Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYD Y MERCHED. DU, GfTYN a Du-a- Gwyn Gan MEGAN ELLIS YMAE merched Paris unwaith eto yn gwisgo du. Yn y wlad hon hefyd y mae gwn gwbl ddu yn boblogaidd neu ŵn wedi ei hysgafnhau â lleiniau gwyn. Oherwydd y mae pawb yn deall nad oes ond ychydig ddilladau a all edrych yn fwy gwych na'r ŵn ddu. Defnyddiau tenau a geir-siffon, minon, crêpe mân neu organdi. Gyda llaw, organdi du yw y peth ymysg yr ieuanc. DEWIS AT GYDA'R NOS. Dyma lasiau du hefyd. Allaf i ddim meddwl am well dewis at wisgo gyda'r nos na gwn lasiau ddu. Y mae hi'n edrych yn dlws, 'dyw hi ddim yn dangos plygion ac vn well na dim, 'dvw hi ddim vn mynd yn hen." Yr wyf newydd fod yn edrych gwn lasiau ddu o waith cynlluniwr Ffrengig. Y mae'r eddi wedi ei galedu ychydig ac y mae'r sgert yn rhedeg allan yn nifer o nriliau bach at y godre. Ond fe â'r ffriliau heibio, yn ddiau, erbyn y tymor nesaf, pan ddyry patrymau print eu lIe i rai plaen. Y TORIAD NEWYDD. Be fydd y toriad newydd, ysgwn i ? 'Dwyf i ddim yn credu y bydd rhaid inni DYMA WISO DAFFETAS â choler ffriliog gyfaddas un o'r gwisgoedd hyfryd diweddar mewn defnyddiau print du a gwyn. edrych yr un fath â'r llynedd yn debyg i fechgyn b a c h yng ngwisgoedd eu chwior- ydd. Na, y mae'r sgert wedi'i hacio a'r siaced dalog diweddar yn mynd yn llawer gwell gyda'r ffigur hael a digyrrith, a'r troadau naturiol gos- geiddig. Wrth gofio, y mae'r ddwyfronneg a baratoir yn awr yn ddigon cryl 1 gynnal y ffigur heb wasgu dim arno. FFROCIAÜ GWYN HEFYD. Y mae Uu o bobl yn hoff o'r ŵn ddu. Y mae rhai yn caru'r ŵn wen. Rhwng y ddwy daw gwisgoedd prydferth mewn defn- yddiau print du a gwyn. Parthed gwisgoedd gwych, y mae gen- ethod yn dal i garu organdi cryf a siffon wedi'i sythu. Mi welais i un wisg ddawns oedd â'i phedwar pynel wedi eu torri ar ffurf petalau ac yr oedd y rheiny'n gwasgar allan o amgylch y traed fel botasau'r gog. Am wasg y wisg neilltuol hon yr oedd sas siffon melfedaidd gwyrdd-mignonette yn cau â chwlwm mawr ar y cefn. Yr oedd pen y gorsais wedi'i amlinellu â rhuban melfed cul gwyrdd a gasglwyd yn bletion fel pibau organ. Y Gwenyn Fis Hydref. Os ych-chwi am gadw gwenyn yn broffid- iol, rhaid edrych ar eu hôl hwy'n ofalus yn yr Hydref. Oherwydd yr amser honno, pan fo'r mêl yn brin, y mae perygl i'r cychod gael eu heidio gan wenyn estron. Mi gefais i un hydref fy holl wenyn wedi eu curo felly gan wenyn dieithr. Cafodd fy mrenhines ei lladd, a dyma'r gweithwyr yn troi'n fradwyr ac â'u holl egni yn helpu i ddwyn y mêl i gychod y gelyn Gadawyd finnau â chwch gwag. Arferaf yn awr amddiffyn fy nghychod rhag anghaffael felly drwy gau'r holl fyned- feydd oddieithr lle i ddwy neu dair gwen- ynen fynd trwodd ar unwaith. Yna gall y gwylwyr oddi mewn adnabod y gelyn pan ddaw, a chael gwared ag ef. Ond siawns wael iawn sy gan llond cwch o wenyn i gael y gorau ar gannoedd o wenyn dieithr a êl i'r cwch gyda'i gilydd, er iddynt geisio'n ddewr ar y dechrau i'w hymladd. PARATOI AT Y GAEAF. Byddaf yn paratoi'r gwenyn yn yr hydref at y tywydd garw sy'n dyfod. Oherwydd FFRILIAU A BRON-LLIEINIAU GWYNION. Ar y ffroc-gôt wlanen werdd Vr aswy, ceir bron-Uiain myslin gwyn syth. Bywiogir y siwt arocain brown ar y dde gan liain gwddf arffurf rhaeadr. os gadawaf nwync wrthynt eu hunain, mi wn mai ychydig fydd yn aros yn y gwanwyn, a bydd rhaid imi ddechrau o'r cychwyn unwaith eto. Wrth gwrs bydd gwenyn yr haf yn marw ar ddiwedd y tymor, ond y mae'r frenhines a'r gwenyn a ddeorwyd yn yr hydref yn fyw, ac eisiau gofalu amdanynt. Gan fod nifer y gwenyn yn lleihau wedi'r haf, symudaf lond deg ffrâm yr haf i chwe ffrâm y gaeaf. Yna dodaf goed triphlyg o amgylch y fframiau, gan adael lle gwag, a lanwaf ag us. Ond 'fydd hyn ddim yn ddigon. Dodaf dri thrwch o wlanen y tu mewn i galco crai cry, yn orchudd ar bennau'r fframiau. Rhag y glaw, rhaid rhoi llenni ffelt di- ollwng-dŵr dros bob cwch. UN O FFASIYNAU'R. FUNUD-^rholiau o ddefnydd wedi eu c'ustogi o amgylch y gwddw a thros yr ysgwyddau i ffroc frown daffetas, a wisgir ar ddull ffedog. Y mae tlewysau'r slip o danodd yn daffetas lliw hufen.