Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bardd y Delyneg a'r Faled CAFODD Cymru yn ddiweddar gyne i ddarllen cryn dipyn o waith y bardd hynaws, I. D. Hooson, neu, a rhoi iddo ei deitl barddonol, Hwsn, ac yn ôl y derbyniad a roed iddo ar bob llaw, y mae'r wlad yn dweud wrth y bardd, Melys, moes mwy" Hoff gennyf ddarllen telynegion bardd. Ynddynt hwy yn anad unpeth cawn hyd i synhwyrusrwydd a theimladaeth ei galon ac ni chwilir amdanynt yn ofer yng ngwaith Hwsn. Eto i gyd, nid ymson a wna ef yn ei delynegion, eithr trin gwrthrychau y tu allan iddo'i hun, gyda chraffter a manyldra a chwaeth dda. Cân i destunau fel Yr Ynys Bell," Cyfaill a '` Mynwent Bethel": ambell dro â i fyd atgofion, fel Guto Benfelyn," Wil dro arall i fyd natur Yr Eos." Y Pren Afalau," Y Cudyll Coch." Yn y Cymru coch lawer blwyddyn yn ôl fe ymddangosodd ei gân fach Yr Ynys Belìenig, a ddengys fod y bardd yn feistr, yr amser honno. ar ddychymyg chwedlonol F'anwylyd a ddeui di yno I°r ynys bellenig i fyw Xeb ond yr wylan, ty-di a fy hunan, Ym murmur y tonnau yn byw ? Dwy galon yn unig all droi yr ynysig Bellenig ac unig-ddieithriol o unig Yn fythol baradwys i fyw. Y mae gwychder rhai o'r telynegion hyn fel darnau adrodd wedi tynnu sylw llawer pwyllgor eisteddfod. O'r cyfryw ddarnau, llwyddiannus iawn yw Y Cudyll Coch, gyda'i ddechreuad llwythog o fwllni haf: Daeth cysgod sydyn dros y waun A chri a chyffro Ile bu oerdd Ac uwch fy mhen dwy adain hir Yn hongian yn yr awyr glir. Yna yng nghytgord mydr a geiriau soniarus, dehonglir erch ddrama natur ger ein bronnau A chlywid swn ffwdanus lu Yn ffoi am noddfa tua'r llwyn Mewn arswyd rhag y gwyliwr du Syllu, yna ar amrant yr adenydd hir Dry dan fy nhrem yn flaenllym saeth A honno'n disgyn ar y tir, Ac yna un â'i wich yn groch Yng nghrafanc ddur y cudyll coch. Un o blant y Rhos yw ein bardd ac y mae blynyddoedd o gydymgais, cyd- chwerthin a chydwylo y fro honno wedi eu gwasgu i ganig Y Lamp, a ganwyd wedi Tanchwa'r Groesffordd rai misoedd yn ôl. Dychmygir yma gegin lorn yn cael ei goleuo gan fflam y lamp drwy oriau'r hirnos. Cedwir y drws yn agored er oered y gwynt ac er y taera rhywun fod y llanc o dan y talcen glo â mur o dân o gylch ei wely o." yn y bwthyn llwyd Mae un o hyd a fyn Ddisgwyl ar drothwy'r drws A chadw'r lamp ynghyn. Gan Meredydd J. Roberts Mr. L D. Hooson. Amhosibl casgliad o ganeuon Mr. I. D. Hooson heb ynddo wythïen o arabedd yn rhedeg drwodd. Daw'r haenen i'r golwg yn Wil a Mynwent Bethel. Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn, ac felly Yng nghwrr y goedwig neithiwr, A'r lloer yn hwylio'r nen, Mi welais lygaid gloywon Ac ambell gynffon wen- A thybiais glywed lleisiau Fel mwyn aberoedd pell Yn diolch i'w Creawdwr Fod Wil yn rhwym mewn cell. Pa fodd yr ymetyb cyfreithiwr mewn swyddfa yng nghanol tref fach ddiwydiannol, ddiddychymyg, ddifarddoniaeth braidd, i anterliwt o ddiniweidrwydd gwlad ar ffurf aderyn yn dyfod, yn fawr ei ffwdan, drwy y ffenestr ? Fel hyn, os ydyw fardd Paham, paham, aderyn hardd, Y daethost ti i swyddfa'r bardd- I le mor llwm, mor groes i'th reddf, O'r llwyni ir at lyfrau'r ddeddf O'r awyr rydd i gyfyng rwyd Ystafell fwll cyfreithiwr llwyd (Ond bardd, sy'n caru fel ty-di Gytgan y dail a murmur lli, A phob rhyw liw a llawen gerdd A geir mewn maes a choedlan werdd ?) Paid bod mor wyllt, aderyn ffôl, Paid hedeg, hedeg 'mlaen ac ôl Paid garwhau dy liwiog blu Does yma neb ond cyfaill cu Paid, paid â chrynu yn fy llaw, Cei fynd yn ôl drwy'r gwynt a'r glaw, Gwêl-mi agoraf lydan ddrws, Dos dithau, dos, y bychan tlws. Anodd cael enghraifft well o wasgu llawer i ychydig nag yn nhelyneg Y Rhwyd. Gellir cymhwyso'r disgrifiad o gelfyddydwaith at y gân hon yn anad un-dim gair yn ormod, dim gair yn brin. Ynddi fe ddisgrifir fel y bu'r bardd yn syllu ar rwydwaith arian yn cael ei wau ar frigau'r perthi a gwynion flodau'r drain." Rhaid mai hawddgar a theg yw'r un a weithiodd gampwaith mor hardd ei lun, ebe'r bardd wrtho'i hun. Ond- Gwyliais — ac wele'r gweithiwr Yn brysur wrth ei waith, Ac nid oedd degwch iddo Na dim hyfrydwch chwaith. Ac yn y rhwydwaith arian Ymwingai dryslyd ddau- Prydydd a'i awen ysig, Pryfyn a'i adain frau. Gall bardd ddangos llawer o bersonoliaeth wrth adrodd stori ar gân, ac fe gawn y sylwedd drud hwn ym maledi Mr. Hooson. Credwn mai yn y dosbarth hwn o'i waith y rhoddodd ddawn i'n llên~-dawn fu'n fud yn ein mysg er dyddiau'r Blotyn Du a chaniadau tebyg. Ceir digwydd dramatig, symud cyflym, disgrifiadau ffres yn y baledi Guto Nuth-y- frân, Yr Hen Dwm, Barti Ddu, a'u gwna yn llwyddiant perffaith. Yn Barbados yr oedd llongau mawr Yn Barbados cyn toriad gwawr,- Dacw Barti Ddu A'i forwyr lu, Yn byrddio y llongau cyn toriad gwawr. -dyma gyfle godidog sydd yn Barti Ddu i feistr, boed adroddwr neu gantor, fel y gwyr y sawl a glywodd eisoes gystadlu ar y darn. Yn Y Fantell Fraith (cân i blant, gan I. D. Hooson Hugh Evans a'i Feibion, pris 3c.) fe roddwyd i blant Cymru hafal cân bob tipyn ag sydd gan y Saeson yn y Pied Piper of Hamelin. A elw'r gân hon i gronfa Urdd Gobaith Cymru. Pa well disgrifiad a geir o'r llygod mawr yn Rattenfängerhaus enwog Hameln Hanover nag yn y llinellau hyn Haid ar ôl haid Yn ymladd â'r cathod a'r cŵn yn ddi-baid Yn brathu y gwartheg a phoeni y meirch, Yn rhwygo y sachau lle cedwid y ceirch Yn chwarae eu campau dan wichian yn groch, A neidio o'r cafnau ar gefnau y moch Gan wichian a thisian, A herian a hisian Ar ganol ymddiddan y forwyn a'r gwas. Anodd peidio â dyfynnu llawer rhagor o 350 llinell y gerdd hon, nag a ganlyn o enghreifftiau Beth, talu ein trethi i ffyliaid fel hyn, A'u gwisgo mewn porffor a melyn a gwyn, A hwythau yn methu ein gwared o'r pla, Y llygod sy'n ysu a difa ein da. Ar hyn mi glywais ganu a thelyn fwyn ei thant Yn sôn am froydd tirion Paradwys wen y Plant, Ac am ei llethrau tawel, ei dolydd glas a'i choed, A'i chwrlid hardd o flodau na bu eu bath erioed. Telynegion tlws, baledi ar eu pen eu hun. Gwyn fyd na roddai galwedigaeth brysur ychydig mwy o hamdden i'n llenor, modd y gallai roi tro yr un mor llwyddiannus i fyd y ddrama a'r chwedl.