Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Timothy Lewis, Coleg Aberystwyth, yn Chwilio am Fedd Hedd Wyn "Sylwais fy mod heb fy mlodau. Yr oeddynt mae'n debyg wedi mynd yn rhan o'r Grand 'Place." AR y dde i'r briffordd o Poperinghe i Vlamertinghe yn Fflandrys yr oedd gweddillion horse lines yn 1917 ac ar y chwith, bron ar eu cyfer, yr oedd lorry park a thrawstiau coed ar y llawr i gadw'r lorries rhag suddo i'r llaid. Wrth dalcen isa'r horse lines yr oedd twmpath hirgil. Y noson gyntaf, ar y ffordd i fyny i'r front," cysgaswn mewn bocs cantiau Dunlop wrth dalcen beudy ar ffordd Crombeke, Poperinghe. Noson rewllyd o Dachwedd ydoedd hi ac nid oedd y bocs yn ddigon hir imi gysgu ynddo yn fy hyd. Troeswn ei waelod yn gefn ar y gwynt, a thrwy'r nos yr oedd fy neupen yn chwarae Siôn a Siân a'i gilydd. Pan oedd fy nhraed yn rhewi, i mewn â hwy i'r bocs a'm pen allan, yna wedi dadebru ychydig gwthid y traed allan a'r pen yn cilio'n ôl i glydwch Fort Dunlop." Yn yr hen Houblons. Yr ail noson yr oeddwn yn yr hen Houblons-ystordy hops-yr ochr bella i orsaf Poperinghe ar gyfer hôtel y Bifstek. Corporal madfyw oedd yn gofalu amdanom, ac un o'r atgofion mwyaf digrif sydd gennyf yw gweld y Corporal yn y bore tywyll drannoeth yn ceisio oael gafael ar ei braidd bychan oedd ar wasgar yng nghanol yr ugeiniau eraill llwyd a Ueidiog oedd yn ceisio cysgu yn y cafnau rhwng y trawstiau ar lofft yr Houblons. Nid oedd neb ohonom yn awyddus iawn i ateb ei alwad, ac yr oedd arno yntau ofn sengi ar ben neu aelod un o'r. lleill wrth chwilio amdanom rhag digwydd damwain iddo. Y drydedd noson cysgwn yng nghysgod llafn sinc wrth dwmpath hirgil. Bedd dau filwr oedd y twmpath a'r ddau, meddir, wedi eu saethu mewn anwybod am i ryw swyddog dibrofiad dybio mai dau lwfr ar ffo oeddynt. Yr oedd yn hawdd i'r byrbwyll wneud hynny, ond ni ellid ei ddadwneud ar ôl dyfod i bwyll. Ni bu ond y dim lleiaf rhyngof i a pheth tebyg. Troeswn o'r neilltu ar awr dawel ar ôl llanast y Somme a thybiodd New- zealander ieuanc selog mai llechu ar ffo yr oeddwn a dygwyd fi o flaen y swyddogion. Cafwyd difyrrwch mawr am ben y swyddog, ond gallasai droi'n chwerw. BUM am rai misoedd ar ôl hyn tua Vlamertinghe a Boesinghe tu -61 i Ypres. Tua'r ail wythnos o Fis Bach 1918, daeth parsel imi. Yr oeddwn wedi gorchymyn peidio â danfon dim imi, ond wedi agor hwn cofiais fod y diwrnod pwysicaf i un rhan o'm teulu wrth y drws, ac yno yr oedd tusw o flodau-ganol Mis Bach Yr oedd y blodau wedi eu rhwymo mewn papurau Cymraeg. Nid oedd yr un Cymro arall yn y battery, a'r peth diwethaf a welswn i o Gymru oedd cnapiau o 10 â sêl y Crown o Gaerdydd arnynt yn Hazebrouck, ac yr oeddwn mor falch o'u gweld ag oeddwn o weld yr hen long St. David yn Southampton y noson yr oeddwn yn croesi gyntaf, a minnau'n cofio amdani'n hwylio o Abergwaun i'r Iwerddon. Gofyn am "pass." Gwyddwn fod Hedd Wyn wedi'i gladdu rywle gerllaw Ypres. Danfonais at yr unig un gerllaw Trawsfynydd oedd yn adnabyddus i mi ac erfyn arno ddanfon y" map reference" o'i fedd imi ar fyrder os oedd modd. Ymhen tua mis daeth gair yn erfyn am help i gadw rhyw gerddor ieuanc o'r fyddin rhag digwydd tranc ar gerdd Cymru pe collai hwnnw ystwythder ei fysedd yn y fyddin-ond dim gair am fedd Hedd Wyn. Wedi gweld y blodau-beth ellid â hwy yno ? Ni fedrwn edrych arnynt yn gwywo yn y llaid ac nid oedd dichon eu cadw. Y noson cyn fy mhen blwydd wele fi at y Sergeant-major a dweud fy mod am gael pass i Poperinghe drannoeth a chael bod yn rhydd. Cefais ef yn rhwydd. Ar Ypres a Pilkem yr oedd fy mryd i, ond gwyddwn yn dda na chawn gennad gan yr hen sergeant rhadlon i dreulio diwrnod i fynd y ffordd honno. Ar grets y lori. Yr oedd shell dump yn perthyn inni yn Brielen gerllaw Ypres a lori yn mynd yno. Neidiais ar grets y lori heb y respirator Y "pass" i Poperinghe. na'r tin hat, er fy mod yn cofio'n dda am yr hen rybudd bras gerllaw Ypres­Ttn Hats must be worn from here onward. Pe gwelsai y Sergeant y taclau hyn gennyf, gwyddai nad oeddwn yn debyg o fynd i Poperinghe. Buasai niwl tew dros y wlad am dridiau, ac yr oedd pethau'n weddol dawel. Ni buasai'r sausage balloon i fyny yn Ypres ers rhai dyddiau gan fod y niwl yn rhy dew i neb weld dim. Heddiw yr oedd yn fore teg a'r tusw blodau yn fy llaw wedi peri imi anghofio Ypres, oblegid meddwl yr oeddwn am fedd Hedd Wyn a rhoi'r blodau yno. Cofiais am y Serjeant oedd yn y dug out ym mur porth Menin, a thybiais y cawn wybod ganddo ef os oedd y London Welsh yn y cylch rywle. Nid oedd neb yn y golwg yn Ypres yn unlle ond pawb yn ei loches ar ôl gwaith y nos. Cerddwn yn galonnog ar draws y Grand' Place tuag at borth Menin, ac yr oedd wagon yn dyfod o gyfeiriad Menin ar y pryd. Pan oeddym ar gyfer yr R.A.M.C. Station o dan y Neuadd Frethyn, wele belen yn disgyn ar y wagon fel taraw amrant. Y swp gweddillion. Nid wyf i'n sicr beth ddigwyddodd ond gwelais ddwyn swp bach o weddillion gwaedlyd y gyrrwr i le'r clwyfedigion, ac nid oedd dim arall yn y golwg ond rhyw garpiau a staen coch ar y Grand' Place. Ciliais i am loches ac yn y sewer o dan y neuadd y'm cefais fy hun. Gwelais fy mod yn rhywle fel Dyfed y Mabinogi ac "elyflu y byd o lygod yno, eithr onid oeddwn wedi bod yn trigo yn eu plith ddydd a nos ers misoedd ac yn edrych arnynt fel hen gyd- nabod ? Wedi gwastatáu dipyn yno a gweld fy mod yn gyfan a bod pob aelod yn weddol ufudd, sylwais fy mod heb fy mlodau- yr oeddynt, mae'n debyg, wedi mynd yn rhan o'r Grand' Place. (I dudalen 264.)