Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O Wyddeleg Pádraic ô Conaire Siwrnai Olaf OTflarti FEDRAI'R diawl ag O'Fflarti ddim, na fedren," meddai hen yrrwr cerbyd i mi pan ddywedais wrtho fod rhaid mi fod yn Galway cyn deg ar gloch. Y dyn, pe bai gennym geffyl rasis, 'fedrem' ni ddim. 'Does dim modd i chwi ddal y trên heno, cymrwch 'y ngair i." Golchai'r glaw i lawr yn ffrydiau, a gwynt y gorllewin yn chwythu'n storom o'r môr. Lle'r oedd coed ar ymyl y ffordd, canai'r gwynt yn oerllyd trwy eu brigau noeth. Pe gellid credu'r seryddwyr yr oedd lleuad lawn rywle uwchben: ond yr oedd hi'n gwbl guddiedig rhagom ni. Yr oeddwn yn wlyb i'r croen, yn newynog, ac wedi blino fel ci. Nid oedd y gyrrwr fymryn gwell. Ni fedrai'r ceffyl ond prin lusgo'i draed, ac âi ei ben lan-a-lawr fel tegan plentyn. Rhuai'r gwynt, gan beri swn fel côr o uffern. Dychrynodd y ceffyl. Disgynnodd y gyrrwr ar frys, ac er arafed yr âi'r ceffyl o'r blaen, arafach yr âi'n awr a'r gyrrwr yn ymaflyd yn ei ffrwyn, ac yn ceisio'i gymell. Dywedais lu o bethau am y ceffyl yna, am yrwyr Galway, am y tywydd, y lle, a phethau eraill, ond ofnaf y byddai cywilydd ar yr argraffwyr eu darllen hyd yn oed. Ond ni thalai'r gyrrwr unrhyw sylw. Clywsai iaith debyg yn ddigon aml o'r blaen mwy na thebyg. Beth bynnag, cerddodd ymlaen, ac nid esgynnodd i'r cerbyd am ychydig filltiroedd o'r heol wleb, leidiog, dyllog. YR oedd ef rhyngof a'r gwynt, ac o dro i dro, clywn ef yn cnoi rhyw eiriau. Y Diawl a glywn gan amlaf, ond weithiau craffwn ar y geiriau, y Diawl ag O'Fflarti." Er fy mod innau'n rhegi dan fy anadl hefyd, ymddiddorwn yn chwyrniadau'r gyrrwr. "O'Fflarti!" Pwy oedd O'Fflarti ? Beth oedd a fynno ef â'r diawl ? Meddyliais am bob stori a glywais am ddiawliaid yn cymryd arnynt rith dynion. Ai diawl yn rhith dyn oedd O'Fflarti ? B'le'r oedd e'n byw ? Pryd ? Sut olwg oedd arno ? A adawodd deulu ar ei ôl ? Ai cymryd ar ôl eu tad a wnaethant, neu ar ôl eu mam ? Goleuodd yr awyr ryw ychydig. Yr oedd y seryddwyr yn iawn. Daeth y lleuad i'r golwg. Buasai'r gyrrwr yn ddistaw ers tro. Dyna Ue'r oedd e'n byw-acw, ar ben y graig," ebe fe'n ddisymwth. Pwy ? meddwn, y diawl, ai—e ? Nage, ond 'i etifedd, O'Fflarti Ddu." Holais dipyn arno, ac yn fuan rhoes ryddid i'w dafod. Dacw Ue'r oedd e'n byw, nes i'r diawl ddwad i'w gyrchu yn y diwedd. Yr oedd yn beichen tir, ond eto, rhedai 'i ddyledion i gannoedd o bunnoedd ar hyd a lled y wlad. Duw a'ch helpo, ddyn! Pe buasai ganddo filoedd y flwyddyn, gallsai eu gwario'n hawdd. Ceffylau rasis, gamblo, cŵn, bwyta ag yfed, canu a dawnsio ddydd a nos. Menywod o ddyn! Fe frawychodd y cymdogaethau. Do 'wir TANIODD y gyrrwr ei bib, a thaniais innau, ond nid heb drafferth. Ymddang- osai'r gyrrwr yn barod i barhau â'i stori. A oedd e'n briod ? meddai mewn ateb i mi. Oni ddywedais 'i fod e ? Nid llawer dros 'i ugain oed oedd e pan briododd ferch iarll o Funster gwraig garedig, hyfryd yr olwg ond p'le'r oedd y wraig a allai fyw yn yr un t)- â gŵr oedd â gwraig ganddo ym mhob pentref oddi yma i Ddulyn ? Nid oedd y pumed mab wedi 'i fedyddio pan yrrwyd saith cerbyd at ddrws y tŷ un noswaith. O'Fflarti oedd yn y cyntaf. Yr oedd pawb-yn wŷr a gwragedd dan ddylanwad diod, ag yn canu maswedd. Treiodd y wraig eu cau nhw allan, ond torsan y drws. Fe'i cloesan hi yn un o ystafelloedd pen y tŷ, ag yna aeth yn uffern i lawr yn y gwaelod. Torrodd hi 'i chalon y noson honno, meddan hw. Gadawodd 'i gwr, ond aeth â bendith y bobl gyda hi. Do, 'wir. AETH â'i blant gyda hi, ond mynnodd ef hwynt yn ôl wedyn trwy gyfraith. Ag oni chododd ef hwy'n deilwng ag yn barchus 'Aethan hw erioed yn agos i ysgol, ag am yr addysg a gawsan gan eu tad- fawr o les oedd iddyn. Os lladdai eu tad ddyn heb reswm na synnwyr, fe glod- foren hynny fel y weithred orau yn Iwerddon. Rhyfeddod oedd gweld y pum dyn ieuanc hyn yn gyrru'n wyllt trwy'r wlad, gan ddychrynu dyn ac anifail. Mi welais i fy hunan grogi un ohyn-hw yn Galway- Redmond oedd 'i enw. Yr oedd wedi lladd 'i frawd 'i hun er mwyn menyw. Gan D. MYRDDIN LLOYD Y Darlun gan Richard Ll. Huws. Yr oedd gan O'Fflarti naw arall yn y tý, rhwng meibion a merched. Ni ddaeth 'i wraig yn ôl, cofiwch. Dim tebyg Ond cafodd un arall-dewch chwi, beth oedd 'i henw hi ? Dim ots. Cafodd dri mab a dwy ferch ohoni. Ond ba werth i mi siarad ? Ni byddai pobl wedi dweud gymaint, hwyrach, oni bai 'i fod e'n ddyn drwg mewn pethau eraill. Ni roddai ddim byth i'r llwm, ac wedi noson o wledda, nid y tlodion a gâi'r gweddill, ond 'i gwn. Fe ddywedodd fy nhad wrthyf iddo fynd yno un bore yn 'i gerbyd a gweld y cẅn a'r tlodion yn ymladd am weddillion v wledd y noson gynt. Yr oedd O'Fflarti yno'n mwynhau'r sbort. Tarawodd fv nhad e. Oni bai fod jr llall yn feddw, cawsai' nhad fis o garchar." Erbyn hyn yr oeddym jm agosáu at y dref. Beth oedd 'i ddiwedd e ? ebe fi. Anodd dweud yn iawn," ebe yntau. oblegid y mae yna sawl stori. Ond dyma'r gwir, os y gwir a gefais gan Jac Mawr, y beili. FEL y dywedais i eisoes, yr oedd arno filoedd trwy'r wlad, ac yr oedd cyfraith y pryd hynny, y gellid cymryd meddiant o gorff y neb a fai farw mewn dyled. Aeth yn glaf. Nid gartre yr oedd pan gafodd y strôc, ond yn hela gyda'i feibion yn y bryniau. Aed ag ef i fwthyn bach yr oedd wedi gyrru'r tenantiaid ohono ers blyn- yddoedd. Bu farw'n fuan wedyn. (1 dudalen 259.)