Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gair o Blaid Gwylanod y Mor Treuliodd awdur yr ysgrif hon lawer o flynyddoedd ar Tnys Hilbre sy'n gorwedd ar lannau gogledd Mon. Gwnaeth astudiaeth fanwl o adar y mor, ac fe'i cydnabyddir yn awdurdod arnynt. Daeth llawer o adar i'w adnabad yntau. Gan Lewis Jones Bae Cemaes, Mon YMAE tri chant o ymwelwyr a thrigolion pluog a fynychant ein gwlad, a gwelir chwech o'r trigolion sefydlog hynny yn y darhm gyda'r ysgrif hon. Gwir bod mwy na chymaint arall o wylanod gwahanol yn ymweld yn achlysurol â ni, ond y mae'r hanner dwsin uchod­fel y tlodion-gyda ni bob amser. Nid hawdd eu hadnabod pan fônt ieuanc oblegid nid yw'r rhai mwyaf yn cael eu lliwiau perffaith nes bod yn bedair neu bump oed. Brychwyn ac amrywiol yw eu lliw yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Gwancus ryfeddol. Yn eithaf priodol, gelwir hwynt yn garthwyr y môr," canys oni bai am eu gwasanaeth yn clirio pob celain ac ysgarthion o'r porthladdoedd a'r glannau, byddai'r awyr a anedlir yno yn beryglus i iechyd dyn. Creaduriaid gwancus ryfeddol ydynt, heb ball na dewis ar eu harchwaeth. Llyncant bopeth gan nad pa mor aflan a llygredig y bo, a thystia hen bysgotwyr eu bod fel bwcedi heb waelod, yn amhosibl eu Uenwi Gwibio fel gwenoliaid. Fe wyr yr amaethwyr nad ydynt byth yn blino dilyn yr aradr i fwyta pob math ar bryfed sy'n dinistrio cymaint ar gnydau ein gwlad. Ond nid pob amaethwr a'u gwelodd yn gwibio fel gwenoliaid uwchben y weirglodd hyd oriau mân y bore i lyncu'r meisgynnod a gyfyd o'u cuddfannau yn y cyfnos, canys yng nghymdogaethau'r glannau creigiog lle megir eu cywion y gwnânt hynny. Diddorol yw eu gwylied ar doriad y wawr yn disgyn ar ymyl y nyth ac yn cyfogi cynnwys eu cylla gerbron y teulu, canys dyna ddull yr wylan o gario bwyd i'w chywion. Y foment y cyrhaeddo un y nyth, ymedy'r llall i gasglu pryd arall i'r plant. Yr Wylan Fawr gefnddu. Angenrhaid yw bod un o'r hen adar bob amser wrth law i amddiffyn yr wyau a'r cywion rhag eu llyncu gan gymdogion ysglyfaethus y nythod nesaf atynt. Chwe math gwahanol ar wylanod mor-Dun hynod a dynnwyd gan Mr. Jones. Y mae i bob gwylan ei nodweddion arbennig, ond yn lle manylu arnynt, rhaid bodloni yn awr ar roi enwau yr adnabyddir y rhai sydd ar y darlun wrthynt, sef, yr Wylan Fawr Gefnddu, yr Wylan Leiaf Gefnddu, yr Wylan Benwaig, yr Wylan Gernyw a'r wylan gyffredin. Yr Wylan Fach benddu. Er bod y Gernyw mor gyffredin o ran rhif â'r un a gamenwir felly-ae y maent hefyd mor debyg o ran maint fel nad hawdd i'r anghyfarwydd weld y gwahaniaeth­ eto y mae pawb yn adnabod yr Wylan Fach Benddu sy'n arfer nythu yng nghanol y wlad. Llwydwyn yw eu pennau ar hyd y gaeaf, ond oddeutu diwedd Mawrth gwisgant foneti duon ar gyfair eu tymor priodas. Hawdd eu hadnabod bob amser wrth y traed, y coesau a'r pigau cochion. Tri neu bedwar o wyau. Erbyn hyn y mae cyfraith y wlad yn amddiffyn yr Wylan am ei bod yn ateb diben ei bod yn ystyr uwcha'r gair. Lle'r heigio'r penwaig yno yr ymgasgl y gwylanod, Achub Nerth Dwr­-CymrO wrth y Gwaith-parhad. Nid llawer o'r hen olwynion coed sy'n cael eu gwneud heddiw. Y mae'r efail yma wedi symud gyda'r amseroedd, ac wedi cael datblygu i gwrdd ag angen arbennig yn y wlad. Cedwir yno grefftwyr medrus mewn gwaith cyson, a phob un yn teimlo diddordeb personol yn y gwaith a wna. Y mae'r afonydd a'r ffrydiau yn rhedeg yn wyllt ac nid yw eu grym ddim ond wedi dechrau cael ei ffrwyno. Y mae'n debyg bod posibilrwydd gwneud olwyn i ateb maint a grym a disgyniad pob ffrwd. Yn ogystal â bod yn hyfedr yn y gelfyddyd o droi dŵr i wasanaeth dyn, y mae Mr. Edwards wedi dyfeisio math ar droell hunan- ond er mor werthfawr yr arwydd hon i'r pysgotwyr, condemniant yr Wylan gyda'r gweddill o adar y môr am eu beiddgarwch yn cipio cyfran o'r helfa. Dylai pawb wybod bod gan yr adar ran bwysig yn narbodaeth natur, ac ystyriaid nad yw adar y môr yn dodwy mwy na thri neu bedwar o wyau, tra sicrheir ni gan yr awdurdod Hamer, bod y Penfras yn dodwy 3,686,000 o wyau ar unwaith Lle i'r adar. Tystia awdurdod arall, sef Buffon, pe cawsai un pâr o benwaig heddwch y buasai eu hiliogaeth, mewn ugain mlynedd, yn cynhyrchu swm cyfartal i'r belen ddaearol! Felly, heb unrhyw atalfa, buan iawn y gorlenwid y môr, a gwneud trafnid yn amhosibl ar ei ddyfroedd. Eithr i ffrwyno. cyflymder y cynnydd, trefnwyd bod yr adar ymhlith y llwythi lluosog sy'n ysglyfaethu ar eraill, ac yn arbennig ar y rhai mwyaf epilgar. Mor debyg i'r hil ddynol, sydd hefyd yn gorfod lladd i fyw Gwaith yr Arglwydd sydd berffaith. Ni chrewyd dim yn ofer." gydiol i gario'n fwy hwylus raffau i droi peiriannau ffermydd fo â'r adeiladau ymhell o'r afon. Gwelir dynion yn dyfod â'u moduron a phob math ar beiriannau trydan i gael eu trin yn yr efail hon. Ac ymhlith pethau eraill gwelir y peiriant asio diweddaraf ar waith ac yn cael ei yrru gan rym yr áfon. Diddorol ydoedd mynd tiwy'r Tŷ Nerth a gweld yr hen afon wedi'i chaethiwo, a'i gyrru drwy'r rhigol a wnaeth dyn iddi, hithau'n taro ar yr olwynion gan droi ei chynddaredd yn oleuni a gwres a chysur cyn treiglo'n ôl i'r hen lwybr i gerdded rhwng y bryniau."