Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byd y Ddrama Dramau Gwreiddiol Gwvch "y MAE pregethau Cymru," meddai'r Athro Ernest Hughes yng nghyfarfod y Cymrodorion yng NghasteU Nedd, "y mae pregethau Cymru yn ddramâu byw ond y mae dramâu Cymru yn bregethau marw." Yn y blynyddoedd sy'n dyfod pan fydd rhyw ŵr â chanddo ddiddordeb yn y cwestiwn yn ceisio dyfod o hyd i risiau datblygiad chwarae drama yng Nghymru, bydd rhaid iddo gyfaddef bod yr actio eleni wedi syrthio i lawr dros nifer o'r grisiau yr esgynnwyd ar hyd-ddynt gyda'r fath ganmoliaeth er dechrau'r ganrif hon. Carwn pe bawn yn gallu cymharu safon chwarae'r eisteddfod yng Nghastell Nedd a'r hyn a gafwyd yn y gystadleuaeth ym Mangor ugain mlynedd yn ôl. Os oes gan ddarllen- wyr y nodiadau hyn atgofion gweddol glir am chwarae drama'r eisteddfod honno, carwn iddynt ysgrifennu ataf. Darllenais ymron bopeth a ddywedwyd am y ddrama yng Nghastell Nedd. Y ganmoliaeth fwyaf gwag a di-fudd oedd honno a ddaeth oddi wrth yr awdlwyr, y telynegwyr, y pregethwyr a'r Saeson oedd heb fod yn y perfformiadau hynny. Ennyd a fu ei lanach Gyda'r sbêd a'r bweed bach ? Hy ei anian mal chwannen, Ac aur y banc ar ei ben Wedi rhincian ei ddannedd, Tyllu wnaeth fel Castellnedd. Yn wallgo fel y Pwyllgor A rhuo mal tonnau'r mor, Bu'n dyfal ymbalfalu Yn y traeth mewn gofid tru. Toll yn wir ydoedd tyllu Yn ddwys i wneud ogof ddu. Colyn cyrraedd tir caled Nes iddo sbwylio y sbêd, A'r ddolen lac yn cracio Yn hy wrth grafu y gro. Dryllio mewn nwyon drewllyd A thwrw erch wnâi Arthur o hyd, A gwiw dywedyd ar goedd Fel un oedd am flynyddoedd Yn y niwl yn ei wylio,- Trwm fu ei ergyd bob tro. Yn addas fe heneiddiodd, A'i drem i'r gorwel a drodd. Ei gorff oedd flin wrth orffen,- Yfodd beint, crafodd ei ben. Y DATHLU. VN awr mae'r ogo'n barod, Datgenir yn glir ei glod Yn glau iawn gan hufen gwlad,- Amlwg a dwys fu'r teimlad. Ogof Arthur-parhad o'r Eisteddfod Gan RHYS PUW Y peth gorau a ddarllenais oedd hwn, ynglŷn â'r brif gystadleuaeth chwarae drama, Os oedd y heirniaid mor gydwybodol sicr nad oedd y chwarae'n deilwng o'r Eisteddfod Genedlaethol, pam nad ataliasent y wobr ? Pam? "Cwm Glo" YN syn, wythnos ddu ein chwarae oedd wythnos addawol ein hysgrifennu drama. Nid oes angen imi fynd ar ôl cwestiwn y ddrama wreiddiol. Heb os nac oni bai dyma'r ddrama fwyaf gelfydd ei chynllun a mwyaf argyhoeddiadol ei chynnwys a ymddangosodd hyd yn hyn yn y Gymraeg. Gwaith drama yw portreiadu bywyd, medd ein beirniaid. Eto, am fod y ddrama hon wedi adlewyrchu bywyd Cwm Glo mor ffyddlon yn absen unrhyw lathen fesur, rhwystrid ei chynnig i'r byd. Dramau i blant CYFADDEFODD Mr. Ernest Hughes wrthyf fod y ddrama athrylithgar hon wedi ei gadw'n effro'r nos, nid yn unig eleni ond hefyd ddwy flynedd yn ôl pan fu'r un ddrama yn gyfrannog o gyffelyb driniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberafan. Dwy ochr y wlad, deweh i wledd." ­Dewch yn llu, Dewch yn llawn gorfoledd. Yfwch i'r campwaith rhyfedd,- Mwya'r byd tu yma i'r bedd. Yn ebrwydd dros y llwybrau-fe welwyd Rhyw fìl o wynebau Ifanc a hen yn wenau Yn y stwr a heb dristáu. Er y stwr, daeth pob gẃr gwadd Yn hoyw drosodd i'r Neuadd Heb ofid cudd na lludded I fwynhau y sbri a'r spread." Yno'n goeg 'roedd sawl mun gadr O hil Cymru benbaladr. Cain oedd eu menyg gwynion Yn y te heb ddim put on." Brwnt y llawr er maint y brí-chwarae teg! Ni thycia maneg â gwaith cymoni. Yno'n wancus gan lyfu gwefusau 'Roedd merched heirdd a beirdd wrth y byrddau, A cherddorion â'u doniau-yn y wledd Yn awr eu buchedd yn llathr eu bochau. Ennill amen wrth fwyta'n llyminog Yn llon a hoenus wnâi'r llu newynog Tomen aeth pob rhyw stumog;- mawr fu'r steil, A staen y beil ar westeion boliog. A gwiw cofio'r seigiau hallt Yn union yn null GwenalIt,- Rhoi byr gatalog o'r bwyd Yn rhydd, fel yn ei Freuddwyd." Llawer fu'n galw am erfin—am benwaig Am bannas a chennin, A gwnaeth llawer pererin Yn siwr o dast sawl sardîn. E wanodd sawl gwr hynaws Ei fraich hir am fara 'chaws. Llyncwyd yn union lawer poloni, Torrwyd a rhannwyd y macaroni Ennyd yn sionc fel poni-aeth pob claf, Cofiaf yn bennaf heb ddim seboni. Yno braidd 'roedd pawb mewn brys, A molwyd y bwyd melys,- Jamiau, jeliau lawer Yn hudol, siriol fel sêr. Mynd oedd ar y plym and apl, Unwedd einioes y peinapl. Hir fu'r waedd am bob orange A maith fu'r cri am blanc mange." Er amlhau o'r marmalêd, Ochain fu deiliaid syched. I'r rhain, ym mhang eu hangen, Siom poeth oedd blas y siampên. Bu mynd ar y wisgi,—Er hyn oU, Prin iawn oedd y brandi, Ac er maint eu braint a'u bri, Siẃr oedd pobun o'i sierri. Buan o'r seler aeth pob dyferyn, A sbri tra digri oedd gweled deigryn Yn cronni yn lli, h llyn-dan bob tâl Yn anawadal, i ddiflannu wedyn. J Bu adeg pan gododd nifer o bobl yn erbyn Ibsen; y mae cwmnîau Cymru yn chwarae ei waith ef heddiw a phregethwyr Cymru'n gwrando arnynt ac yn rhoi barn arnynt mewn cystadlaethau drama. Meddyliwch am y cynnydd mewn ysgrif- ennu dramâu i blant. Enillodd Tomrosa y wobr i Gwmtwrch, Morgannwg, yn yr adran chwarae drama'r plant, eto nid oedd Tomrosa ei hun ond yn drydydd yn y gystadleuaeth ysgrifennu drama wreiddiol i blant yng Nghastell Nedd. Ar y radio I>ETH mwyaf calonogol yr Eisteddfod i mi oedd y gystadleuaeth ysgrifennu drama radio. Cafodd Mr. J. Eddie Parry ganmoliaeth aruchel am ei waith a gallaf sicrhau fy narllenwyr fod yn eu haros, pan ledaenir Ofn," yr ymgais orau a wnaed hyd yn hyn i greu traddodiad arbennig a Chymreig ym myd y radio. Yr oedd hefyd, yn ôl y feirniadaeth, nifer o ddramâu Cymraeg yr anogai Mr. Ernest Hughes eu hawduriaid i'w danfon i'r B.B.C. yng Nghaerdydd. Cyn belled ag y mae ymgais ar ran yr Orsedd i gofleidio'r ddrama ni fedraf wneud yn well na rhoi ichwi ymadrodd craff Mr. E. Morgan Humphreys, Nid oes gennyf fwy o gymhwyster na'r Orsedd i ymdrin â chwestiwn y ddrama." Ysgrifennu drama yn gwella, a chwarae drama yn dirywio. Yn wyneb yr ym- ffrostio gwag ar ran cynifer o gwmniau Cymru 'rwy'n diolch mai fel yna y mae pethau. Y mae cyfiawnder yn y drefn. Yng nghanol y tarth gorweddai Arthur Mewn poenau duloes heb goes yn gysur. Bu'r ogof yn gof i gur-a daeth dig I wên garedig y blin greadur. Fel siwrnai nant i'r heli, Neu fel caws i fola ci, Yn hawdd iawn ni ddaw yn 61 Wirod y wledd anfarwol. EPILOG. (Fel Pennyd mad Caradog, Pŵl yw awdl heb epilôg). O'i warth cyfododd Arthur, A'r ogof i'w gof yn gur. Rhegodd y dorf a'r ogof Yn rhydd iawn-nid yn rhy ddof. O'i fron, o'i anfodd, hedodd ochneidiau Fel nôd anorfod ei ddrylliog nerfau Yn friw a hen aeth draw i Fryntenau 0 bennyd ei fyd a sŵn gofidiau, Ac yn hedd y llwyni cnau-daeth yn 61 Ryw nablau siriol o'r hen bleserau. Ond och! Fe chwilia'r awen am loches Union fel chwain neu anghenfil Loch Nesa. Er disiewi a rhewi o'r awen, Da ydyw mynd a dywedyd Amen.