Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Chwilio am Fedd Hedd Wyn — ỳarhad Wedi i'r tanio beidio, dringais i fyny i ddiogelwch adfeilion y neuadd ac eistedd yno ar ddarn o garreg wastad. Gwelais nad oedd fawr gobaith am gael gafael ar fedd Hedd Wyn, ac nid oedd gennyf yr un blodyn i roi arno pe gallwn chwilio amdano. Bûm yn eistedd ar y fainc garreg honno am dipyn i gasglu fy meddyliau, ond bob yn dipyn gwelais fy mod yn eistedd ar garreg nadd a llythrennau breision arni, ond yr oedd wedi hollti ar ei thraws. Yr oedd y golau'n rhy wan i'w darllen i gyd, ond 'rwy'n cofio'r geiriau cyntaf yn iawn PACATA EUROPA SUBVERSO NAPOLEONTE. Maen ydoedd wedi ei naddu'n dyst yn 1820 fod muriau Ypres wedi eu cadarnhau bellach ac yn gorchymyn i'r dinasyddion dedwydd" ymdawelu yn eu diogelwch yn yr Ewrob heddychol ar ôl tranc Napoleon. Yr oedd Ypres yn ddiogel byth mwy. Gwilym I oedd yn annog gwyr Ypres i ymddiried ym muriau newydd y ddinas a'i allu ef, a gellid tybio bod y milflwyddiant wedi gwawrio. Papur Cymraeg. Ymhlith y papurau a ddaethai am y blodau yr oedd rhifyn neu ddau o bapur yn dwyn yr enw Y Deyrnas. Er mai John Bull a'r Daily Mail ydoedd clasuron y Salient," nid oeddwn i'n gallu eu darllen ac nid oedd fawr o flas ar Y Deyrnas ychwaith, ac mae'n debyg yr anghofiaswn y cwbl amdano oni bai am un erthygl ynddo gan y golygydd ar Cas gwr na charo'r wlad a'i maco." Nid oedd dim newydd yn yr erthygl. Yr oedd yn dyrnu'n llawdrwm ar gyfundrefn addysg Seisnigaidd Cymru. Yr oedd yn dweud rhywbeth fel hyn Nad oedd ymgais wedi ei gwneud i ddeall ystyr foesol hanes Cymru, na defnyddio hanes gorffennol Cymru er mwyn rhoi seiliau egwyddorion ysbrydol dyfodol Cymru i lawr yn ddiogelach, ac nad oedd neb o arweinwyr addysg Cymru yn gweld bod i Gymru ddyfodol ar wahan i'r Saeson. Yn fyr yn ôl y llith, ni allai neb garu Duw anweledig heb yn gyntaf garu ei frawd gweledig, brawd y Cymro oedd Cymro arall. Y dewis. Dylswn gael blas arni gan fy mod yn ei chredu bob gair ond cofiwn yn dda i'r un gwr roi'r dewis imi, pan glywsai fod fy mryd tr ddysgu Cymraeg, o adael Cymraeg neu 'adael ei Goleg ef. Yr oedd yr Efengyl yn fwy na iaith a chenedl-hynny yw, yn fwy na'r iaith Gymraeg a chenedl y Cymry, ond nid yn fwy na Groeg a Saesneg a Hebraeg, yn ôl ei farn bendant ef. Yn ei sêl a'i ymddiried yn rhesymoldeb ei gynnig imi tybiodd fod dewis yn hawdd-felly yr oedd, oblegid nid oedd bywyd yn fywyd imi oni chawn ymroi i geisio gwasanaethu Cymru. Nid wyf yn tybio bod neb yn cael gweled- igaeth newydd ar ôl ugain oed. Geill dyn gael cynlluniau newydd bob dydd o'i fywyd am y gweddill o'i oes, a'u cyfrif yn weledig- aeth bob un, ac nid wyf yn tybio mai gweledigaeth newydd oedd wrth wraidd yr erthygl hon. Lle rhagorol i farnu'r pethau hyn oedd y maen yng nghilfachau'r Cloth Hall. Ar ôl bod am dipyn gerllaw yma yr oedd dyn wedi rhoi o'r neilltu bopeth dianghenraid- pethau fuasai'n bwysig gynt yn ymddangos yma fel pe perthynent i ryw stad arall o fywyd ac wedi colli pob diddordeb ond diddordeb atgofion pell. Pader wythsill. Ychydig nosweithiau cyn hynny yr oeddwn i a thri magnelwr arall o dan len byg gerUaw'r bedd bach, a'r hen 15 modfedd oedd gan yr Ellmyn yn Houlthust yn tanio arnom bob deng munud bron drwy'r nos. Clywem y tanio yn amlwg yn Houlthust, yna cyfrifem wyth fel tician pendil hen gloc mawr, ac ar yr wyth byddai'r belen yn disgyn. Yr wyf yn cofio'n iawn mai wyth a gyfrifid gennym, oblegid yr oeddwn i wedi gwasgu'r Pader i wyth sillaf ac yn adrodd y rhai hynny bob yn sillaf yn lle cyfrif Dy-E- wyll-ys-Di-a-wnel-er, a byth er hynny y mae gennyf o leiaf bader wythsill rhyngwyf a'r gwaethaf. Wrth godi o'r maen i droi tuag yn ôl, tarewais fy llaw ar ddarn o farmor gwyn. Yr oeddwn i fynd i'r Somme yn union a chollais bopeth yno ond y garreg wen hon. Fy Marn ar Waith Fy Athro-parhad Un o wendidau rhamantiaeth yw bod ei byd delfrydol hi mor ansylweddol ac mor amhosibl. Yr unig fyd arall yw'r byd ysbrydol, ac ni all dim drawsnewid bywyd ond iechydwriaeth a gras, ond nid yw'r rhain yn ymwybod barddonol y rhamant- wyr. Y mae ganddynt gydymdeimlad â'r Eglwys Gatholig, ond y mae yn y cydym- deimlad hwnnw lawer o ddiddordeb hynaf- iaethol. Rhamantu canu caeth. Hoffa'r rhamantwyr adfeilion hen fynach- logydd canant am baderau," oriau a gosberau soniant am fynachaeth, heddwch a llawenydd y grefydd honno, ond ni ddywedant ddim am ei hymwadiad hi a'i disgyblaeth. Y maent yn meddalu'r Oesoedd Canol, ac yn annheg tuag at eu hoes eu hunain. Nid yw'r goleuni a'r gwirionedd wedi mynd, ac ni ddarfu pob dewrder a boneddigrwydd. Deued y rham- antwyr i blith gweithwyr Sir Forgannwg a gwladwyr Sir Gaerfyrddin. Camp Gwynn Jones, fel bardd, yw iddo, drwy ei feistrolaeth ar fesurau cerdd dafod a'r gynghanedd, ei wybodaeth o hen eiriau, hen gystrawennau a chwedlau'r Oesoedd Canol, wneuthur y rhamantiaeth hon yn rhan o draddodiad y canu caeth, a thrwy hynny ei ledu a'i gyfoethogi. Ni ellid gwneuthur hynny cyn diwedd y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon. Y traddodiad berddig. Y feirniadaeth lenyddol ramantaidd a ddangosodd i ni werth y Mabinogion a'r chwedlau Arthuraidd, eu gorganmol, a'u Ar ôl y llanast, digwyddwn fod gerllaw Amiens ac wrth fôn yr un clawdd â mi yr oedd Serjeant o'r Royal Scots. Naddu carreg fedd. Byddai ambell astell o goed da yn dyfod i fyny weithiau fel rhan o gistiau bwyd. Gwelwn y Serjeant hwn yn naddu a naddu a'i gyllell drwy'r dydd. Ymhen deuddydd neu dri troais i edrych beth oedd ganddo- naddu enw a bathodyn y Boyal Scots yr oedd ar ddarn o bren o gist, ac nid wyf yn tybio y gallai'r un cerfiwr ei naddu'n well yn ei weithdy, a chael ei ddewis o bob pren dewisol. Naddu carreg fedd i'w gyfaill pennaf yr oedd. Dechreuais innau naddu fy nhamaid marmor gwyn a dygais ef gyda mi a llythyren gyntaf enw'r sawl a ddanfonasai'r blodau ynddo. Gobeithiaswn allu rhoi'r darn bach ar fedd Hedd Wyn, ar ôl methu rhoi'r blodau, ond yma y mae, a phob tro y byddaf yn edrych arno yr wyf yn cofio am y gwersi a welais wrth chwilio am ei fedd a'r gwersi y bûm oddi ar hynny yn ceisio eu dysgu i mi fy hun yn ei gymdeithas er nas gwelais i ef erioed. Ofer ymddiried mewn muriau na geiriau brenhinoedd na'r un gormeswr mewn byd nag eglwys, a gorau byw-byw yng nghysgod wythsill o bader gan anghofio pob cyfrif arall. disgrifio fel cyfraniad pwysicaf Cymru i lenyddiaeth Ewrob. Yr oedd barddoniaeth yr hen feirdd yn gyfraniad llawer pwysicach. Nid oedd a fynnai'r beirdd â'r Mabinogion a'r chwedlau Arthuraidd. Y rheswm am hyn, yn ôl barn Gwynn Jones, oedd nad oedd adrodd stori yn y traddodiad berddig. Y mae'r rheswm yn ddyfnach na hynny. Nid oedd a fynnai'r beirdd ddim â'r byd rhamantaidd, rhyfeddodau hud a lledrith mabolgampau ffansi a dychymyg. Byd cad a brwydr oedd eu byd hwy, lle'r ymladdai'r dewrion ac y cwympai'r cedyrn, lle'r hedai cigfrain ac yr udai bleiddiaid byd llys a phlas, a'u gwleddoedd a'u meirch a'u cwn; byd eglwys a mynachlog lle'r ymdrechai'r saint osod seiliau'r grefydd Gristnogol yn naear Cymru. Yr oedd eu byd hwy yn fyd real, yn fyd cenedlaethol a Christionogol. Blodeuwedd, Olwen, Rhiannon. Ond daeth o'r diwedd, ym marddoniaeth Gwynn Jones, Arthur a'i farchogion, Myrddin Blodeuwedd, Olwen a Rhiannon, y macwyaid melynwallt a'r rhianedd palîog, sindalaidd i mewn, gyda'r hwyr, drwy borth castell y canu caeth. Mewn gair, gwnaeth Gwynn Jones ramantiaeth yn glasur. Gwnaeth Hughes a'i Fab gymwynas â darllenwyr barddoniaeth Gymraeg diwy gyhoeddi gweithiau Gwynn Jones yn chwe chyfrol unffurf. Y mae'r rhwymiad, y llythyren a'r papur yn foddhad i'r llygaid. Byddant yn addurn ar silff llyfrgell pob llenor. O'r tair cyfrol a gyhoeddwyd eisoes, Caniadau yw'r bwysicaf, o ddigon; ac, yn ôl pob tebyg, y gyfrol bwysicaf o'r chwech.