Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Aberystwyth, ein Coleg Hynaf, PRIFYSGOL CYMRU-II. Bu Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, jTi dadlau fwy nag imwaith ddadl y safleoedd. I bob golwg, y mae'r ddadl vn awr wedi'i phennu am byth, ar "safle Penglais." Brwd fu'r gri dros safle'r coleg presennol, yn enwedig ymhlith hen efrydwyr y Coleg, eithr yng nghyfarfod y Pasg, 1933, fe gyt- unodd yr hen efrydwyr hefyd i gefnogi'r Cyngor dros y safle newydd. Y mae llawer o fanteision yn eiddo'r safle hon, meddai ei hyrwyddwyr cewch yno ddigon o dir i chwyddo maint y coleg arno yn y dyfodol, mewn llecyn gwledig, tawel, di-dai, uwchben y môr, heb fod nepell oddi wrth y Llyfrgell Genedlaethol. Rhodd Mr. Davies Bryan. Pam y mae'n rhaid symud o gwbl ? Dadleuir bod yr hen adeilad yn anghymwys gyda'i ystafelloedd bach a'i brinder tir i ymhelaethu arno. Ni allwn gyfaddasu'r adeiladau hyn i'r anghenion dygn y sydd," meddai adroddiad Pwyllgor y Rheidiau. Un o brif ysgogiadau'r penderfyniad i symud fu cynnig haelionus Mr. J. Davies Bryan, cyn-efrydydd o'r coleg, i gyflwyno yn ddi-gost 85 erw o dir ar Benglais, gyferbyn â'r Llyfrgell Genedlaethol, tuag at godi'r coleg newydd. Derbyniwyd y cynnig gan y pwyllgor gyda pharodrwydd, a'r diwedd fu darparu rhag-gynlluniau o'r tir a'r adeiladau, gydag amcan-gyfrif o'r gost. Yn yr amcan-gyfrif o £ 487,000 fe gynhwysir ystafelloedd i adrannau'r celfyddydau a'r gwyddorau, Amaeth, Cerddoriaeth, y Llyfr- gell, Orielau, Swyddfeydd, Neuaddau a Gwestai. Coleg Aber. Itían Ouen Davie*. Coleg Aberystwyth yw'r hynaf o'n colegau cenedlaethol. Y mae ei hanes ef a'r tri choleg arall sy'n gwneuthur Prifysgol Cymru yn ddangoseg o'r modd y gall ewyllys cenedl goncro anawsterau-drwy ymdrech na cheir hafal iddi, meddir, yn un wlad dan haul. Mor fuan â 1852 bu Hugh Owen ac Osborne Morgan yn cyhoeddi pamffledau ac yn annerch cyfarfodydd o blaid cael prifysgol i Gymru, yn bennaf oll i hyfforddi athrawon i ysgolion y wlad. Gwahoddodd Hugh Owen gyfarfod o brif Gymry Llundain yn 1854, a chyda llaw, o hwnnw y tarddodd, yn anuniongyrch, y coleg Normal ym Mangor. Wedi amryw bwyllgorau pellach yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, gyda Thomas Gee a Hugh Owen yn brif siaradwyr, ac yn Abertawe, etholwyd pwyllgor gwaith â Dr. Nicholas, Caerfyrddin. yn ysgrifennydd iddo, i sefydlu prifysgol ar unwaith," ac addawyd symiau mawr o arian. Wedi peth ymgodymu ynglýn a safleoedd, prynwyd y Castle Hotel, Aber- ystwyth, yn 1867. Hugh Owen yn Pwyllgora. Yn y pwyllgor cyffredinol o gant o aelodau a ffurfiwyd yn 1868, anfonwyd y cais cyntaf i'r Llywodraeth am gefnogaeth eithr eu gwrthod a wnaethpwyd, gan y Prifweinidog, Disraeli. Yr oedd cronfa o £ 17,000 mewn llaw erbyn 1870. Anogai Cymry Manchester yn daer y dylid agor y coleg ar unwaith, a heriasant Gymry Llundain, Lerpwl, a'r famwlad i gasglu'r f:3,000 y flwyddyn oedd yn eisiau. Llifodd yr arian i mewn, a chyfrannodd Aberystwyth yn anrhydeddus i'r gronfa. "Y Coleg ger y Lli." Agorwyd y coleg ar y 15 o Hydref, 1872, gan ddwyn i ben fudiad Syr Hugh Owen a'i gydweithwyr. Yno y daeth ieuenctid o bob rhan o Gymru ac o bob credo a dibenion wyneb yn wyneb am y tro cyntaf, gan wneud llawer i uno Cymru. Ymdrech y dechrau. Mawr fu'r ymdrech yn ystod y deng mlynedd cyntaf i gael deupen y llinyn," heb ddim nawdd onid cyfraniadau gwirfodd dosbarth canol a gwerin Cymru. Credir y cyfranwyd £ 60,000 drwy gasgliadau yn yr eglwysi a'r capeli. Meddai'r Prifathro T. C. Edwards, g-wr y bu'r Coleg yn ffodus wrth gael ei wasan- aeth, am y cyfhod hwn Gorfodir ni i ffurfio'r Coleg ein hunain. Ni allwn syrthio'n ôl ar brofiad cyneifiaid nac ar draddodiad y gorffennol. Na fraw- ycher os gwnawn gamgymeriadau." Cam newydd yn hanes y coleg oedd i Arglwydd Aberdâr, llywydd cynta'r coleg, anfon cais at Mr. Gladstone am Bwyllgor Adrannol i ymchwilio i addysg Ganol yng Nghymru. Adroddodd y Pwyllgor Adran- nol hwnnw pan gyfarfu yn 1881 y dylid cael 0 leiaf ddau goleg yng Nghymru. Yr adeg hon fe roddodd y Llywodraeth, am y tro.cyntaf erioed, rodd tuag at gynnal Coleg Cymreig, a dderbyniwyd gan Aberystwyth yn 1882. Ceisio'r Siarter. Pan agorwyd y Coleg ym Mangor yn 1884, wedi dyfarniad eawog Pwyllgor Caer, aeth rhodd Aberystwyth i'r coleg newydd, gan beryglu'r hen goleg unwaith eto. Eithr