Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

C'OT A SGERT siersi mân llwyd wedi'i leinio â brown. Y mae'r tu mewniau o grêpe de chine ifor y gellir eu cyfnewid. Gall y gwenyn gysgu'n dawel a chysurus yn awr, a gwn innau y caf haid gre ac iach pan ddaw'r gwanwyn. Cyfaredd Paisarfau. Y mae diddordeb mewn herodraeth ar gynydd. Mewn arddangosfa o beisarfau yn ddiweddar deffrowyd llu o bobl i weld ei swyn. Er na allwn i gyd feddu ar arfbais a helm a phethau felly, gallwn i gyd fwynhau eu cyfaredd. Gellwch addurno llawer o bethau yn y tv â llewod a dreigiau, cestyll bach, plan- higion neu adar, tariannau, penwnau a rhubanau wedi eu brodio mewn sidanau ac edafedd llachar neu mewn paent olew disglair a wasgwyd drwy batrwm. YN Y PARLWR GORAU. Ffordd wych yw hon i addurno clustogau, cefnau cadeiriau, taenlenni, a matiau bwrdd. Gellid peintio cynlluniau felly ar gysgodau lamp, sgrinau tân a hyd yn oed ar y dodrefn. Y mae llenni lliain crai yn edrych yn dda â'r troadau a dail heraldaidd wedi eu brodio hyd yr ymylon mewn edau dew. Os ych chwi'n hoffi unrhyw arfbais ar- bennig, copïwch hi yn gyntaf ar bapur, a'i phwytho wedyn. Mi adwaen i ferch sydd mor hoff o deulu Owain Glyn Dŵr nes copio'u harfbais ar bynel Uiain. Fframiodd hwnnw â moldwaith du gyda llinell fân fân o aur oddi mewn, ac y mae'r sampler yn awr yn crogi dros silff-ben-tân y parlwr gorau. Ffordd dlos gyda ffrwythau. Er mwyn cael newid, ac yn arbennig er mwyn cael y plant i fwyta ffrwythau, syniad hapus yw gosod dysgl o ffrwythau yn ganolbwynt y bwrdd adeg parti neu swper, ond wedi eu gwneud yn llachar wyn, ac yn disgleirio fel pe byddai rhew arnynt. Gellir cymryd sypiau o gyrains cochion neu geirios, neu gangau o fwyar duon, yn ôl fel y bo'r mis. Yn gyntaf, curer gwyn wy yn ewyn tew, yna trochi brws ynddo a'i daenu'n ysgafn hyd y ffrwythau. Ysgydwer siwgr castor dros y cwbl a chofio rhoi digon, yna gadael iddynt sychu. Taener dail gwyrdd iraidd ar ddysgl fas, a rhoi'r ffrwythau'n sypiau arni. Os gyda'r nos y bydd y pryd bwyd, y mae golau uwchben y ffrwythau yn ychwan- egu at eu tlysni, neu fe ellir rhoi pedair cannwyll ar y bwrdd o'u hamgylch. Pan na aller gael ffrwythau gardd, y mae sypiau o rawnwin gwyrdd a phorffor wedi eu darparu'r un modd yn gwneud dysgliad hardd iawn ar ganol bwrdd. Y mae'r ffrwythau yr un mor fwytadwy wedi eu darparu fel hyn, ac os rhywbeth y mae'r siwgr yn ychwanegu at eu blas. Os yw'n bosibl, rhodder eu dail eu hunain gyda grawnwin bob amser. Amser brecwast, cinio, tê a swper mynnwch wrth eich llaw bob amser LLYFR PRYDIAU BWYD Gan MYFANWY EAMES Hughes a'i Fab, Cyhoeddwyr GWN HWYRNOS DELAID daffetas du wedi'i brodio wrth gynllun mân â phwythau ariannaid. Y mae'r darn ar yr ysgwydd yn orgarna gwyn. a cheir drab rhaeadr-ffurf o'r un defnydd ar gefn y sgert yn disgyn yn odre i'r ddaear. Meddu gwallt hardd ydyw un o gaffaeliadau mwyaf ein hoes, ac y mae modd peri i unrhyw wallt edrych yn hardd. Ychydig ddiferynnau o Rowland's Macassar Oil a'i rwbio'n dda i groen y pen bob dydd-fe sicrha hyn fod y maeth angenrheidiol yno, y maeth sy mor fynych yng ngholl oherwydd golchi neu oherwydd cyflwr drwg. Ar gael gan bob cemist neu siop neu dorwyr gwallt, pris 3b. 6d., 7b., a lOs. 6d. Coch at wallt tywyll, aur at wallt golau neu wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 22, Laystall St., Rosebery Avenue. London, E.C.I. J. H. & CO.