydag ochr y clawdd. Yno, ceir llwyni mwyar ac eirin bach a dduwyd gan wres yr haul. Disgleiriant megis perlau mân dan wenau tanbaid y lleuad. Dyma fi wrth gyfyl derwen ddeiliog a deifl ei thywyllwch yn drwm dros y ffin ar ddarn o'r maes. Y mae du'r cysgod a gwyn y Uoergan yn bendant ac arddunol. Erbyn hyn, tawelodd yr awel, a chlywais o'r herwydd swn cyffro'r llygod a'r cwningod yn yr yd. Mot, Mot, Mot, dere, gi bach Fe gaiff eraill mwy di-ragfarn na mi adolygu llyfryn y farddoniaeth eleni, ond hyfryd gennyf yw cael ynddo enwau hen gyfeillion fel Amanwy, Gwilym Myrddin, a Sarnicol, ac enwau newydd sbon, fel J. D. Jones, Ynys-y-bwl (awdur yr englyn) a James Owen, Rhosaman (enillydd y barodi). Hawdd yw diolch yn gynnes iawn i Mr. Rhys Jones, ysgrifennydd y Pwyllgor Llên, am ei hynawsedd. Gŵr o lenor diwyd yw ef, ac ni bu ball ar ei amynedd a'i lafur drwy'r wythnos.