Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fy Marn ar Waith fy Athro Casglodd Gwynn Jones ei ysgubau o feysydd agos a phell malodd y gwenith yn ei felin gelfydd ei hun, a'r blawd yw Caniadau DA yw gweled yr Athro T. Gwynn Jones, ar ddiwedd ei yrfa lenyddol, yn casglu ei weithiau ynghyd fel y gwnaeth bardd mawr arall, Goethe. Bywyd llafurfawr fu bywyd Gwynn Jones. Bu wrthi ar hyd ei oes yn dysgu ieithoedd, yn darllen Uenyddiaethau'r gwledydd ac yn astudio eu barddoniaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth yr hen fyd clasurol a'r byd newydd diweddar. Y mae delw'r astudiaeth honno ar ei farddoniaeth. Wrth ddarllen Caniadau gwelir ynddynt, yma ac acw, noethni syml arddull y Cyn- feirdd, rhuthr cadarn y Gogynfeirdd, telyn- egrwydd serchus Dafydd ap Gwilym a diarhebrwydd llinellau Wiliam Llyn a Thudur Aled. Chwedlau Cymru, Iwerddon, Llydaw. Ceir ynddynt eiriau cyfansawdd yr hen feirdd Cymraeg, eu cymariaethau a hyd yn oed eu geiriau llanw. Cymerodd y bardd chwedlau Cymru, Iwerddon, Llydaw a Gâl fel ffurfiau llenyddol. Clywir yn Caniadau hefyd adleisiau o farddoniaeth Fyrsil, Horas, Dante a beirdd yr Almaen. (Ni chlywais ynddynt yr un adlais o fardd- oniaeth beirdd Lloegr). Ni fu erioed yng Nghymru brydydd mor wybodus, bardd mor ddiwylliedig. Cyn y gall bardd lunio epig neu gerddi hirion, rhaid iddo fod yn ŵr o wybodaeth a di- wylliant. Nid oes rhaid ond enwi Fyrsil, Dante, Miltwn a Goethe. Nid yw Gwynn Jones, wrth gwrs, yn yr un cae â'r rhain fel bardd, ond efe yw'r tebycaf iddynt ymhlith holl feirdd Cymru. Mab ei oes. Bydd y beirdd bychain yn gorffwys ar gynhyrfiadau teimlad y foment. Bydd holl lafur a myfyrdod oes gyfan yng ngwaith y beirdd mawr. Y beirdd eilradd a fydd yn dynwared. Bydd y beirdd blaenaf yn dwyn. Casglodd Gwynn Jones ei ysgubau o feysydd agos a pheU malodd y gwenith yn ei felin gelfydd ei hun, a'r blawd yw Caniadau. Nodwedd arall bardd mawr yw ei fod yn blentyn ei gyfnod. Y mae Gwynn Jones yn fab ei oes. Y mae ysbryd ei oes yn ei waith. Yr enw a roir ar yr ysbryd hwnnw, mewn athroniaeth, yw delfryd- iaeth, y ddelfrydiaeth drosgynnol fel yr esbonnir hi gan Kant, Fichte a Hegel. Yr enw a roir ar yr ysbryd hwnnw, mewn gwleidyddiaeth, yw rhyddfrydiaeth neu wer- iniaeth, ysbryd gwleidyddol mudiadau gwerinol y ganrif ddiwethaf a'r ganrif hon. Yr enw a roir ar yr ysbryd hwnnw, mewn llenyddiaeth a barddoniaeth, yw rhamant- iaeth. Gan D. Gwenallt Jones O'r Almaen y tarddodd y rhamantiaeth honno, ac yng ngwaith beirdd yr Almaen yn hanner olaf y ganrif ddiwethaf a'r ganrif hon, gwaith Novalis, Richter, Schiller, gweithiau cynnar Goethe, Hölderlin a Rainer Maria Rilke, ac enwi ond ychydig ohonynt, y gwelir y rhamantiaeth honno yn ei phurdeb, a'i ffolineb. Swydd y beirdd rhamantaidd oedd llunio, yn eu barddoniaeth, fyd prydferth, byd delfrydol sôn am berffeithrwydd anfeidrol annhraethadwy sôn am ryw duhwntrwydd anhysbys, rhyw dragwyddoldeb niwlog. Gosodent y byd perffaith hwn yn ôl yng nghyfnod eu plentyndod, Gwelais ryw wawr o'r hyn ydoedd Mor wir yn fy more iach — Os mud ydyw'r nef a'r bydoedd, Mae Duw ym mhob plentyn bach. ac yn ôl yn yr hen oesoedd, yn enwedig yn yr Oesoedd Canol. Arwyddion byd delfrydol. Aeth beirdd yr Almaen yn ôl at chwedlau a chaneuon gwerin eu gwlad yn yr Oesoedd Canol, yn ôl at y cestyll, y marchogion a'r dreigiau. Defnyddiodd Gwynn Jones chwedlau Celt- aidd yr Oesoedd Canol fel ffurfiau llenyddol, chwedlau yn cynnwys y traddodiad am yr ynys hud, bro ieuenctid a llawenydd, Afallon yn Ymadawiad Arthur, y tir yng nglas y don yn Tir na N-Og, gwynfa'r haul a'r anfarwolion yn Anatiomaros, gwlad y gorllewin yn Madog a'r fforest hudolus yn Broseliawnd. Oes," medd ef, mae ynysoedd mwyn yn eithafoedd y mór! Owyddost am chwedlau'r Gwydtlel hanesion ynysau'r gorllewin, Broydd y Byw a'r Ieuanc, byd heb na gofid na bedd." Mae'r ynysoedd a'r broydd hyn yn arwydd- lun iddo ef o fyd delfrydol y rhamantwyr. Hiraeth, mam rhamantiaeth. Hiraeth am y byd perffaith hwn yw angerdd rhamantiaeth. Sehnsucht (hiraeth) yw hoff air y Romantische Schule (yr Ysgol Ramantaidd) yn yr Almaen. Dwedodd yr Athro W. J. Gruffydd, yn ei ragymadrodd i'r Flodeugerdd Gymraeg, mai hiraeth yw deunydd barddoniaeth. Hiraeth yw mam y farddoniaeth ramantaidd. lór! ai anesgor hiraeth hyd byth ydyw enaid bod? Yr oedd gan y beirdd rhamantaidd yn yr Almaen gydymdeimlad â'r Eglwys Gatholig am mai hi oedd Eglwys yr Oesoedd Canol. Dechreuodd llawer o'r beirdd a'r llenorion eu gyrfa fel gwrthryfelwyr eithafol, cyfeillion y Chwyldro Ffrengig, ond tua chanol eu hoes bwriasant eu coelbren gydag Eglwys Gatholig Rhufain. Gwelir cydym- deimlad Gwynn Jones â'r Eglwys honno yn Y Gynneddf Goll ac Y Trydydd. Bardd y mor. Yn eu hiraeth am y byd delfrydol yr oedd y beirdd hyn yn anfodlon ar y byd hwn. Daw i mewn i'w barddoniaeth wrthryfel yn erbyn deddf a defod cymdeithas, siomedig- aeth, aflonyddwch, eironi, chwerwder a ffyrnigrwydd. Ceir rhai o'r pethau hyn, nodau cyfnod y sturm und drang, yn Can- iadau, yn enwedig yn y cerddi rhydd ar y diwedd. Yn Argoed y mae'r bobl yn eu lladd eu hunain, fel y gwnaeth Werther, yn nufel gynnar Goethe. Bardd y môr yw Gwynn Jones. O'r môr y tynnodd ei brif simbolau. Yn symud y tonnau a'u stormydd y ceir aflonyddwch ac anniddigrwydd ei ysbryd yn eu tangnefedd hwy y ceir ei dangnefedd yntau y cwch yw crud dychymyg a breuddwyd y llong yw llestr hiraeth, anturiaeth a rhyddid yn y pellter, dros orwel y môr, y mae'r fro ddelfrydol, y cais y llong fyned iddi: ac yn y llongddrylliad y mae ei dristwch a'i anobaith a diwedd pob dim. Hyd yn oed pan ddisgrifia'r wlad, dis- grifio'r gwyntoedd, yr awelon, y cymylau a'r cysgodau a wna yr elfennau aflonydd Ni allai efe weled sefydlogrwydd y pridd. (1 dudalen 264.)