Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YDYDD o'r blaen digwyddai fy nghael fy hun yn treulio nos mewn tŷ yn Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd. Ty â phob caredigrwydd yno i grwydryn ar ei daith. Tynnwyd fy sylw yn arbennig gan y penteulu. Gwelwn ei fod wedi teithio cryn lawer yn ei gylch, ac yn gwybod holl hanes y wlad a'r siroedd cyfagos. Aethom i orffwys y nos. Synnwn nad oedd arwyddion o gynilo dim ar y goleuni yn yr ystafelloedd, a thanau trydan yn eu cynhesu, nes imi sylweddoli Ue'r oeddwn, a phwy oedd y bobl yr arhoswn gyda hwynt. Y mae'n debyg mai pentref Llanuwchllyn oedd un o'r pentrefi cyntaf i gael ei oleuo gan drydan. Gerllaw efail Mr. Richard Edwards, oblegid dyna enw'r gwr yr arhoswn gydag ef, yr oedd rhod ddWr yn malu rhisgl i wneud crwyn. Trodd Mr. Edwards honno yn 1910 i gynhyrchu trydan i bentref Llanuwchllyn. Mr. Edwards, a'i fab Mr. Antur Edwards a osododd yn 1921, olwyn gogwrn fel yr un a welir yn y darlun i wneud y gwaith. Yr oedd hon yn cael ei throi eto gan ddŵr o afon Twrch, sef afon Syr Owen M. Edwards, -y mae'r drofa sy'n arwain y dŵr i'r gamlas bron yn ymyl Coed-y-Pry, ei gartref. Bu Mr. Richard Edwards yn un o'r arloeswyr yn y wlad gyda'r gwaith o oleuo'r pentrefi a'r ffermydd â thrydan. Mr. Antur Edwards yn y gweithdy olwynion trydan yn Llanuwchllyn. Gan E. Curig Davies Gellir olrhain hanes yr efail hon yn ôl hyd 1829, pan ddechreuodd Mr. Evan Edwards, saer melinau ac amaethwr, tad pennaeth presennol y t_δ, wneud olwynion dŵr i amaethwyr y wlad. Yn niwedd y ganrif o'r blaen dechreuwyd rhoi'r olwyn gogwrn yn lle'r olwyn ddŵr am ei bod yn rhatach a mwy hwylus i'w gweithio, yn ogystal ag yn llawer mwy parhaol. Wedi unwaith roi olwyn felly i weithio nid oes obaith gan neb gael rhoi un arall yn ei oes ef. Arweinir dŵr allan o'r afon i Ie uchel a manteisiol i'r dŵr ddisgyn trwy bibau ar ddwylo neu adenydd yr olwyn. Y mae grym yr olwyn yn dibynnu ar faint y ffrwd pellter y disgyniad; a maint y ffrâm y chwyrnellir y dŵr drwyddi ar draws yr adenydd. Y mae'n rhaid talu'n ddrud am olew a glo i wneud y gwaith a golygant lawer o drafferth. Ond rhed y dŵr yn rhad, heb ballu byth. Ceidw beiriannau'r ffermwyr i fynd gan falu eu hvd, llifio eu coed, a goleuo eu tai, a'r cwbl yn rhad wedi'r gost gyntaf. Ffurfiwyd cwmni lleol ym mhentref Llan- fachreth yn Sir Feirionnydd, ddwy flynedd yn ôl, a rhoddwyd digon o arian ynddo i dalu i'r peirianyddion o Lanuwchllyn am osod olwynion a pheiriannau i gynhyrchu trydan i oleuo pob bwthyn am ddwy bunt yr un yn y flwyddyn, a goleuo pob fferm a throi'r peiriannau am £ 4 yr un yn y flwyddyn. Derbyniodd pob tý a fferm trwy'r pentref, yn gwbl ddieithriad, y trydan at eu gwasan- aeth. Caent ddefnyddio faint ar fyd a fynnent o drydan am y tâl. Derbyniodd y cwmni yn Llanfachreth log da ar derfyn y flwyddyn gyntaf, ac y mae pawb yn hiraethu na buasent wedi gweld gwerth yr afon fu'n llifo heibio'n segur am gyhyd. Gosododd Mr. Edwards a'i fab y math yma ar beiriant, sef olwyn gogwrn pan fyddai hynny'n fwy manteisiol, i gynhyrchu trydan i oleuo llawer o bentrefi. Ceir yn eu mysg Llwyngwril a Llangwm ym Meirionnydd Llanfaircaereinion a Meifod ym Maldwyn Tal-y-bont a Thaliesin yng Ngheredigion a Llanfair, Pwll Glas a Phenmachno yn Sir Ddinbych. Gosodasant beiriannau hefyd wrth gan- noedd o ffermydd. Y mae'n debyg mai'r fferm gyntaf i'r cwmni ei goleuo ydoedd Dôlhyfryd yn nyffryn Clwyd, hynny dros chwarter canrif yn ôl bellach. Gosodwyd y pryd hwnnw ysmotyn coch ar fap o Gymru y mae'r ysmotiau coch sydd ar y map braidd yn rhy luosog i'w cyfrif erbyn hyn, ac yn cyrraedd i bob rhan o'r wlad. (I dudalen 250.)