Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PREGETHWR A CHYMDEITHAS YN BRIF DIDDORDEB IDDO Ei lyfr huawdl ar Grist fel Diwygiwr PREGETHWR â'i ddiddordeb pennaf mewn pynciau cymdeithasol yw'r Parch. J. H. Howard, ac y mae Jesus the Agitator (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 4/-) yn cynnwys deuddeg o anerchiadau sydd wedi eu traddodi o'r pulpud, bob un ohonynt yn cyffwrdd â bywyd heddiw. Nid pregethau sychion mo'r un o'r anerch- iadau hyn, ac nid rhaid cytuno â'r agwedd a gymer yr awdur i'w mwynhau yn drwyadl, canys y mae Mr. Howard yn huawdl wrth ysgrifennu. Fe groeshoeliwyd Crist," meddai Mr. Howard, am ei fod yn aflonyddwr yn chwyldroadwr." Fe gytuna Uu â Mr. Howard, ond tybed a eUir yn deg honni mai dyma farn yr Eglwys Gristnogol ? Am Grist fel diwygiwT cymdeithasol y sonia Mr. Howard, a dywaid fod y neb a wêl y bobl gyffredin trwy lygad Crist un ai'n torri eu calonnau neu'n troi'n aflonydd- wyr cymdeithasol. A yrrwyd Robert Owen o'r Eglwys ? Cyfeiria Mr. Howard at Robert Owen, ond prin y mae'n gywir dweud mai clerigwyr (ecclesiastics) a yrrodd Robert Owen o'r eglwys. Dyma a ddywaid Robert Owen ei hun, yn ei Hunangofiant: Yr oeddwn yn ceisio darganfod y wir grefydd, ond yr oeddwn mewn penbleth am fod pob sect drwy'r byd y darllenais amdani yn hawlio mai ganddi hi yr oedd y wir grefydd. Astudiais a chymharu'r naill gyda'r llall, canys yr oedd tuedd grefyddol gref ynof. Cyn gorffen fy ymchwil, bodlonais fy hun fod pob un ohonynt wedi tarddu o'r un ffynhonnell, a'u hamrywiaeth o'r un dychmygion gau o eiddo'n hynafiaid. Gyda gofid mawr ac wedi brwydrau meddwl hir, y gorfu i mi gefnu ar fy ar- graffiadau dwfn cyntaf o blaid Cristionog- aeth." Teg a chraff DYRY Mr. Howard lu o enghreifftiau o'r drygau sy'n poeni cymdeithas heddiw, canys y mae'n sylwedydd craff, ac yn gwbl anfodlon ar bethau fel y maent. Fel pregethwr a diwygiwr yr edrych ar bethau, nid fel hanesydd ac economydd; ac y mae'n deg â mudiadau nad yw'n cytuno â hwynt. Y mae ei gydymdeimlad yn eang. Sonia am Lenin, a dreuliodd dros ugain mlynedd mewn gwahanol garcharau ac mewn alltud- iaeth Fe'i dedfrydwyd i farw fwy nag unwaith, ac fe welodd â'i lygaid ei hun grogi ei frawd ar orchymyn y Czar. A'r bore hwnnw, dechreuodd Chwyldro Rwsia yng nghalon llanc deunaw oed. Adolygiad gan PERCY O. JONES Fe ddysgodd y buasai bywyd y tad bach yn gwneud iawn am farwolaeth brawd. Ac yn ystod y 30 mlynedd a ddilynodd, ni wanhaodd yn ei bwrpas erch. Ni wn ba faint o ddarllenwyr Mr. Howard a aU dderbyn yr eglurhad yna ar chwyldro Rwsia, serch hynny. Gobaith a hyder Y MAE anerchiad arall yn profi nad yw caethwasiaeth yn amhosibl mewn gwlad Gristnogol: "Filoedd o flynyddoedd cyn dyddiau John Brown, Lincoln a Wilberforce, dyna dywysoges Eifftaidd yn rhyddhau caethwas (Moses). Ac eto 2,000 o flynydd- oedd ar ôl Crist, y mae dros 3,000,000 0 gaethweision yn y byd. Lawer ohonynt yn byw yn Abyssinia Gristnogol, lle y gwerthir ac y prynir hwynt yn y farchnad agored." Y ddwy bennod fwyaf diddorol a llawnaf yw'r ddwy olaf, a'r rheini sy'n cyfleu cenad- wri'r awdur orau. Ac y mae tinc gobaith a hyder yn glir yn y bennod olaf. 200 o ganeuon Gwyl Ddewi WRTH gyhoeddi'r caneuon a ddewiswyd ar gyfair cyngherddau Gwyl Ddewi yn ysgol Llanycrwys, 0 1901 i 1920, fe wnaeth Mr. Dan Jenkins gymwynas â phlant Cymru. Fe roes mewn un gyfrol dros ddau gant o ganeuon i feithrin yr ysbryd Cymreig yn y plant, wedi eu cyfansoddi yn arbennig ai gyfair y cyngherddau. Y mae amryw o'r caneuon hefyd yn waith prifeirdd ein cenedl. Syml yw llawer o'r brydyddiaeth, gwaith prydyddion cefn gwlad, yn sôn am ambell hen gymeriad gwreiddiol neu yn disgrifio hen arferion. Yn wir, y mae'r caneuon cartrefol hyn yn ychwanegu at ddiddordeb y gyfrol, o achos fe anedlir ynddynt yr ysbryd gwir Gymreig ac y mae blas y wlad arnynt. Arferion a bwydydd NID moli'r gorffennol mewn termau cyffredinol y mae'r beirdd hyn, ond sôn am bethau ac arferion a oedd yn rhan o fywyd Cymru gynt. Son am yr hen fwydydd syml, am ddodrefn ty a chelfi fferm, am ddiwydiannau a chrefftau sydd wedi colli, am y cwrw bach," y gweld," a'r briodas ar geffylau disgrUìo'r diwrnod cneifio, gwlana, dyrnu â ffustau, y fuddai dwmp, yr odyn faes, y crochan lliw, y corn medi, a Siôn segur sôn am y dillad a'r modd y difyrrai'n hynafiaid eu hunain ar hwyrnos gaeaf. Yn aml y mae tinc hiraeth yn yr odlau. Heblaw'r caneuon, ceir ychydig o hanes plwy Llanycrwys, a diddorol iawn yw'r casgliad o eiriau a brawddegau llafar gwlad. Ar ddechrau'r llyfr y mae Annerch i'r Ifanc gan Bedrog, ac ysgrifenna Anellydd air i'r plant am Ddewi Sant. Os rhoddir i'r gyfrol hon y croeso a haedda, fe fydd yn sicr o fod yn help i ennyn yr ysbryd Cymreig ymysg plant Cymru. Cy- hoeddir hi gan Wasg Gomer, Llandysul, a'i phris yw 2/6 mewn clawr papur a 4/- mewn byrddau. Erthygl Mr. Bob Owen RHIFYN dau can mlwyddiant Elis Wynn yw rhifyn Gorffennaf o'r Journal of the Welsh Bibliographical Society, ac fe gy- hoeddir, am y tro cyntaf, restr o'r Uawsgrifau a adawodd awdur y Bardd Cwsg ar ei ôl. Ysgrifenna'r Archiagon A. Owen Evans yn y Saesneg ar gyfraniad Elis Wynn i lenydd- iaeth yr Eglwys, ac y mae gan Mr. Bob Owen ysgrif Gymraeg ddiddorol dros ben ar "Wlad Elis Wynn." Tair stori'r "graith Las" TAIR stori, neu nofelau byr, a digon o ddigwydd ynddynt yw'r Graith Las gan J. E. Williams (Gwasg Aberystwyth, pris 2/6), a'r stori gyntaf sy'n rhoi i'r gyfrol ei henw. Y mae'r storîau hyn wedi eu hysgrifennu'n rhagorol a'r awdur wedi llwyddo i roi llawn cymaint o fater ym mhob un ohonynt ag a geir mewn aml nofel saith a chwech. Adroddir pob stori yn gwbl ddiwastraff. Y mae antur a dirgelwch ym mhob un. Am ferch o sbiwr y mae'r stori gyntaf, a stori gyffrous iawn ydyw. Y mae'r Hen Oriawr Aur" yn llawn mor gyffrous ac efallai'n fwy anhygoel. Ond y stori y cefais i fwyaf o bleser wrth ei darllen yw Carcharorion y Morfa," a go brin y medr yr un darllenydd adael i hon wedi'i dechrau nes cael goleuni ar ddirgelwch y ty gwag. Syniad gwych oedd rhoi map ar ddechrau'r stori hon. "Dial y Uadron" STORI antur i blant yw Dial y Lladron (gan E. D. Rowlands o Wasg y Bala pris 2/-) ac am fywyd gwledig yn y ddeu- nawfed ganrif y mae'n sôn. Enillodd wobr Eisteddfod Genedlaethol yn 1932. Hanes teulu fferm yn ceisio trechu lladron o hil y Gwylliaid Cochion a geir, ac ymosodiadau'r lladron mewn cwm diarffordd yng nghesail yr Aran. Disgrifir aml ymladdfa ffyrnig, ac y mae'r stori yn llawn o ddigwydd.