Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HWNT AC YMA YN YR EISTEDDFOD MEISTRES WLATGAR COLEG MERCHED ETH, tybed, yw cyfrinach oed Syr Finsent Bu llawer o holi a stilio i'w gael i'w ddadlenu, ond da1 yn gyndyn y bydd ef. 1 Er ei fod wedi croesi'r ffin," chwedl y bobl oed- rannus, y mae'n dal i weithio a theithio mor hoenus â'r un. Yn Llandrindod, yn chwarae bowls, y clywais amdano ddiwethaf. Serch hynny, methu dyfod i'r Steddfod yng Nghastell Nedd eleni a wnaeth Syr Finsent, a hynny am y tro cyntaf ers dros 50 o flynyddoedd. Y mae'n dda gen i ei fod wedi gwella o'r anhwylder a'i rhwystrodd i ddyfod yno. Yr oedd ei le yn amlwg oherwydd ei absen. O'r Gyngres Geltaidd NEWYDD ddychwelyd o'r Gyngres Geltaidd yn Nulyn yr oedd y Dr. Hartwell Jones, lle cawsai ei anrhyd- eddu â'i ethol drwy bleidlais unfryd, yn llyvydd i'r gyngres am y flwyddyn nesaf. Mawr oedd y llongyfarch arno. Ond mi gredaf ei fod wedi llwyr haeddu'r anrhydedd hon yn Nulyn-yr oedd ei anerchiadau yno gyda'r mwyaf gwerthfawr a draddodwyd i'r gyngres erioed. Ei weld yn mwynhau barn ffraethlym Miss Janet Evans, ar gyswllt y ddrama a'r Eisteddfod, oedd yr olwg olaf a gefais arno, ac yn rhoi geirda hapus i Arglwydd Howard de Walden wrth ei gyflwyno i'r cwTdd. Ar Ynysoedd Aran GYDA llaw, yr oedd Cymry yn asio seiniau eu iaith â seiniau iaith y Gwyddelod mewn lle arall yn Iwer- ddon y mis diwethaf, yn ogystal ag yn Nulyn. Aelodau o Gymdeithas Hynafiaetheg Cymru oeddynt hwy ac fe gyfarfuant yng Ngalwy ac ar ynysoedd Aran-math ar Ynys Enlli gwlad Èireann. Fe fydd y gymdeithas hon yn arfer cynnal ei chwrdd blynyddol y tu allan i Gymru unwaith bob pum mlynedd. Un o ferched y Rhondda DYWEDODD cyfaill wrthyf fod beim- iadu Miss Ellen Evans, ar yr hwian- gerddi a'r adroddiadau, ymhlith y gorau a gynhyrchodd yr Eisteddfod. Un o ferched y Rhondda yw Miss Evans, ac yn ysgol ganolradd Pentre, Rhondda, ac Aberystwyth y cafodd ei haddysg. Er pan etholwyd hi yn bennaeth Coleg Hyfforddi'r Barri, y mae'r athrofa honno wedi gwneud camau breision yng ngwyddor rhoi addysg Gymraeg i ferched o athrawon. Pan oedd y pwyllgor adrannol yn paratoi ei adroddiad ar y Gymraeg mewn addysg a bywyd, Miss Ellen Evans oedd un o'r aelodau mwyaf selog. A phwy ni chlywodd am Gynllun Ellen Evans i ddysgu Cymraeg ? Miss Ellen Evans. 4 Barddes' y Goron ? A WELIR rywdro ferch yn cael ei choroni neu ei chadeirio ? Cafodd o leiaf un ferch eirda am ei barddon- iaeth eleni. Eiddo Miss Dilys Cadwaladr Jones, merch Mr Meredydd H. Jones, Maes-y-don, Cricieth, oedd y bryddest yn dwyn y ffugenw Y Droell Fach," a ddaeth yn bedwerydd yn y gystadleuaeth, ac i Nant Gwynant, cartref ei henaid," y canodd. "Cân brydferth a diddorol iawn," ebe'r Parch. Ben Davies am y bryddest. Y mae Miss Jones hefyd yn ysgrifenwraig storïau byr da iawn, fel y dengys ei gwaith yn Y FoRD GRON y mis diwethaf. Clywaf fod llyfr o'i straeon byr i ymddangos cyn bo hir. Ty hyfryd arlunydd SONIAIS eisoes am Mr. S. Morse Brown, yr arlunydd o Gaerfyrddin. Bûm yn ei gartref bythefnos yn ôl-ty hyfryd wedi'i gynllunio ganddo ef ei hun yn nyffryn Tywi. Dangosodd Mr. Brown imi rai o'i ddar- luniau fu ar ddangos-darluniau ag ôl llaw gelfydd ar bob un ohonynt. Yr oedd yno ddarluniau wedi bod yn holl arddangos- feydd pwysig Cymru, yn y Royal West of England Academy, a'r Royal Society of British Artists yn Llundain. Bu 31 darlun o'i waith yng Nghlwb Celfyddyd Bryste o dro i dro. Clwb yng Nghaerfyrddin PAN fûm yn dysgu celfyddyd yng Nghaerloyw," ebe Mr. Morse Brown wrthyf, mi olygais a chyhoeddi cylch- grawn ar gelfyddyd. Fe ysgrifennodd Mr. Frank Brangwyn, Mr. George Belcher, ac amryw gelfyddiaid adnabyddus eraill i'r cylchgrawn." Gofynnais iddo beth oedd ei gynlluniau am y dyfodol. Fy nelfryd yw gwneud Caerfyrddin yn ganolfan artistiaid gorllewin Cymru." Am brydferthwch y wlad y mae'n trigo ynddi, meddai Credaf fod ffermdai gwynion a bryniau gleision bro Myrddin yn ddiguro i'w peintio." Er pan ddaeth i Gaerfyrddin dair blynedd yn ôl, y mae eisoes wedi trefnu Clwb Celf- yddyd Myrddin, gyda phedair adran iddo, sef drama, llên, cerdd ac arlunio. Yng Nghastell St. Dunawd O HWRLIBWRW maes yr eisteddfod, euthum gyda'r beirdd i hedd a swyn canol oesol Castell Sant Dunawd. Yr oedd gwyr wrth arfau yn rhodio ar ragfuriau'r castell pan gyrhaeddsom y lle. Ond wedi i Sieffre o Gyfarthfa, arwyddfardd yr Orsedd, ateb galwad y porthor mewn hen Gymraeg, dyma'r bont grog yn disgyn a'r porthcwlis yn esgyn i'n gorymdaith ni fynd i mewn. Canai myneich mewn cyflau y Nunc Demitis yng ngolau llwyd y wawr. Dyma Mr. Lloyd George Arglwydd y Castell' a Miss Megan (merch Glyn Dŵr) a Lady Carey Evans (gwraig Glyn Dŵr) ac arglwydd- esau heirdd mewn gwisgoedd cyfnod yn ein croesawu. Y Gwyll hynafol GER ein bron yr oedd gwledd wedi'i gosod-llysywod a chig carw, cig cywion elyrch a phaunod, a phowlenni medd. Wedi anerchiad barddonïaidd gan lywydd y castell, wele ddalennau hanes yn troi, megis, am 600 mlynedd, a chwmni o lowyr ar eu sifft nos yn ymddiddan o'n blaen.