Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bro fu'n Gynefin Abadau a Saint Gan John Morgan (Buallt) Glyn Ebwy, Mynwy AR ychydig godiad tir mewn llecyn tlws, rhamantus, ar gwr gogledd cantref Buallt, saif eglwys hynafol Llan Afan Fawr. Ceir rhyw bedair milltir rhyngddi a glan afon Wv, a thua deg o Landrindod. Cyfagos iddi hefyd yw pentref Llwyn Llwyd, fu'n gartref a chynhaliaeth i dros 50 o deuluoedd yn yr amser gynt, yn gryddion teilwriaid, ambell saer a chwper, a'r rhelyw yn weithwyr amaethyddol. Heddiw, gan mwyaf yn adfeilion, drych trist ydyw, fel llawer pentref arall yng ngwlad Brychan, o enciliad diwydiannau gwledig Cymru. Eithriadol denau yw'r bob- logaeth yn y fro. Pwy oedd Afan Y mae i eglwys Llan Afan Fawr hanes pwysig i'w gorffennol. Sylfaenwyd hi gan Afan Sant o 500 i 540 o oed Crist. Yma hefyd y'i claddwyd fel y tystia'i garreg fedd sy'n aros. Y mae'r garreg yn rhyw saith troedfedd o hyd, tair o led, ac o bedair i chwe modfedd o drwch. Ceir yn argraffedig arni Hic jacet Avanus Sanctus Epis- eopus" (Yma y gorwedd yr esgob Afan Sant). Bernir bod Afan Sant yn fab i Cedig ap Ceredig ap Cunedda Wledig, a'i fam oedd Tegwedd Santes. Dygir enw'r sant hwn hefyd ar Lanafon y Trawsgoed, Ceredigion. Hafod yr Ancr Credaf y cadarnheir y farn bod LlanAfan Fawr yn esgobaeth yn nyddiau ei sylfaenydd drwy'r enwau yn yr ardal oddeutu'r lle Nant Esgob, Cwm Esgob, Derwen Afan, Perth y Sant. Dywaid traddodiad y bu i Afan ei ferthyru gerllaw y lle olaf. Yn nes ymlaen yn y cyfnod Catholig, ymddengys bod amryw o eglwysi gogledd Bryoheiniog a llawer o'r tiroedd hefyd dan Tu fewn a thu allan i Eglwys l.lnnafan Fawr, Brycheiniog. nawdd abadau Ystrad Fflur. Fel y tystia enwau llawer o'r amaethdai yn y cantref heddiw Tir Abad, Wern Mynach, Hafod yr Ancr, Cefn Llan. Cyfieithydd y Datguddiad Difodwyd y rhan fwyaf o'r hen eglwys trwy atgyweiriad. Cyfieithodd Thomas Huet o'r TSr Mawr, prif gantor Mynyw, lyfr y Datguddiad i'r Gymraeg yn nhestament Wilham Salsbri yn 1567. Bu farw yn 1599, a chladdwyd ef yn hen gangell yr eglwys. Gwarth i'n cenedl, yn siwr, yw na wyddys hyd sicrwydd le ei argel wely yn y fynwent uchod heddiw. Bu i un o arglwyddi Maesyfed, tua chyfnod y croesgadwyr, yn ôl traddodiad, gloi haid o'i filgwn yn yr eglwys dros nos. Y bore nesaf, cafodd hwynt oll yn gynddeiriog a tharawyd yntau yn ddall. Anogwyd ef i bererindod edifeiriol tua. Jerusalem gwmaeth felly ac adferwyd ei olygon. Bu i Buritaniaid y plwyf hwn ddioddef erledigaeth o'r fath drymaf yng Nghymru yn ystod y 17 ganrif. 0 barth i'r eglwys, bernir yr adeiladwyd hi tua'r 14 ganrif. Fel y'i gwelais yn 1870, cyn yr atgyweiriad, yr oedd yn debycaf o ran maint i eglwys gadeiriol. Cadernid ac ehangdra oedd ei phrif nodweddion yr oedd iddi gangell o ryw 60 i 70 troedfedd mewn hyd a diau y gallai gynnwys mil 0 gynulleidfa. Tŵr petryal hefyd eithriadol o uchel ag ynddo bum cloch bersain, cymun- rodd o'r 18 ganrif a haul-fynag ar ei drum. Diaddurn, llwydaidd a llethol drymaidd o'r tu mewn oedd yr eglwys. Bu'r atgy- weiriad yn 1886, pryd y'i byrhawyd o 30 troedfedd, a gwnawd y tu fewn yn llawer mwy cysurus a phrydferth. Er hyn i gyd, deil eto ei hagwedd hynafol, a lefara wrthym o'r gorffennol pell gan dystio i'w phwys cyntefig. Ymneilltuwyr, heddiw Dywaid hanes fod addoli croesau mewn bri yn y plwyf, fel y dengys yr enwau Maes y groes isaf a'r uchaf, Groes Wen, a bagad eraill yn y cantref. Eto ymneilltuwyr fel corff yw'r trigolion. Cymraeg pur oedd iaith yr aelwyd, yr efail, a'r addoldy hanner can mlynedd yn ôl, ond blin canfod ei bod yn graddol ddi- flannu o'r plwyf heddiw. Priodol, hwyrach, yw gofyn pa un o'n mudiadau Cymreig a enfyn genhadon i'r fro i'w deffrôi a cheisio adennill ei diddordeb ym mhynciau llosg ein cenedl yn y.cyfnod hwn, gan mai Cymry o waed pur a thra rhydd o gymysgryw yw'r bobl.