Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Urddas Bonheddig Castell y Fan AR fryncyn ar gwr dwyrain Caerffili, saif Castell y Fan, fu am gryn amser yn gartre V hen fywyd Cymreig. Câi beirdd a thelynorion groeso yma, a cheir cofnodiad mewn hen lawysgrif am Eisteddfod fu yno yn 1580,-adeg teyrnasiad Elisabeth. Dywaid Castellydd, yn ei lyfr ar Hanes Caerffili, mai Edward Meyrick (bardd a noddwyd gan Syr Edward Lewis y Fan) a enillodd y gadair yno. Achubwyd.y gadair hon rhag ei dinistrio, pan dynnwyd rhan o'r Castell i lawr yn nechrau'r 17 ganrif, a daeth i feddiant ficer Llanfihangel y Fedw. Y castell a'r colomendy. Y mae'r Castell mewn adfeilion ers dros gant a hanner o flynyddoedd bellach, ag eithrio un gangen ohono lle trig ffermwr a'i deulu. Rhaid bod yma unwaith gastell hardd, gyda'i neuadd wledda helaeth, ei niferus ystafelloedd, ei stablau, a'i feudai mawrion. Y mae iddo un nodwedd arbennig sef y colomendy crwn-yn ddiamau un o'r adeil- adiu perffeithiaf o'i fath. Pe caech fynd i mewn iddo, chwi welech adeilad cerrig- heb yr un trawst na darn o bren ynddo, ag eithrio'r drws-yn cynnwys mwy na mil 0 gelloedd bychain. Yng nghanol y to crwn ceir twll tua llathen yn groes ac o'r tu allan ceir dwy silff, yn cylchynnu'r to. Cedrych ap Gweithfoed. Hannai teulu'r Lewisiaid, yn ôl Dafydd Morgannwg yn ei Hanes Morgannwg, o Gweithfoed Fawr, tywysog Ceredigion a gydoesai ag Edgar, brenin y Saeson. Bu i Gedrych ap Gweithfoed gynorthwyo Robert Fitzhammon i oresgyn Morgannwg, a daeth cantref Senghenydd yn eiddo i Gedrych trwy law Fitzhammon. O'r Cedrych hwn yr hannoedd y Syr Edward Lewis hwnnw a adeiladodd y castell ac a sefydlodd deulu'r Fan. Bu ef yn uchel siryf Morgannwg deir- gwaith, yn 1548, 1555, a 1559. Adeiladwyd y castell felly tua dechrau'r 15 ganrif. Tybir mai o gerrig a gludwyd o Gastell Caerffili, a adawyd yn ddiamddiffyn ar ddiwedd y 14 ganrif y'i gwnaed. I brofi hyn honnir mai oddi yno y cafwyd y cerrig congl i'r Fan ac mai yn null y Tuduriaid yr adeiladwyd ef. Y Lewisiaid. Yr oedd y Lewisiaid yn amlwg ym mywyd Morgannwg. Bu sawl un ohonynt yn uchel siryf o 1548 ymlaen. Nid hwyrach mai'r olaf oedd Mr. Henry Lewis, Pantwynlas, ger Caerdydd, fu'n uchel siryf yn 1858. Noddent hefyd feirdd a thelynorion, a bu un o'r telynorion-William Jones-yn canu'r delyn o flaen Siôr III, brenin Lloegr. Yn un o dribannau Morgannwg, ceir cip ar agwedd arall ar fywyd y sir yn adeg ffyniant y Lewisiad Tri dawnsiwr gora yng Nghymru- Syr Charles o Gefen Mabli Sgweier Lewis Wych o'r Fan A Syr John Carne o'r Wenni. Gan Dafydd J. Miles Bu rhai o deulu'r Fan, o dro i dro, yn aelodau seneddol dros Forgannwg neu dros Gaerdydd. Yr oedd un Thomas Lewis yn aelod seneddol yn 1756, a hwn oedd yr olaf o'r Lewisiaid i drigo yn y Fan. EfaUai mai'r cyntaf ohonynt i ennill etholiad seneddol oedd George Lewis, aelod o Chweched Senedd Elisabeth yn 1586-7 a'r olaf-Wyndam Lewis, aelod seneddol yn 1820. Yn wraig Prifweinidog. Cartref Wyndam Lewis oedd Mynydd Bach ger Caerdydd, er yr adnabyddid ef fel Wyndam Lewis y Fan. Yr oedd yn ŵr blaenllaw yn amser y Frenhines Victoria. Ei weddw ef a ddaeth yn wraig i Disraeli, yr unig Iddew i fod yn Brifweinidog Prydain. Brigyn o'r un teulu oedd hwnnw a syl- faenodd Ysgol Ramadeg Pengam, dyffryn Rhymni. Ond gyda golwg ar Lewisiaid y Fan, edrydd Dafydd Morgannwg fel y daeth eu tiroedd helaeth ym Morgannwg yn eiddo i hynafiaid Iarll Plymwth o San Ffagan, perchennog presennol Parc y Fan. Dyma'r dyfyniad Thomas Lewis o'r Fan a St. Ffagan, oedd Jacobite selog. Priododd ag Elisabeth Tremoxer o St. Martin's-in- the-field, a chawsant un plentyn, sef Elizabeth, yr hon pan yn 21 oed a briododd ag Other Windsor, trydydd Iarll Plymouth. Other Lewis Windsor, pedwerydd Iarll Plymouth, oedd Taid Arglwyddes Harriet Clive, Barwnes Windsor. Perthyn i'r un teulu yr oedd Robert Chve, y milwr fu'n ymladd dros Loegr yn yr India. Hanner-Cymro, heb fedru'r iaith yw Mr. Meredith, ffermwr presennol y Fan, ac y mae o'r un cyff â George Meredith, y nofelydd Seisnig a ymfalchîai gymaint yn ei dras Cymreig. Saif Castell y Fan ar fryncyn ar gwr dwyrain Caerffili. Gadewch inni sefyll o flaen y Colomendy. Ymegyr cwm Rhymni ar wastadedd Gwynllwg ar y dde, gyda Chasnewydd-ar-Wysg yn y pellter. Dacw lofa'r Bedwas o'n blaen, a'r tip rwbel hyll a helaeth ar y mynydd uwch ei ben. Yn syth o'n blaen, ar draws gwastad Caerffili, gwelwn lofa Llanbradach. A dyna gwarr (chwarel) anferth Pwll-y- pant, ac o'i flaen bont fawr Pwll-y-pant, y bu trenau glo yn croesi ar hyd-ddo, hyd yn ddiweddar, o Fynwy i Forgannwg. Eto ychydig i'n chwith saif glofa Abertridwr, ac nid anodd gweld mai glofa sy yno. Caeau gwyrddlas. Ag eithrio'r creithiau hyn ar wyneb y wlad, golygfa hardd yw hon ar lechweddau gwyrdd Caerffili-dyna gapel y Watford ar lechwedd Mynydd Caerffili, a chapel Groeswen ar odre Mynydd Mayo, y naill a'r llall yn agos-gysylltiedig ag arwyr diwygiadau crefyddol a gwleidyddol Cymru. Y mae amryw o ddisgynyddion gwahanol ganghennau'r Lewisiaid yn y cylch, ond bellach Saesneg yw eu hiaith, ag eithrio rhai o'r rhai hynaf, a chollwyd y diddordeb yn yr hen ddiwylliant Cymraeg. Adeiladwyd tai newyddion­laweroedd ohonynt-ar y Uechweddau o gylch Caerffili. Ond am y Fan, ni thorrir ar draws gwyrdd- lesni'r caeau a swyn yr hen adfeilion gan lef uchel y tai ffasiwn newydd. A diolch am hynny!