Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llyfrau Diweddaraf CYFRES HANES CYMRU Llyfr III. LLYWODRAETH Y CESTYLL Gan W. AMBROSE BEBB, M.A. Gyda llu o Ddarluniau. 242tt. Yn y llyfr deniadol hwn adroddir hanes y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg a'r Bymthegfed, mewn modd diddorol, clir a digwmpas. Adroddir yr hanes, gan mwyaf. o gwmpas bywydau y prif arwyr yn y cyfnod-heb anghofio'r beirdd. Er iddo gael ei ysgrifennu'n fwyaf arbennig ar gyfer plant o ddeuddeg i un ar bymtheg oed, bydd yn dda iawn gan laweroedd o rai henach ei gael. Yn Barod. CANIADAU GWILI I44tt. Llian Hardd, 3/6. Gwili's poetry will be welcomed by many people both for its own sake and as a contribution to the history of Welsh literary development in the early years of the century. The earliest lyric in this book is dated 1894. It requires some courage, I should think, to go back forty years, but on the whole I think the garnering in the fields of the past is justified. Much of the early work is remark- ably mature, and there is skilled craftsmanship in such things as Y Ddau Frawd I am glad to see here some things that it was not easy to come by before. Trystan ac Esyllt is an accomplished piece of work. as is. Mair. Ei Fam Ef.' "-Celt, in Liverpool Post and Mercury." Llyfr anghyffredin o ddiddorol a chlir. RHYFEDDODAU'R CREAD Gan GWILYM OWEN. M.A.. D.Sc.. Aberystwyth. Gyda Chwech o Ddarluniau. Lliain, 2/6. Y mae Rhyfeddodau'r Cread yn darllen mor rhwydd â stori, ac arweinia'r athro ni i bellteroedd y cyfanfyd, neu i gnewyllyn yr atom, yr un mor ddeheuig a Syr James Jeans."—" Y Brython." Dyma'n wir briffordd' i hanes Cymru. Y FFORDD YNG NGHYMRU Gan R. T. JENKINS. M.A. Gyda 25 o Ddarluniau. Lliain, 2/3. Nid daearyddiaeth o bell ffordd yw'r wedd a gymer Mr. Jenkins ar ei fater, ond Y Ffordd fel y mae hi yn ddarlun o hanes Cymru-yn gefndir i ddigwyddiadau a symudiadau a chymeriadau a adawodd eu hól ar fywyd Cymru."—" News Chronicle." A Standard Work, of permanent value," meddai'r Manchester Guardian am CYMRU'R OESAU CANOL Gan yr Athro ROBERT RICHARDS. 450 tt.. gyda llu o Ddarluniau. Lliain Hardd 15/- net. Gwelir teithi a nodweddion bywyd ein pobi yn ymwthio'n ^yson i'r golwg ym mhob pennod Haedda'r Athro a Cwasg Wrecsam ein diolch mwyaf diffuant am rodd mor werthfawr i'n llenyddiaeth."—" News Cheonicle." The whole story is admirably told. Jt is a book to possess and to read again and again. —" The Welsh Outlook." Ar werth gan Lyfrwerthwyr ym thobman. HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM Cyfrol Odidog I Caniadau 1 T Gwyen J ones Prif ddarnau barddon- iaeth yr Athro yn cynnwys cyfrol Gwasg y Gregynog a dwy gerdd yn ychwaneg Cyfres ddigyffelyb ydyw'r chwe chyfrol о Weithiau'r Athro T. Gwynn Jones, a ddaw allan o Wasg Wrecsam, a'r drydedd ohonynt ydyw y Caniadau sydd newydd ei chyhoeddi. Cyfrol odidog ydyw hon, ac yn cynnwys cynnyrch meddwl gorau yr awdur. Cynhwysa ei weithiau mawr, megis Ymadawiad 2 Arthur," Gwlad y Bryniau," Anatiomaros," Tir Na N-og." Y mae paradwys ymhob tudalen y troir iddi. Ni flinir ac ni ddiflesir ar y cynnwys. Cyfrol ddihafal ydyw hon. Y mae wedi ei throi allan yn brydferth y papur yn wyn a'r print yn glir, y llythyren goch a geir ynddo yn ei harddu, a'r clawr yn ddeniadol gyda'r lliw rhudd-goch a'r llythrennau aur. Cym- wynas anfesuradwy â llên Cymru, ac â gwerin gwlad ydyw cyhoeddi'r gyfrol am bris mor afresymol o isel.' g ­Y Genedl Gymreig. Cloriau lliain graen lledr a llythyren aur, papur gwych. (Gwneir cant o gopiau ar felwm Japan gyda lledr brych wedi eu har- wyddo gan yr awdur, 21/- y gyfrol) Yn yr un gyfres: MANION CYMERIADAU Trwy unrhyw Lyfrwerthwr Hughes a'i Fab, Cyhoeddwyr, Wrecsam