Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYRAU SYTH O'R SWYDDFA Yr Henadur Willìam George, Crideth, Eifionydd. ANNWYL MR. WILLIAM GEORGE,—Tipyn o daranfollt yng nghwrdd Llywodraethwyr Coleg Aberystwyth, yn Nolgellau, oedd eich sylwadau ar adroddiad y Pwyllgor Addysg Milwrol. Cydolygwn â chwi na ddylai Cymru ddilyn Lloegr yn rhy gaeth yn yr arferiad hwn oblegid yno y mae bron yn orfodol ymuno â'r Cyngor Hyfforddi Swyddogion a dylid ystyriaid cyhoeddi nad yw paratoi efrydwyr at ryfel yn un o ddyletswyddau coleg." Codasoch yr un pwnc hefyd yng nghyngor Bangor a threfnwyd gan y ddau gyngor i drafod y peth yn eu cyrddau Llywodraeth- wyr. Gwerthfawr iawn yw cael un fel chwi yn rhoi'r bêl ar dro fel hyn. Y mae'n bwysig i'r cyhoedd ddeall y sefyllfa. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. Y Parchedig Gwilym Davies, Penarth, Morgannwg. ANNWYL MR. Davies, — Fel un o ochrwyr Cymru ymhlaid heddwch a diwylliant-radio, gwnaethoch waith mawr o dan anfanteision lawer. Nid syndod inni felly eich gweld yn ymdaflu i achos da arall, sef achos llyfrau Cymraeg. Ar eich teithiau cyfandirol, ni gredwn, y cafodd y syniad le yn eich meddwl gyntaf; gwelsoch y byddai i wythnos lyfrau ar Wyl Ddewi, yng Nghymru, â phawb yn pwrcasu o leiaf un o'r miloedd llyfrau a arddangosid ynddi, y byddai iddo wneuthur llawer o les. Y mae eich GØ1 Lyfrau yng Nghaerdydd yn chwe blwydd oed eisoes, ac wedi tyfu'n bren blodeuog a ffrwythlon. Da y gwnewch yn hau yr had da yn ein trefi eraill, ar unwaith. Y mae posibilrwydd y sefydliad yn rhy eang iddo fynd i lawr. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. Y Canon C. F. Roberts, Uywydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, Llanelwy, Sir Fflint. ANNWYL GANON ROBERTS,—Llawen gennym i'r Gymdeithas Hynafiaethau eich ethol chwi yn llywydd arni yn ystod y flwyddyn nesaf. Nid yn unig buoch ddygn wrthi fel ysgrifennydd y gymdeithas ers dros bymtheng mlynedd bellach, eithr yr ych hefyd yn un o awdurdodau cydnabyddedig gorau Cymru ar ei hen bethau. Carem alw sylw'ch Cymdeithas at hen gartrefi enwog Cymru y ceisir o dro i dro eu chwalu, er mwyn dibenion masnach a thrafnid. Pan fygythiwyd gyntaf droi ty'r Ficer, Llanddyfri, yn fodurdy y gwelsom yn eglur mor ddiallu ydym i ddiogelu yr hen gartrefi hyn. Dyma waith arbennig y gall cymdeithas fel yr eiddoch chwi wneuthur llawer drosto, a'n gobaith yw y gwna. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. Y Llywydd, Trefnyddiaeth Ddatblygu Dwyrain Dinbych, Wrecsam. ANNwYL Mr. Wil DODMAN,—Fe anfonodd Cyngor Datblygu De Cymru lythyr i'ch pwyllgor chwi yn ddiweddar, yn gofyn i'ch pwyllgor gymryd ei fabwyso ganddynt hwy, modd y gallent eu teitlo'u hunain yn Gyngor Datblygu Cymru a Mynwy." A dyma'r ateb a roesoch i'r llythyr Os dêl mudiad i ffurfio cyngor cenedl, bydd ein trefnyddiaeth ni yn barod i ystyr- iaid ymuno ag ef. Ond yn sicr, yr ym yn erbyn i'ch cyngor chwi hawlio'r teitl hwnnw iddo'i hun." Oni all mai camgymeriad oedd y cam hwn gennych ? Ac oni all trefniant bach ddyfod yn rhan o drefniant mawr heb ymgolli ynddo a heb ollwng gafael yn yr un o'i hawliau ? Yn sicr, fe all cyngor cenedl wneuthur llawer peth na all un lleol byth obeithio'i gyflawni. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. Syr Howel Jones Williams, Pyrford Place, Swydd Surrey. ANNWYL SYR Howel, — Bwriad uchelgeisiol yw hwnnw o'r eiddoch i sefydlu gwir gar- tref oddi cartref" i ymwelwyr Cymreig â Llundain o bob parth o'r byd. Gwir bod Cymdeithas y Cymry Ieuainc eisoes yn berchen ty mawr yn Mecklenburgh Square, yn ogystal â neuadd eang a adeilad- wyd ar sail gerddi pedwar o dai eraill a chwalwyd. Ond yr y'ch chwi am fynd ymhellach na hyn a phrynu chwech o dai eraill, a chodi yn eu lle neuadd a chlwb. Eto i gyd, trueni fyddai chwalu'r tai hynafol hyn, fel y darperir ato dan eich cynllun, a chodi nenadd newydd ar eu sail. YN RHIFYN NESAF Y FORD GRON Llu o erthyglau gwych, yn r cynnwys BRO DEWI SANT, gyda darluniau, gan A. H. Jenrins. PERYGLON ADDYSG HEDDIW, gan D. T. Jones, Cyfarwyddwr Addysg Penfro. Y PORTHMYN A'R BANCIAU CYMREIG, gan RICHARD Davibs. Gwell gennym ni fyddai gweld 'cyfuno'r tai fel y maent, na'u distrywio. Eithr chwi wyr a oes modd gwneuthur hyn ai peidio. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. Y Barnwr Atldn, Aberdyfi, Ardudwy. EICH ARGLWYDDLAETH,—Bod eisiau i'r dinesydd cyffredin gymryd mwy o ddiddor- deb yn egwyddorion y gyfraith, dyna oedd byrdwn eich anerchiad gerbron Cymdeithas Bobl Ieuainc Machynlleth y dydd o'r blaen. Meddech Rhaid i rywun sgrifennu llyfr ryw ddiwrnod ar egwyddorion y gyfraith i'r gŵr lleyg. Wn i ddim pwy wna hynny, ond mi hoffwn i ei helpu ef. Edrych y gŵr lleyg arferol ar y gyfraith a chyfreithwyr gyda chryn amheuaeth, oherwydd anwybodaeth. Pan gwynir am ansicrwydd y gyfraith, fe geir yn aml mai prinder ffeithiau pendant i gymhwyso'r egwyddorion atynt yw'r achos o hynny. Nid yw'r gyfraith dderbyniwr wyneb ac y mae'n rhaid i wareiddiad wrthi i gynnal rhyddid mewn trefn ac i amddiffyn hawliau dyn. Nid yw'r ddrwgdybiaeth y soniwch am- dani yn newydd yng Nghymru, fel y dangosir gan Elis Wynn, 200 mlynedd yn ôl. Diolch i chwi am gynnig pontio'r agendor. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron. Mr. Edgar Williams, Pennal, Meirionnydd. ANNwYL MR. WILLIAMS,—Yr oeddych yn haeddu'r gymeradwyaeth a gawsoch ar eich buddugoliaeth ar yr her unawd yn Eistedd- fod Meirion yn ddiweddar. Bugail ydych, ac wrth fugeilio'r praidd byddech yn ymarfer eich cân, gan yfed o hedd a swyn y wlad yr un pryd. Eithr ni ddeallwn yn hollol pam yr oeddych chwi a'r pump oedd yn cystadlu â chwi yn canu yn Saesneg yn yr eisteddfod hen hon, ac yn un o drefi Cymreiciaf Cymrn. Ond odid bod gennych ill chwech reswm am hyn, eithr tarawai yn ddieithr ar lawer clust wlatgar a wrandawai amoch. SYR LAWNSLOD. Y Ford Gron.